Skip to Main Content

Gyda’r Nadolig yn agosáu, mae Cyngor Sir Fynwy wedi cyhoeddi ei oriau agor dros gyfnod yr Ŵyl a’r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau ar gyfer ailgylchu a gwastraff, canolfannau hamdden, Hybiau Cymunedol a llyfrgelloedd, yn ogystal ag amgueddfeydd.

Diweddariad gwasanaeth

Bydd pob casgliad ailgylchu a gwastraff ddiwrnod yn hwyrach nag arfer yn yr wythnos yn cychwyn 26 Rhagfyr, tra bydd pob casgliad ar y dyddiau arferol yr wythnos ddilynol.

Bydd canolfannau ailgylchu y sir yn Llan-ffwyst, Llanfihangel Troddi a Five Lanes ar agor rhwng 8am a 2pm ar Noswyl Nadolig, ac wedyn byddant ar gau tan 27 Rhagfyr. Byddant wedyn yn cau ar Ddydd Calan. Gellir archebu ymweliadau i’r canolfannau ailgylchu ar wefan y Cyngor: www.monmouthshire.gov.uk/cy/ailgylchu-a-gwastraff/

Mae’r Siopau AilDdefnyddio ar gau o 22 Rhagfyr, gan agor yng nghanolfan ailgylchu Llan-ffwyst ar 17 Ionawr ac yng nghanolfan ailgylchu Five Lanes ar 18 Ionawr (y ddwy rhwng 10am a 3pm).

Bydd adeilad Marchnad y Fenni ar gau o Ddydd Nadolig, gan ailagor ddydd Gwener 30 Rhagfyr a dydd Sadwrn 31 Rhagfyr. Bydd wedyn ar gau tan ddydd Mawrth 3 Ionawr a Sadwrn 31 Rhagfyr.

Mae gan yr Hybiau Cymunedol ym Mrynbuga, Cas-gwent, Gilwern, Trefynwy a’r Fenni wahanol oriau agor fel y dangosir isod. I gael mwy o wybodaeth ewch i monmouthshire.gov.uk/cy/hybiau-cymunedol-sir-fynwy/community-hub-opening-hours/

Mae Adeilad Llyfrgell y Fenni ar agor  9am-1pm ar Noswyl Nadolig (llyfrgell yn unig), yna ar gau tan 29 Rhagfyr, pan fydd y llyfrgell a’r Hyb Cymunedol ar agor rhwng 9am-1pm. Mae ar agor ddydd Gwener 30 Rhagfyr rhwng 9am-1pm a 2pm-4.30pm. Mae’r llyfrgell yn unig wedyn ar agor ar Nos Calan 9am-1pm. Bydd y llyfrgell a’r Hyb Cymunedol fel ei gilydd yn ailagor ar 3 Ionawr.

Mae Hyb Cymunedol Gilwern ar agor ddydd Gwener 23 Rhagfyr 10am-1pm a 1.30pm-5pm, yna ar gau tan 30 Rhagfyr pan fydd ar agor rhwng 10am-1pm a 1.30pm-5pm. Mae Hyb Cymunedol Gilwern wedyn ar gau tan 3 Ionawr.

Mae Hyb Cymunedol Cas-gwent ar agor 10am-1pm ar Noswyl Nadolig, yna ar gau tan ddydd Iau 29 Rhagfyr pan fydd ar agor rhwng 9am a 5pm. Bydd yn cau am 1pm ar Nos Calan, gan ailagor am 9am ddydd Mawrth 3 Ionawr.

Bydd Hyb Cymunedol Brynbuga yn cau am 12.45pm ar Noswyl Nadolig, gan ailagor ddydd Iau 29 Rhagfyr. Ar gau drwy’r dydd 30 Rhagfyr. Ar agor 9am-12.45pm ar Nos Calan, yna ar gau tan ddydd Mercher 4 Ionawr am 9am.

Mae Hyb Cymunedol Trefynwy ar agor ar Noswyl Nadolig rhwng 9am a 1pm, ond wedyn ar gau tan ddydd Gwener 30 Rhagfyr pan fydd ar agor rhwng 8.45am-1pm, 2pm-4.30pm. Mae hefyd ar agor ddydd Sadwrn 31 Rhagfyr 9am-1pm, yna ar gau tan 3 Ionawr.

Mae Castell a Pharc Gwledig Cil-y-coed a Hen Orsaf Tyndyrn ar gau tan 1 Ebrill 2023.

Mae Canolfannau Croeso a Neuadd Sirol Trefynwy ar gau rhwng 4.30pm ar ddydd Gwener 23 Rhagfyr a dydd Mawrth 3 Ionawr.

Mae holl amgueddfeydd Sir Fynwy ar gau o ddydd Llun 19 Rhagfyr tan ddydd Gwener 17 Chwefror 2023.

Bydd y canolfannau hamdden yng Nghil-y-coed, Cas-gwent, Trefynwy a’r Fenni yn cau am 2.30pm ac yn ail agor ddydd Iau 29 Rhagfyr. Yr oriau agor ar Nos Calan yw 8.15am-2.30pm, yna ar gau tan ddydd Mawrth 3 Ionawr.

Bydd Canolfan Gyswllt Cyngor Sir Fynwy yn cau am 4.30pm ddydd Gwener 23 Rhagfyr. Bydd ar gau rhwng dydd Llun 26 Rhagfyr a dydd Mercher 28 Rhagfyr, gan ailagor am 9am ddydd Iau 29 Rhagfyr. Bydd ar gau ddydd Llun 2 Ionawr ar gyfer Gŵyl Banc y Flwyddyn Newydd. Bydd ap MyMonmouthshire yn dal i fod ar gael.