Skip to Main Content
Cynghorydd Tudor Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Gofal Cymdeithasol
Cynghorydd Tudor Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Gofal Cymdeithasol

Mae haelioni trigolion Sir Fynwy wedi arwain at ymgyrch Dymuniadau’r Nadolig eleni  yn darparu rhoddion a thalebau i 300 o blant a phobl ifanc bregus erbyn y Nadolig.

Yn ogystal â’r rhoddion, mae mwy na  £5,200 wedi ei gasglu gan drigolion a busnesau ar draws y sir dros y mis diwethaf.  

Mae’r apêl blynyddol, sydd yn cael ei chynnal  gan Dîm Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Fynwy,  yn anelu i roi gwên ar wynebau pobl ifanc a fyddai fel arall o bosib yn mynd heb unrhyw roddion. 

Mae’r rhoddion caredig wedi eu gwneud gan: Cymdeithasau Adeiladu Sir Fynwy a’r Principality, Eglwys y Santes Fair Cas-gwent, clwb rhedeg Spirit of Monmouth, Waitrose yn y Fenni, garej Mustoes yng Nghil-y-coed, yr elusen Helping hands ym mragdy Inbev, clwb paffio Verve & a’r Fenni,  meithrinfa Ladybirds yn Llanfihangel, Unison, cynghorau lleol a chynghorwyr lleol, Ysgol Brenin Harri’r VIII a’r contractwyr  Morgan Sindall a nifer o ysgolion a busnesau eraill. Mae detholiad ffantastig o roddion wedi eu rhoi gan drigolion lleol gan wireddu dymuniadau Nadolig nifer iawn o blant a phobl ifanc.

Eleni, mae wedi bod yn anodd iawn ac mae’n anhygoel fod y gymuned leol wedi tynnu ynghyd er mwyn helpu plant a phobl ifanc llai ffodus. Mae’r arian a gesglir hefyd  wedi mynd at brynu talebau a rhoddion, ac maent wrthi yn cael eu dosbarthu i weithwyr cymdeithasol a staff cymorth.

Mae hwyl yr ŵyl ar waith  yn Sir Fynwy a hoffai Tîm Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Fynwy ddiolch i bawb sydd wedi dangos eu bod yn gofalu ac am wneud gwahaniaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Tudor Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Gofal Cymdeithasol: “Mae caredigrwydd pobl a busnesau yn Sir wedi bod yn anhygoel. Ar adeg mor anodd, yn ystod yr Argyfwng Costau Byw, mae’r gymuned wedi agor eu calonnau i’r apêl. Mae pob rhodd, mawr neu fach, yn mynd tipyn o ffordd er mwyn gwneud yr adeg hon o’r flwyddyn yn arbennig iawn i’r plant a phobl ifanc mwyaf bregus. Ar ran y Tîm Gwasanaethau Plant a minnau, hoffem ddiolch o galon o’r busnesau, cynghorwyr, mudiadau a thrigolion am eu holl gefnogaeth. Mae hyn wir yn cael ei werthfawrogi yn ystod y cyfnod heriol hwn. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd hapus i bawb.”