Skip to Main Content

Bydd Cabinet Cyngor Sir Fynwy yn ystyried ei gynigion cyllidebol terfynol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod yn ei gyfarfod ar 1 Mawrth.  Ar ôl cymryd rhan mewn ymarfer ymgysylltu trylwyr iawn gydol mis Ionawr, mae cynghorwyr, trigolion ac amrywiaeth o sefydliadau wedi cael cyfle i rannu eu barn ar gynigion ‘drafft’.

Mae’r ddadl wedi bod yn onest, yn agored ac yn drylwyr.  Mae mwyafrif y bobl sydd wedi cynnig barn wedi cydnabod pa mor anodd yw’r sefyllfa ariannol a bod y rhagolygon tymor canolig yn edrych yn heriol.  Maent wedi cydnabod pwysau fel gwobrau cyflogau’r sector cyhoeddus, prisiau ynni a nwyddau ochr yn ochr â chynnydd sylweddol yn y galw am wasanaethau gofal cymdeithasol a digartrefedd a’u cymhlethdod.  Bu’n rhaid rheoli bwlch ariannol o £26 miliwn drwy gyfuniad o arbedion gwasanaeth, cynnydd incwm, cynnydd mewn treth gyngor (5.95%) a defnydd untro o arian wrth gefn.

Mae’r Cabinet wedi cydnabod nifer o bryderon allweddol sydd wedi dod i’r amlwg ac mae’n argymell cyfres o newidiadau i’w gynigion cyllidebol.

a) Mae’r Cabinet yn cydnabod yr heriau penodol ynghylch cyflawni arbedion o fewn gofal cymdeithasol i oedolion. Bydd £1miliwn o arbedion yn cael eu gohirio tan 2024/25.

b) I gyfyngu’r cynnydd ffioedd i fynychu clybiau cyn ysgol o £1 i £2 y dydd i’r plentyn cyntaf yn unig, gan sicrhau nad yw teuluoedd sydd â mwy nag un plentyn yn cael eu heffeithio’n anghymesur.

c) I ddileu’r cynnydd arfaethedig yn y ffi consesiynol am gludiant o’r cartref i’r ysgol.

d) Dileu’r ffi tanysgrifio arfaethedig o £30 ar gyfer y Gwasanaeth Bysiau Grass Routes.

e) Dileu cynnydd arfaethedig yn ffioedd y drwydded ar gyfer caffis palmant.

f) Dileu gostyngiad arfaethedig mewn oriau agor mewn canolfannau hamdden yn ystod misoedd yr haf.

g) Ni fydd oriau agor hybiau cymunedol ar draws y sir yn cael eu lleihau.

h) Dileu arbediad arfaethedig i ddileu swydd yn y tîm archwilio mewnol o ganlyniad i adborth a gafwyd gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a phryder y bydd lefel y ddarpariaeth archwilio yn disgyn islaw’r lefelau derbyniol.

i) Buddsoddiad ychwanegol o £2 miliwn (£0.5 miliwn y flwyddyn ym mhob un o’r 4 blynedd nesaf) ar gyfer atgyweirio tyllau yn y ffyrdd.

j) £50,000 ychwanegol i ganiatáu cynnal arolygon ac asesiadau o bontydd ar draws rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, y Cynghorydd Sirol Rachel Garrick:   “Mae hon wedi bod yn broses anodd iawn.  Gyda her ariannol o’r raddfa hon does dim ond ffordd hawdd trwyddo.  Rydym wedi gwneud ein gorau glas i lunio set o gynigion sy’n gytbwys ac yn ystyriol o’r effaith ar ein holl drigolion.  Rydym yn argymell cynnydd Treth Cyngor o 5.95%.  Er ei fod yn sylweddol is na chwyddiant, rwy’n cydnabod y bydd hyn yn her i rai trigolion.  Byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod pobl sydd â’r hawl i dderbyn budd-dal disgownt o’r gostyngiad hwnnw.”

Cynghorydd Sirol Rachel Garrick

Bydd y gyllideb derfynol nawr yn cael ei hystyried gan y Cabinet ar 1 Mawrth.  Bydd wedyn yn destun ystyriaeth gan y Cyngor llawn ar 2 Mawrth.