Skip to Main Content

Mae Natur Wyllt a Phartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent (PGGG) Gwent gyfan wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau’r Sefydliad Tirwedd 2022, i’w dathlu ddiwedd mis Tachwedd.

Gwobrau’r Sefydliad Tirwedd yw un o’r digwyddiadau mwyaf yn y diwydiant, sy’n dathlu pobl, lle a natur, a’r nifer o ffyrdd y gall prosiectau tirwedd eu cydgysylltu. Mae’n dathlu gofodau y gall pobl fod yn wirioneddol falch ohonynt, a bu cyfanswm o dros 200 o geisiadau eleni, gan gynnwys 53 gan gystadleuwyr rhyngwladol.

Cofrestrwyd Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent am y Wobr Bartneriaeth a Chydweithio sy’n cydnabod gwaith eithriadol o ran tirwedd.

Mae Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent yn gydweithrediad rhanbarthol arloesol newydd sy’n ceisio gwella a datblygu “Seilwaith Gwyrdd”; term a ddefnyddir i ddisgrifio’r rhwydwaith o nodweddion naturiol a lled-naturiol a mannau gwyrdd, afonydd a llynnoedd sy’n plethu a chysylltu ein pentrefi, trefi a dinasoedd yn ogystal â helpu i gefnogi cyfleoedd am swyddi o fewn yr ardal. Mae gan Seilwaith Gwyrdd rôl hanfodol i’w chwarae wrth fynd i’r afael â natur, newid yn yr hinsawdd, iechyd ac argyfyngau economaidd.

Cafodd Natur Wyllt ei nodi yn y categori proffesiynol Rhagoriaeth mewn Cadwraeth Bioamrywiaeth a Gwella.

Mae’r prosiect Natur Wyllt yn sefydlu gwaith rheoli mannau gwyrdd cydgysylltiedig i greu cynefinoedd pryfed peillio llawn blodau gwyllt ar draws ardaloedd awdurdodau lleol Gwent – Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen – fel rhan o Bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent.  Mae Natur Wyllt yn ceisio codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd peillwyr, y camau y gallwn i gyd eu cymryd i’w cefnogi, a sut y gall y rhain gael effaith gadarnhaol ar faterion pwysig eraill megis lleihau’r dirywiad mewn bywyd gwyllt a lleihau effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd,: “Rydym yn gyffrous iawn bod Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent a phrosiect Natur Wyllt wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau’r Sefydliad Tirwedd yn Llundain, gan gael y gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu ar raddfa genedlaethol. Mae’r ddau ddull yn hanfodol wrth ddiogelu a gwella ein tirweddau arbennig, datblygu seilwaith gwyrdd a helpu i fynd i’r afael â’r dirywiad mewn bioamrywiaeth a heriau newid yn yr hinsawdd. Rydym yn ffodus o allu gweithio gyda gweithwyr sydd mor broffesiynol ac mor ardderchog, yn ogystal â thirwedd mor syfrdanol.”

Cefnogir y prosiectau hyn gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig:  Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig, ac fe’i darperir gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Llywodraeth Cymru.

Os hoffech chi gael gwybod mwy am beth mae’r prosiectau hyn yn ei wneud, yna dilynwch y dolenni hyn:

Partneriaeth Grid Gwyrdd GwentPartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent – MonLife

Natur Wyllt Natur Wyllt – Sir Fynwy