Skip to Main Content

Mae Hybiau Cymunedol a llyfrgelloedd Sir Fynwy am gael gwybod beth mae plant a phobl ifanc yn meddwl am eu llyfrgelloedd lleol. Maent yn mynd i gael y cyfle i gwblhau arolwg byr a fydd ar gael yn y llyfrgelloedd a’r Hybiau Cymunedol o ddydd Llun, 17eg Hydref am bythefnos.   

Mae’n wybyddus fod llyfrgelloedd yn chwarae rôl hanfodol yn gwella llythrennedd a’n hyrwyddo pleser o ddarllen, sydd yn cefnogi datblygiad plant a’u llwyddiant yn hwyrach mewn bywyd. Mae pob llyfrgell yn Sir Fynwy yn cynnig ystod eang a chyffrous o lyfrau ffuglen  i bob oedran ynghyd â chasgliad cynhwysfawr o lyfrau ffeithiol er mwyn iddynt fedru gwneud eu gwaith cartref ac ennyn diddordeb yn y byd o’u cwmpas.

Mae aelodaeth o’r llyfrgelloedd yn Sir Fynwy am ddim ac maent hefyd yn cynnwys gweithgareddau eraill fel y cyfle i ddefnyddio cyfrifiadur, ystod eang o weithdai yn ystod gwyliau ysgol ynghyd ag e-Lyfrau a Llyfrau Llafar drwy gyfrwng y gwasanaeth Borrowbox.

Mae’r llyfrgell gwasanaeth yn dymuno annog pawb, yn enwedig plant a phobl ifanc, i fanteisio ar yr hyn sydd ar gael. Mae hyn yn golygu bod dysgu am eu barn a’u syniadau yn allweddol er mwyn medru gwneud yr Hybiau a’r llyfrgelloedd yn llefydd y mae’r pobl ifanc am dreulio amser ynddynt.  

Dywedodd Aelod Cabinet Sir Fynwy ar gyfer Cydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Cyngh. Catherine Fookes “Rydym oll yn gwybod pa mor wych yw’r llyfrgelloedd a sut y maent yn agor meddwl pobl ifanc i fyd newydd. Mae miloedd o bobl yn defnyddio ein llyfrgelloedd bob blwyddyn. Ond rydym am sicrhau bod ein llyfrgelloedd yn adlewyrchu’r llyfrau, y gofodau a’r digwyddiadau y mae pobl ifanc yn  ymddiddori ynddynt ac am fanteisio arnynt. Felly, helpwch ni drwy rannu eich barn ar sut i ddatblygu ein llyfrgelloedd.”

Bydd plant sydd yn ymweld gyda’r llyfrgell leol yn cael cyfle i gwblhau arolwg ar-lein cyfrinachol a bydd yn hawdd a’n gyflym i’w gwblhau. Bydd y canlyniadau yn helpu llywio datblygiadau a’r ddarpariaeth ar gyfer y dyfodol.   

Bydd yn bosib cwblhau’r arolwg am bythefnos gan ddechrau ar ddydd Llun 17eg Hydref ac mae ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 7 a 16 mlwydd oed.

Mae gwasanaeth llyfrgell Sir Fynwy yn cael ei ddarparu drwy’r hybiau cymunedol yng Nghil-y-coed, Cas-gwent, Trefynwy a Brynbuga a’r llyfrgelloedd yn y Fenni a  Gilwern. 

Am fwy o wybodaeth am yr arolwg, cysylltwch gyda Fiona Ashley: FionaAshley@monmouthshire.gov.uk