Skip to Main Content
Diwrnod rhyngwladol y merched - Mae'n bwysig, a dyna gyd sydd iddi. Ymunwch a ni ar 8Fed Mawrth 12-6pm Hyb Lles y Fenni (gyferbyn ag Aldi)

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, Dydd Mercher 8fed Mawrth, mae Hyb Llesiant y Fenni yn cynnal gweithdy sy’n darparu gwybodaeth, cymorth a hyrwyddo Urddas Mislif.

Rhwng canol dydd a 6pm, mae croeso i unrhyw un alw heibio a chymryd rhan yn y digwyddiad a drefnir gan Gyngor Sir Fynwy. P’un a ydych yn rhiant sydd am gyngor ar sut i siarad â’ch plentyn am y mislif, am wybod am gynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio, neu hyd yn oed wneud eich tywelion mislif eich hun y gellir eu hailddefnyddio, mae digon o resymau i ymweld â ni.

Hefyd mae croeso i dadau sydd â phobl ifanc sydd tua oedran y mislif a byddant yn cael cyfle i dynnu llyfr ‘Dads and Pads’ sydd wedi’i anelu’n benodol ar gyfer tadau, ynghyd â chynnyrch math ‘tro cyntaf’.

Mae’r Gweithdy Urddas Mislif ar ddydd Mercher 8fed Mawrth yn rhan o waith Urddas Mislif Cyngor Sir Fynwy, sy’n cael ei gefnogi gan gyllid Llywodraeth Cymru.

Sefydlodd Molly Fenton o Gaerdydd yr ymgyrch ‘Caru’ch Mislif’ tra’n fyfyrwraig 18 oed Lefel Uwch. Ers hynny, mae’r ymgyrch i roi terfyn ar dlodi a stigma mislif i ddisgyblion ysgol ar hyd a lled Cymru wedi tyfu o nerth i nerth.

Bydd TogetherWORKS Cil-y-coed yno i helpu i wneud pecyn o dywelion mislif y gellir eu hailddefnyddio, a bydd Sally Amos, ymarferydd ysgolion iach, yn rhedeg sesiwn Holi ac Ateb am fislifoedd iach.

Bydd Claire Duddridge o Little Pips yng Nghil-y-coed yn dod â Heti’r Carafán Cwtsho Bach. Mae’n ofod diogel ac yn rhoi cyfle i rieni fwydo’u babanod, newid cewynnau, cynhesu poteli neu ond manteisio ar bum munud i ffwrdd o’r dorf. Bydd Claire hefyd wrth law i sgwrsio am les.

Bydd y tîm hefyd yn dosbarthu cynnyrch Hey Girls a TOTM am ddim a byddant yn fwy na pharod i sgwrsio trwy opsiynau gyda chi. Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer gweithdai urddas mislif Chi Cynaliadwy, Fi Cynaliadwy.

Bydd gwybodaeth hefyd ar gael am y menopos ac o ran Cymorth i Fenywod.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Catherine Fookes: “Mae’r gwaith Urddas Mislif yr ydym yn ei wneud, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn gam pwysig ymlaen o ran dileu’r stigma sy’n gysylltiedig â mislifoedd. Gobeithiwn drwy weithio gyda’n gilydd y gallwn gefnogi pobl ifanc a phobl o bob oed gyda gwybodaeth a digwyddiadau fel hyn.  Mae’n addas y dylai hyn ddigwydd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ac rwy’n annog unrhyw un a allai fod o gymorth i fynd draw ar unrhyw adeg rhwng hanner dydd a 6pm.  “Mae llawer yn profi tlodi mislif oherwydd yr argyfwng costau byw, felly mae’n bwysig gwybod bod bellach gynhyrchion misglwyf tafladwy ailddefnyddiadwy a chynaliadwy/di-blastig ar gael mewn dros 40 o leoliadau ledled y sir, gan gynnwys canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac ysgolion. Gyda’n gilydd gallwn fynd i’r afael â Thlodi Mislif a hyrwyddo Urddas Mislif.”

Y Cynghorydd Dywedodd Angela Sandles, Aelod Cabinet ar gyfer Ymgysylltu:  “Hoffwn ddiolch i Molly Fenton a’r holl sefydliadau dan sylw am ddod at ei gilydd ar gyfer y gweithdy hwn.  Trwy estyn allan i’r gymuned, ac i bobl ifanc drwy ysgolion, gobeithio y gallwn ni atal mislifoedd rhag bod yn bwnc tabŵ. Wrth i ni symud ymlaen, byddwn yn gweithio gydag ysgolion, clybiau chwaraeon, a mwy o sefydliadau i gynnig cynnyrch ac addysg o amgylch mislifoedd iach.”

Meddai sylfaenydd Caru’ch Mislif, Molly Fenton: “Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi y bydd yr Ymgyrch Caru’ch Mislif yn mynychu digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Cyngor Sir Fynwy yn y Fenni ar Fawrth 8fed. Mae urddas a thegwch mislif yn rhan hanfodol o fywydau’r rhan fwyaf o fenywod, ac yn rhywbeth sy’n dal i fod yn rhwystr i gymaint o bobl pan mae’n dod at gydraddoldeb rhyw, felly mae’n bwysig ein bod yn cydnabod sut mae’r cylch mislif cyfan yn gweithio ac yn newid ein bywydau o ddydd i ddydd.”

Cynhelir y gweithdy ‘Urddas Mislif’ yn Hyb Llesiant Y Fenni (gyferbyn ag Aldi) o ganol dydd i 6pm ddydd Mercher 8fed Mawrth.

Os ydych yn rhan o grŵp neu sefydliad cymunedol ac yn dymuno holi ynghylch cynnal gweithdy cysylltwch â staceywhite@monmouthshire.gov.uk