Skip to Main Content

Mae Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cyngh. Mary Ann Brocklesby wedi cyhoeddi bod y Cyngor wedi apwyntio ei Eiriolwr LHDTC+ cyntaf. Mae’r rôl wedi ei derbyn gan y Cyngh. Ian Chandler, Aelod Ward ar gyfer Llandeilo Gresynni, a fydd yn cynrychioli hawliau a buddiannau’r gymuned LHDTC+ yn ystod holl fusnes a chyfarfodydd y Cyngor. 

Cllr Ian Chandler
Dywedodd y Cyngh. Ian Chandler

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyngh. Mary Ann Brocklesby:  “Rwyf yn falch iawn i apwyntio y Cynghorydd Ian Chandler fel ein Heiriolwr LHDTC+. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl waith yn gynhwysol a bod yr holl bobl LHDTC+  yn medru cyflawni eu potensial ac yn teimlo’n ddiogel yma. Mae dydd Sadwrn, 10fed Rhagfyr, yn Ddiwrnod Hawliau Dynol sydd yn gyfle i atgyfnerthu’r hawliau diymwad sydd yn berchen i bawb fel bodau dynol – nid oes ots beth yw eu oedran, hil, anabledd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil (mewn cyflogaeth un unig), beichiogrwydd a chyfeiriad rhywiol. Mae apwyntio’r  Cyngh. Chandler yn teimlo fel cam arall ymlaen tuag at hyrwyddo hawliau dynol i bawb.”

Dywedodd y Cyngh. Ian Chandler: “Rwyf wrth fy modd yn cael fy apwyntio fel Eiriolwr y Cyngor ar gyfer y gymuned LHDTC+  yn Sir Fynwy. Er y cynnydd gwych sydd wedi ei wneud yn ystod fy mywyd, mae pobl LHDTC+ yn y DU dal yn wynebu gwahaniaethu wrth gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus, yn y gwaith ac ym myd addysg. Mae’n gryn syndod fod dau draean wedi profi cam-drin geiriol, corfforol neu rywiol, ac mae naw ym mhob deg o athrawon ysgol uwchradd yn dweud bod disgyblion yn eu hysgol wedi dioddef bwlio homoffobig. Rhaid i hyn newid ac rwyf am sicrhau bod llais pobl LHDTC+  yn Sir Fynwy yn cael ei glywed. 

“Fel nifer o bobl LHDTC+, roeddwn yn nerfus iawn pan wnes i ‘ddod allan’ yn gyhoeddus. Roeddwn yn ffodus iawn bod fy nheulu a’m ffrindiau yn derbyn fy mod yn anneuaidd ac wedi rhoi llawer o gefnogaeth i mi ar fy nhaith.  Rwyf am i bawb, nid oes ots beth yw rhywedd neu hunaniaeth rhywedd, yn teimlo eu bod yn medru byw fel hwy eu hunain, gyda balchder a heb ofn.”

Dywedodd y Cyngh. Catherine Fookes, Aelod Cabinet ar gyfer Cydraddoldeb: “Mae hon yn garreg filltir bwysig i’r Cyngor. Mae’ hanfodol fod buddiannau a hawliau’r gymuned LHDTC+ yn cael eu hystyried yn llawn ym mhob un penderfyniad  a’r gwaith yr ydym yn gwneud. Rydym yn falch iawn fod y Cyngh. Chandler yn hyrwyddo hyn ar ein rhan. Rwy’n sicr y bydd yn ychwanegu tipyn o werth at waith y Cyngor.”