Skip to Main Content
Cyng. Catherine Fookes, Cyng. Mary Ann Brocklesby, Cyng. Paul Griffiths, Cyng. Sara Burch. Cyng. Rachel Garrick, Cyng. Tudor Thomas, Cyng. Catrin Maby, Cyng. Martyn Groucutt.
Cyng. Catherine Fookes, Cyng. Mary Ann Brocklesby, Cyng. Paul Griffiths, Cyng. Sara Burch. Cyng. Rachel Garrick, Cyng. Tudor Thomas, Cyng. Catrin Maby, Cyng. Martyn Groucutt.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi lansio cyfres o ffilmiau byr ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol ac ar ei wefan i gyflwyno ei Arweinydd a Chabinet newydd i breswylwyr y Sir.

Mae ffilmiau ‘Cwrdd â’r Cabinet yn rhoi sylw i safleoedd lleol sy’n berthnasol i Wardiau a chyfrifoldebau yr Aelodau Cabinet perthnasol, yn cynnwys Castell Cil-y-coed, glan yr afon yng Nghas-gwent, y Fenni, Llanelli Hill a Threfynwy, ac yn codi cwr y llen ar gefndir, ethos, blaenoriaethau a nodau’r aelodau newydd.

Ers yr etholiad ym mis Mai, bu Aelodau’r Cabinet yn mynd o amgylch yn ymweld â safleoedd allweddol yn eu maes cyfrifoldeb, gan gwrdd â’r rhai sy’n gysylltiedig a’r gymuned mewn ystyr ehangach, ar draws y sir. Roeddent hefyd yn bresennol yn Sioe Brynbuga a gynhaliwyd yn ddiweddar gan gwrdd gydag ymwelwyr ym mhabell y Cyngor.

Yn y gyntaf o’r wyth ffilm, ymwelodd y Cynghorydd Sir Mary Ann Brocklesby, y fenyw gyntaf i fod yn Arweinydd Cyngor Sir Fynwy â’r Neuadd Llesiant yn Llanelli Hill a dywedodd: “Yr hyn rwyf eisiau ei weld yn y pum mlynedd nesaf yw Sir Fynwy lewyrchus. Sir mae pawb yn teimlo fod ganddynt le ynddi. Eu bod yn cael eu parchu. Fod ganddynt gartref y maent yn teimlo’n ddiogel ynddo. Eu bod yn teimlo’n rhan o gymuned ac wedi cysylltu gyda phobl eraill, ac mai dyma’r lle y gallant ffynnu ynddo yn y dyfodol oherwydd y caiff yr amgylchedd ei warchod gennym ni a gyda ni.”

Hefyd dywedodd Arweinydd y Cyngor, sy’n ymroddedig i fynd i’r afael â diffyg cydraddoldeb a hyrwyddo cynhwysiant: “Byddaf yn gwneud popeth a fedraf i sicrhau na chaiff neb ei adael ar ôl yn Sir Fynwy ac y caiff llais pawb ohonom ei glywed.”

Aelodau Cabinet Cyngor Sir Fynwy yw:

Arweinydd – Cyng. Mary Ann Brocklesby

Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Economi Cynaliadwy – Cyng. Paul Griffiths

Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu – Cyng. Catherine Fookes

Aelod Cabinet dros Addysg – Cyng. Martin Groucutt

Aelod Cabinet dros Adnoddau – Cyng. Rachel Garrick

Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd Hygyrch – Cyng. Tudor Thomas

Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd – Cyng. Catrin Maby

Aelod Cabinet dros Gymunedau Cynhwysol ac Egnïol – Cyng. Sara Burch

Gellir gweld yr holl ffilmiau, sy’n cynnwys pob Aelod o Gabinet Cyngor Sir Fynwy, ar ei wefan yn monmouthshire.gov.uk/cy/cwrdd-ar-cabinet/ neu gellir darllen y diweddaraf ar y sianeli cyfryngau cymdeithasol (Facebook, Twitter ac Instagram) drwy @MonmouthshireCC