Skip to Main Content

  

Severnside map in Welsh

Lluniau sydd wedi eu hatodi- mapiau yn dangos y safleoedd arfaethedig yn y Fenni, Cil-y-coed a Bayfield Cas-gwent.

Abergavenny map in Welsh

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cymryd cam ymlaen wrth ddatblygu ei gynigion ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig.  Roedd y Cyngor wedi cytuno ar lunio strategaeth twf newydd yn ddiweddar ac mae nawr wedi cyhoeddi’r cynigion sydd i’w hystyried gan y Pwyllgor Craffu Lleoedd ar 10fed Tachwedd  2022.  

Mae’r strategaeth newydd yn ceisio sicrhau bod yna ddarpariaeth ar gyfer hyd at 2200 o gartrefi newydd erbyn 2033, a hynny’n ychwanegol at y 3,700 o gartrefi sydd eisoes yn cael eu hadeiladu neu wedi eu cwblhau ers  2018.  Ar safleoedd dynodedig newydd, bydd tua thraean o’r tai newydd yn dai cymdeithasol a fydd ar gael i’w rhentu a thua 17% o’r tai fforddiadwy ar gael i’w prynu am bris rhatach na phris y farchnad. Bydd y Cynllun hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer 6,240 o swyddi a bydd Cynllun Seilwaith hefyd yn rhan o hyn ynghyd â Chynllun Trafnidiaeth Lleol a Strategaeth Datblygu Economaidd.   

Mae’r Cyngor wedi gwerthuso’r holl safleoedd sydd wedi eu cynnig ar gyfer eu datblygu ac mae’r strategaeth newydd yn cynnig tri safle strategol ar gyfer tai yn y dyfodol. Y safleoedd yma:

  • Dwyrain y Fenni – 500 o gartrefi a chyfleusterau cyflogaeth, manwerthu, hamdden, addysg a chymunedol 
  • Dwyrain Cil-y-coed – 925 o gartrefi a chyfleusterau cyflogaeth, manwerthu a hamdden
  • Bayfield Cas-gwent – 145 o gartrefi

Dywedodd y Cyngh. Paul Griffiths, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Mae’r safleoedd yma wedi eu dewis gan y byddant yn ychwanegu at gynaliadwyedd  yr aneddiadau presennol. Bydd trigolion y cartrefi newydd yma wedi eu cysylltu’n dda gyda chanol trefi, ysgolion a chyfleusterau trafnidiaeth. Fy uchelgais yw sicrhau bod y cartrefi sydd yn cael eu hadeiladu ar y safleoedd yma yn rhai carbon sero ac wedi eu hadeiladu yn unol gyda’r safonau uchaf o ran dyluniad ac adeiladu. Bydd y Cyngor yn gweithio gyda’r Comisiwn Dylunio ar gyfer Cymru, datblygwyr tai a phawb arall sydd yn medru gweithio gyda ni er mwyn sicrhau mai’r llefydd yma yw’r llefydd gorau i fyw ynddynt – cartrefi sydd yn fforddiadwy, wedi eu cysylltu’n dda gyda chyfleusterau lleol a’n gwneud cyfraniad positif i’n hamgylchedd. Bydd y ddwy flynedd nesaf yn gyffrous ac yn daith greadigol wrth i ni sicrhau bod y cartrefi gorau posib yn cael eu hadeiladu yn Sir Fynwy – cartrefi a fydd yn arwain y ffordd ar gyfer pob un datblygiad arall yn y Deyrnas Unedig.”

Bydd y Strategaeth a Ffefrir yn cael ei chyflwyno i’r Cyngor ar 1af Rhagfyr 2022 er mwyn cael cytundeb i ddechrau’r ymgynghoriad cyhoeddus. Os caiff ei gytuno, bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng 5ed Rhagfyr 2022 a’r 30ain Ionawr 2023.   

Am fwy o wybodaeth am y cynigion, ewch i Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig – 2018-2033 – Sir Fynwy