Skip to Main Content
Cydweithwyr yn y Cyngor yn eistedd o gwmpas desgiau yn ystod hyfforddiant Llythrennedd  Carbon
Cydweithwyr yn y Cyngor yn eistedd o gwmpas desgiau yn ystod hyfforddiant Llythrennedd Carbon   

Ar ddydd Llun, 7fed o Dachwedd, roedd Cyngor Sir Fynwy wedi cymryd rhan yn Niwrnod Gweithredu Llythrennedd Carbon, sydd yn anelu i fod yn  ddigwyddiad hyfforddi addysg fwyaf y byd am yr hinsawdd ac yn cyd-ddigwydd gyda dechrau’r gwaith negodi sy’n rhan o COP27 y CU yn yr Aifft.    

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi bod yn darparu hyfforddiant i swyddogion a Chynghorwyr er mwyn eu helpu i ddysgu mwy am y wyddoniaeth sydd yn rhan o newid hinsawdd, ac yn fwy pwysig, yr hyn y mae pawb yn medru gwneud er mwyn gwneud gwahaniaeth, boed fel unigolion ac yn y gweithle. 

Bydd yr hyfforddiant Llythrennedd Carbon, sydd yn cael ei gynnal drwy’r flwyddyn, yn cynnig diwrnod o ddysgu a fydd yn ymdrin gyda newid hinsawdd, ôl-troed carbon, sut ydych yn medru gwneud eich rhan a pham fod hyn yn berthnasol i bawb. Mae’r Prosiect Llythrennedd  Carbon yn unigryw ac wedi derbyn dyfarniad  TAP100 fel un o’r Rhaglenni Gweithredu Trawsnewid Byd-eang  100. Mae mwy na 41,650 o ddinasyddion wedi eu cymeradwyo fel rhai sy’n Hyddysg mewn Carbon a 3,953 o fudiadau wedi ymgysylltu gyda’r rhaglen, gan sicrhau bod y pwysigrwydd o leihau ein hôl-troed  carbon yn cael ei ddeall gan fwy o bobl nag erioed o’r blaen.  

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cymryd rhan yn yr ail Ddiwrnod Gweithredu blynyddol sydd yn ceisio torri’r record a osodwyd y llynedd ar gyfer y nifer uchaf erioed sydd wedi eu cymeradwyo fel rhai sy’n Hyddysg mewn Carbon, a hynny mewn un diwrnod.   

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae cymryd rhan yn Niwrnod Gweithredu Llythrennedd  Carbon yn bwysig iawn i Gyngor Sir Fynwy gan ei fod yn helpu staff i ddeall mwy am yr argyfwng hinsawdd a’r hyn y maent yn medru gwneud er mwyn lleihau eu hôl-troed  carbon. Ond mae hefyd yn bwysig dysgu sut i leihau ôl-troed carbon y Cyngor. Mae hyn yn rhan allweddol o’n hymateb i’r argyfwng hinsawdd a bydd addewidion y rhai sydd yn cwblhau’r hyfforddiant yn ein helpu ni gyrraedd ein nod i fod yn sero net erbyn 2030.”   Am fwy o wybodaeth am Hyfforddiant Llythrennedd Carbon, ewch i carbonliteracy.com/