Skip to Main Content

Cafodd digwyddiad arbennig ei gynnal i gefnogi teuluoedd sy’n galaru dros y Nadolig eleni – gan ei fod yn gallu bod yn gyfnod hynod o anodd o’r flwyddyn.

Cafodd Diwrnod Cofio’r Teulu, gan Wasanaeth Cymorth Cynnar a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Sir Fynwy ei gynnal yng Nghastell Cil-y-coed ar y 26ain o Dachwedd 2022. Mae’r digwyddiad arbennig wedi bod yn rhedeg ers 2016.

Mae’r diwrnod arbennig yn caniatáu i aelodau’r teulu cwrdd, gan gynnwys mamau, tadau, brodyr, chwiorydd a neiniau a theidiau sydd wedi colli rhiant, plentyn, ŵyr neu wyres neu frawd neu chwaer annwyl, er mwyn cofio’r rhai sy’n arbennig iddyn nhw. Mae hefyd yn rhoi cyfle i bobl gael mynediad at gwnsela a chefnogaeth er mwyn helpu i ddelio â’r galar o golli rhywun annwyl.

Roedd Diwrnod Cofio’r Teulu eleni yn cynnwys nifer o weithgareddau, gan gynnwys gweithdai crefft i greu eitem goffa, a’r cyfle i osod negeseuon ar goeden Nadolig y castell. Roedd teuluoedd hefyd yn cael rhannu atgofion melys am anwyliaid dros ginio Nadoligaidd a rannwyd o fewn waliau neuadd wledda’r castell.  Un o’r adegau mwyaf hudolus oedd pan roddwyd ffyn swigod i’r plant er mwyn iddynt chwythu dymuniadau cariadus i’w hanwyliaid.  Mae’r cyfle i bobl ifanc normaleiddio’r broses o alar yn amhrisiadwy, ac fe gynhaliwyd llawer o sgyrsiau therapiwtig dros siocled poeth dan y goleuadau Nadoligaidd yn y castell.  Daeth bobl yn ffrindiau yno, a rhannwyd atgofion teimladwy am aelodau’r teulu.

Gan dynnu sylw at bwysigrwydd digwyddiadau o’r fath, dywedodd y Cynghorydd Sirol Tudor Thomas, Aelod Cabinet Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd:

Mae’r Diwrnod Cofio’r Teulu yn gyfle gwych i feddwl am y rhai rydym wedi’u colli. Mae gwasanaethau plant Sir Fynwy yn darparu cymorth i deuluoedd i’w helpu i ddelio â cholli anwyliaid. Ar ben hynny, mae’n hyfryd gweld beth pa gyfeillgarwch newydd sy’n ffurfio o ganlyniad i’r digwyddiadau hyn a sut y gall teuluoedd gael rhywfaint o gysur oddi wrth eraill sydd mewn sefyllfaoedd tebyg.”

Dywedodd Katie, a gollodd ei gŵr:

Dwi wedi bod yn dod gyda fy nhri phlentyn am y 7 mlynedd diwethaf.  Collon ni eu tad chwe mis cyn y Nadolig, roedd yn amser anodd ac emosiynol o’r flwyddyn i ni.  Roedd dod i’r digwyddiadau hyn yn braf iawn, i siarad gyda theuluoedd eraill sydd yn yr un sefyllfa ac a oedd yn deall sut oedden ni’n teimlo.  Mae fy mhlant wedi datblygu cyfeillgarwch ac yn edrych ymlaen at ddod yn ôl bob blwyddyn.”

Mae gan Gyngor Sir Fynwy nifer o adnoddau ar gael ar gyfer pobl sy’n wynebu profedigaeth: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/adnoddau-profedigaeth/