Skip to Main Content

Fel arfer nid canolfannau ailgylchu cartrefi yw’r lle cyntaf y byddai rhywun yn ymweld ag ef pe baen nhw’n chwilio am rywbeth hynafol neu werthfawr.  Ond mae darganfyddiad diweddar o hen lyfrau wedi syfrdanu casglwyr a darllenwyr chwilfrydig, fel ei gilydd. Mae casgliad o hen lyfrau gan P.G Wodehouse, a oedd ar gyfer y domen, wedi eu cadw gan gydweithwyr Suez yng Nghanolfan Ailgylchu Cartref Five Lanes ger Cil-y-coed, a dybir eu bod yn werth cannoedd o bunnau. Suez yw contractwr y cyngor sy’n gofalu am bob un o’r tair canolfan ailgylchu gwastraff y cartref yn Sir Fynwy.

Fe wnaeth y llyfrau, a gafodd eu gollwng llynedd yn y ganolfan ailgylchu’r, ddal llygad cydweithwyr, a oedd yn credu y gallen nhw fod yn werthfawr. Am ddod o hyd i’w gwerth, fe gysylltodd staff Cyngor Sir Fynwy â chasglwr llyfrau yn Nhyndyrn. Esboniodd y casglwr pa mor rhyfeddol oedd dod o hyd i’r casgliad ac mai prin oedd cael llyfrau gyda’u deunydd lapio gwreiddiol.  Roedd P.G Wodehouse yn awdur Seisnig ac yn un o ddigrifwyr mwyaf poblogaidd yr 20fed ganrif. Roedd ei lyfrau’n cynnwys y cymeriadau enwog, Bertie Wooster a’i was personol, Jeeves. Credir bod un o’r llyfrau yn unig werth dros £200.  

Dywedodd Chris Williams, Arweinydd Tîm Canolfan Ailgylchu Five Lanes: “Roedd y llyfrau hyn yn ddarganfyddiad gwych. Mae’n dda gwybod eu bod wedi eu hachub, a bydd rhywun gobeithio’n eu trysori.  Bob wythnos mae rhywbeth newydd yn dod mewn a dydych chi byth yn gwybod beth rydych chi’n mynd i’w gael. Yn ogystal â’r hen bethau a’r pethau casgladwy, mae gennym hefyd lwyth o eitemau defnyddiol bob dydd y mae ein cwsmeriaid yn eu caru.”

Nid dyma’r tro cyntaf i rywbeth gwerthfawr gael ei adfer o’r canolfannau ailgylchu.  Arbedwyd hen degan prin Mickey Mouse o’r domen sbwriel yn gynnar yn 2022 diolch i gydweithwyr craff yn Suez. Gwnaed y tegan yn wreiddiol yn un o wneuthurwyr tedi hynaf y DU ym Mhont-y-pŵl ac fe’i rhoddwyd yn y pen draw i Amgueddfa Pont-y-pŵl, ac felly â chartref newydd haeddiannol lai na milltir o’r hen ffatri lle cafodd ei wneud yr holl flynyddoedd yn ôl.

Dywedodd y Cynghorydd Sirol Catrin Maby, Aelod Cabinet Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd:  “Mae ein Siopau Ailddefnyddio wedi bod ar agor ers tro nawr ac rydym yn parhau i gael ein synnu gan yr eitemau unigryw a phrin sy’n ymddangos.  Mae’n hyfryd gwybod bod y llyfrau arbennig yma wedi eu hachub o’r domen ac y bydd rhywun yn gallu eu mwynhau am flynyddoedd lawer i ddod.”

Dywedodd Roger Sealey, Rheolwr Gweithrediadau ailgylchu ac adennill SUEZ UK, “Dyma enghraifft wych arall o ailddefnyddio eitemau sydd i fod i gael eu gwaredu. Diolch i’n staff craff a’u chwilfrydedd brwd llwyddwyd i achub y casgliad rhyfeddol hwn o lyfrau clasurol.  Rydym yn monitro’r cynwysyddion gwastraff yn gyson ac yn siarad â defnyddwyr y safle i achub unrhyw eitemau, ond byddem yn annog unrhyw un i sgwrsio ag un o’n cydweithwyr ar y safle os ydych yn ansicr a ellir ailddefnyddio rhywbeth. Hyd yn oed os ydych yn meddwl nad yw’n werth unrhyw beth, mae siawns y gall rhywun arall ei fwynhau a helpu i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd”.

Y gobaith yw y bydd y llyfrau, sy’n cael eu gofalu amdanynt yn ofalus gan staff y Siop, nawr yn dod o hyd i gartref newydd. Byddant yn mynd ar werth yng Nghanolfan Ailgylchu Cartref Five Lanes yn fuan. Mae’r elw o’r siopau yn mynd tuag at blannu coed yn Sir Fynwy. 

Mae gan Sir Fynwy ddwy Siop Ailddefnyddio.  Siop Ailddefnyddio Llan-ffwyst sydd ar agor ar ddydd Mawrth o 10am-3pm

Siop Ailddefnyddio Five Lanes sydd ar agor ar ddydd Mercher rhwng 10am a 3pm. Ceir rhagor o wybodaeth a chyfeiriadau’r siopau yn: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/ailgylchu-a-gwastraff/y-siop/