Skip to Main Content
Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Fynwy 2018-2033 Strategaeth a Ffefrir

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cymryd cam arall yn datblygu ei Gynllun Datblygu Lleol Amnewid. Roedd y Cyngor wedi cytuno i gyhoeddi ei Stratgaeth a Ffefrir ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus  ac ymgysylltu rhwng 5ed Rhagfyr 2022 a’r 30ain Ionawr 2023. Rydym yn croesawu sylwadau hefyd ar ein Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol sydd yn rhestru’r holl safleoedd sydd yn cael eu cynnig gan dirfeddianwyr, datblygwyr a grwpiau eraill er mwyn eu cynnwys o bosib yn y CDLlA. 

Mae’r strategaeth newydd yn gwneud darpariaeth ar gyfer 2,200 o gartrefi newydd erbyn 2033, a hynny’n ychwanegol at y 3,700 o gartrefi sydd yn cael eu hadeiladu neu wedi’u cwblhau ers 2018.  O ran y safleoedd newydd sydd wedi eu dynodi, bydd tua thraean o gartrefi newydd yn dai cymdeithasol ar gyfer rhentu a 17% pellach yn dai fforddiadwy sydd ar gael am bris is na’r farchnad. Bydd y Cynllun hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer  6,240 o swyddi a Chynllun Seilwaith, Cynllun Trafnidiaeth Lleol sydd wedi’i ddiweddaru a Stratgaeth Datblygu Economaidd.   

Mae’r Cynllun wedi gwerthuso’r holl safleoedd sydd wedi eu cynnig ac mae’r strategaeth newydd yn cynnig tri safle  strategol ar gyfer tai yn y dyfodol. Mae’r safleoedd fel a ganlyn:

  • Dwyrain y Fenni – 500 o gartrefi a chyflogaeth a defnydd manwerthu, hamdden, addysg  a chymunedol
  • Dwyrain Cil-y-coed – 925 o gartrefi a chyflogaeth a defnydd manwerthu a hamdden
  • Bayfield Cas-gwent  – 145 o gartrefi

Dywedodd y Cynghorydd Paul Griffiths, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Mae’r safleoedd wedi eu dewis gan y byddant yn ychwanegu at gynaliadwyedd y setliadau presennol. Bydd trigolion y cartrefi newydd yn cael eu cysylltu’n dda gyda chanol y trefi, ysgolion a chyfleusterau trafnidiaeth.  Fy uchelgais yw sicrhau bod y cartrefi sydd yn cael eu hadeiladu yn rhai carbon sero ac yn cwrdd â’r safonau uchaf o ran y modd y maent yn cael eu dylunio a’u hadeiladu. Bydd y Cyngor yn gweithio gyda Chomisiwn Dylunio Cymru, datblygwyr tai a phawb  arall sydd yn medru sicrhau mai’r datblygiadau yma  yw’r llefydd gorau i fyw a gweithio ynddynt a’u mwynhau – tai sydd yn fforddiadwy, wedi eu cysylltu’n dda gyda chyfleusterau lleol a’n gwneud cyfraniad positif i’n amgylchedd.  Bydd y ddwy flynedd nesaf yn daith gyffrous a chreadigol wrth i ni sicrhau bod y cartrefi gorau yn cael eu hadeiladu yma yn Sir Fynwy.” Am fwy o wybodaeth am yr ymgynghoriad, ewch i’n RLDP– Newyddion & Cyfredol – Monmouthshire