Skip to Main Content

Dros yr ychydig wythnosau nesaf, bydd cynrychiolwyr o dîm Cymunedau a thîm Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Sir Fynwy, Mind Sir Fynwy a Chyngor ar Bopeth Sir Fynwy yn cynnal sesiynau galw heibio  o ran cymorth costau byw mewn ysgolion, hybiau cymunedol a chanolfannau hamdden. Mae mwy o gefnogaeth ar gael na mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei sylweddoli.

Gaeaf eleni, mae’r argyfwng costau byw yn rhoi pwysau cynyddol ar gymaint o aelwydydd. Mae cael cymorth a chefnogaeth syml, sy’n ymwneud ag amgylchiadau unigol, yn ffordd allweddol o helpu i leihau’r pwysau, felly’r gobaith yw y bydd cymaint o drigolion â phosib yn mynychu’r sesiynau galw heibio.

Gwahoddir pawb i fynychu’r sesiynau, sydd am ddim ac nid oes angen archebu o flaen llaw.

Bydd y timau yn y sesiynau yn gallu helpu gyda sicrhau eich bod yn cael yr holl arian y mae gennych hawl iddo, yn cael canllawiau ar reoli eich biliau ynni a chymorth gyda gwneud i’ch arian fynd ymhellach. Byddant hefyd yn gallu cynnig cymorth i fynd yn ôl i’r gwaith, neu i gyflogaeth fwy diogel, cefnogaeth i’ch galluogi i aros yn eich cartref, yn ogystal â chefnogaeth emosiynol a lles. 

Bydd y sesiynau yn cychwyn yng Nghas-gwent ar ddydd Iau 17eg Tachwedd, yn Ysgol Thornwell (rhwng 3.30pm a 4.30pm) ac yng Nghanolfan Hamdden Cas-gwent (rhwng 5pm a 6pm).

Ar ddydd Iau 24ain Tachwedd bydd y timau yn symud ymlaen i Gil-y-coed, lle byddant yn Ysgol Dewstow (3.30pm-4.30pm) ac yna TogetherWorks (5pm-6pm). Yr wythnos ganlynol, bydd y sesiwn yn Nhrefynwy ar y 1af Rhagfyr, yn Ysgol Kymin View (3.30pm-4.30pm) a’r ganolfan hamdden (5pm-6pm). Yna bydd y sesiynau yn mynd i’r Fenni ar ddydd Iau 8fed Rhagfyr. Rhwng 3.30pm a 4.30pm, caiff trigolion eu hannog i alw heibio i Ysgol Deri View, ac wedi hynny bydd y tîm yn y ganolfan hamdden am awr o 5pm ymlaen.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Fookes, yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Dlodi ac Anghydraddoldeb: “Mae’r sesiynau cymorth costau byw ar gyfer pawb mewn gwirionedd – i’r rhai sy’n wynebu sefyllfa o argyfwng ariannol uniongyrchol, i’r rhai sy’n dechrau cael trafferth gyda’u biliau, ac i’r rhai sydd eisiau gwneud popeth o fewn eu gallu i atal eu sefyllfa rhag gwaethygu. Gobeithiaf y bydd y sesiynau yn helpu i ddarparu cefnogaeth y mae mawr ei angen yn y cyfnod anodd iawn yma. Felly cofiwch alw draw am sgwrs a phaned, mae croeso i bawb.”

I’r preswylwyr hynny sydd angen help ar hyn o bryd, gallant ffonio ein tîm Canolfan Gyswllt ar 01633 644644 neu alw i mewn i unrhyw Hyb Cymunedol am gymorth ar unrhyw adeg. Mae gennym hefyd adran bwrpasol o’r wefan gyda gwybodaeth ddefnyddiol: www.monmouthshire.gov.uk/cy/materion-arian/

cymorth costau byw