Skip to Main Content
Dechreuad newydd, maethu yn Sir Fynway

Gallech wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn neu berson ifanc gwanwyn eleni. Mae’r haul yn disgleirio unwaith eto, mae egin gwyrdd yn ymddangos a’r blodau’n blodeuo am y tro cyntaf ers misoedd. Pa well amser i ystyried maethu.  Mae angen dechreuad newydd ar blant a phobl ifanc yn eich ardal, gyda phobl garedig sy’n gallu gofalu amdanyn nhw.

Mae tîm maethu nid-er-elw Cyngor Sir Fynwy, yn rhoi ffocws ar ganfod y cartref cywir i blentyn neu berson ifanc gyda’r nod o’u cadw’n agos at amgylchoedd cyfarwydd.  Mae’r tîm am glywed gan bobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd sy’n gallu cynnig cartref i blant a phobl ifanc o bob oed ac anghenion gwahanol. Anogir pobl sy’n gallu gofalu am bobl ifanc yn eu harddegau, grwpiau brodyr a chwiorydd neu blant sydd ag anghenion ychwanegol, i gysylltu. Mae yna lawer o ffyrdd o faethu gan gynnwys gofal therapiwtig, gwyliau byr a gofal brys.  

Meddai’r Cynghorydd Tudor Thomas, Aelod Cabinet dros Ddiogelu, Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Hygyrch:  “Mae hwn yn amser gwych i wneud dechrau newydd i blentyn a pherson ifanc.  Os ydych yn teimlo eich bod yn fodel rôl gadarnhaol, a allai roi cefnogaeth, anogaeth ac ymdeimlad o berthyn i blentyn neu berson ifanc, a sicrhau eu bod yn teimlo’n ddiogel, cysylltwch â ni heddiw.”

Mae’r Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Ymgysylltu a gofalwr maeth yn annog pawb i ganfod mwy:  “Rydym yn edrych ymlaen at siarad ag unrhyw un sy’n ystyried maethu.  Dewch i un o’r sesiynau galw heibio sy’n cael eu cynnal ar draws Sir Fynwy ym mis Mawrth eleni – gallech wir wneud cymaint o wahaniaeth i blentyn lleol neu berson ifanc.”

Ychwanegodd Sam, sydd wedi bod yn maethu plant yn Sir Fynwy am 16 mlynedd:  “Roedd maethu wir yn ddechrau newydd i ni, fe agorodd bennod hollol newydd i’n bywydau.  Mae’n wych gwylio’r plant yn tyfu a chymryd rhan mewn gweithgareddau maent yn eu mwynhau.  O’r eiliad mae’r plant yn symud i mewn maen nhw’n cael eu trin fel rhan o’n teulu, gan brofi llawer o anturiaethau newydd. Mae’n wych eu gweld nhw’n gwenu a chwerthin.  Mae maethu yn cymryd amser i addasu i, ond mae cymaint o gefnogaeth ar gael gan y tîm yn ogystal â gofalwyr eraill sy’n profi’r un peth yn aml.  Os oes gennych gariad tuag at blant, yr amser a’r ddealltwriaeth, yna’n bendant fe ddylech chi roi cynnig arni – dydyn ni heb edrych nôl.”

Rhowch ddechreuad newydd i blentyn neu berson ifanc heddiw – ewch i: https://fosterwales.monmouthshire.gov.uk/cy/ neu mynychwch un o’r sesiynau galw heibio sy’n cael eu cynnal ar draws Sir Fynwy ym mis Mawrth:

7fed Mawrth 10am – 2pm Y Neuadd Sirol, Trefynwy

14eg Mawrth 10am – 2pm Hyb Y Fenni

20fed Mawrth 10am – 2pm Hyb Cil-y-coed

27ain Mawrth 10am – 2pm Hyb Cas-gwent

Cynghorydd Angela Sandles a  Cynghorydd Tudor Thomas
Cynghorydd Angela Sandles a Cynghorydd Tudor Thomas