Skip to Main Content

Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei lansio ar ddydd Mercher, 5ed Hydref ar gyfer trigolion a busnesau ynglŷn â’r syniadau sydd yn cael eu cynnig o fewn Uwchgynllun Trawsnewid Cas-gwent. Bydd y cynllun yn darparu fframwaith adfywio strategol ar gyfer Cas-gwent, yn llywio buddsoddiad adfywio yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod y dref yn ddeniadol, yn hyfyw ac yn medru gwasanaethu’r trigolion ac ymwelwyr presennol a’r rhai yn y dyfodol.   

Mae Cyngor Sir Fynwy, drwy weithio gyda Chyngor Tref Cas-gwent, yn cynnal digwyddiadau wyneb i wyneb ac yn annog trigolion i fynychu a rhannu eu barn. Bydd y sesiwn gyntaf yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn, 8fed Hydref yng Nghanolfan  Palmer, Stryd Upper Nelson, rhwng 10am a 5pm. 
Ar ddydd Mawrth, 11eg Hydref, bydd y tîm yng Nghanolfan Gymunedol Bulwark rhwng 10am a 8pm. Bydd byrddau arddangos o’r digwyddiadau yma wedyn ar gael i’w gweld yn Llyfrgell Cas-gwent o brynhawn dydd Mercher, 12fed Hydref.

Mae gwybodaeth am Uwchgynllun Trawsnewid Cas-gwent ar gael ar wefan y Cyngor yma – monmouthshire.gov.uk/cy/uwchgynllun-trawsnewid-cas-gwent – gyda dolen ar gyfer arolwg ar-lein, a hynny er mwyn casglu barn a sylwadau. Bydd yr arolwg hefyd ar gael ar bapur  yn y ddwy sesiwn wyneb i wyneb ac yn ystod yr ymgynghoriad (tan 5pm ar 30ain Hydref 2022) yn Llyfrgell Cas-gwent a swyddfeydd Cyngor Tref Cas-gwent.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy a’r Aelod Cabinet ar gyfer Economi Gynaliadwy Deputy Leader, y Cyngh. Paul Griffith: “Rydym wedi bod yn gwrando ar bobl yng Nghas-gwent ac mae’r Uwchgynllun drafft hwn yn adlewyrchu’r hyn yr ydym wedi clywed. Mae’n cynnwys syniadau i wneud Cas-gwent yn lle hyd yn oed gwell. Dylech ddweud wrthym a   ydym wedi eich clywed yn gywir. A ydynt yn syniadau da? Mae’r Uwchgynllun hwn yn mynd i fod yn gyfrwng i gyflwyno cynigion am gyllid gan Lywodraeth Cymru ac eraill. Nid oes modd sicrhau y byddwn yn derbyn cyllid, ond nid oes hawl gennym i wneud cais heb y fath gynllun sydd yn cael ei gefnogi gan bobl. Rydym angen i chi ddweud eich dweud.”

Dywedodd Maeres Cas-gwent, y Cyngh. Marg Griffiths: “Rwy’n falch bod Cyngor Tref Cas-gwent wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Sir Fynwy a’r bobl yng Nghas-gwent er mwyn datblygu’r syniadau sydd yn rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus hwn. Unwaith i ni glywed eich barn ar ein syniadau ar gyfer y dyfodol, bydd modd i ni fwrw ymlaen a chwilio am y cyllid sydd angen ar Gas-gwent.”

Unwaith y mae’r ymgynghoriad wedi cau a’r adborth wedi ei gasglu, bydd adroddiad ar yr ymgynghoriad yn cael ei lansio. Bydd y cynllun drafft wedyn yn cael ei ddiweddaru er mwyn adlewyrchu’r sylwadau yr ydym wedi derbyn a chopi terfynol o Uwchgynllun Trawsnewid Cas-gwent yn cael ei gyhoeddi ar-lein.

Am fwy o wybodaeth, ewch i https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/uwchgynllun-trawsnewid-cas-gwent/