Skip to Main Content
people cheer and wave their arms in celebration

Roedd TogetherWORKS Cil-y-coed wedi dathlu ei ben-blwydd cyntaf ddydd Gwener (21ain Hydref). Mae’r gofod diogel, cyfeillgar a chymunedol yma yn croesawu grwpiau fel Boreau Coffi, Celf a Chrefft ar gyfer yr Anabl a Dementia, Stitched Together, Armchair Aerobics, Makers Space a Chymorth gyda Bwydo o’r Fron i rieni.  

Roedd gwesteion wedi eu hannog i  rannu syniadau newydd ar gyfer parhau gyda TogetherWORKS ac wedi mwynhau cerddoriaeth fyw gan Ben the Hat and Cam Martin.

Dros y flwyddyn  ddiwethaf, mae TogetherWORKS wedi bod yn ofod lle y mae pobl yn medru rhannu, ail-ddefnyddio, atgyweirio, ailwampio ac ailgylchu deunydd a chynnyrch. Mae’r Llyfrgell o Bethau wedi caniatáu trigolion i fenthyg eitemau a theclynnau a chyfrannu pethau nad ydynt eu hangen mwyach. Mae’r Caffi Atgyweirio yn gyfle i bobl leol i ddod ag unrhyw eitemau sydd wedi eu torri fel eu bod yn cael eu hatgyweirio am ddim gan wirfoddolwyr.   

Nodwedd arall sy’n wych am TogetherWORKS yw’r Llyfrgell Gymunedol, sydd yn cael ei ddylunio er mwyn lleihau unrhyw wastraff bwyd drwy roi bwyd am ddim a’r archfarchnadoedd a mannau eraill sydd y tu hwnt i’r dyddiad gwerthu ond sydd dal yn ffres ac o fewn y dyddiad defnyddio.  

Roedd Papi’s Bistro yng Nghil-y-coed wedi darparu pizza, gydag ymgynghorwyr eiddo Julian Bladen yn cynnig toes ar gyfer y gwesteion. Roedd  RSPCA Casnewydd wedi cynnig bwyd am ddim i anifeiliaid anwes tra oedd Siop Ail-ddefnyddio  Five Lanes wedi dod ag eitemau o’r canolfannau ailgylchu. Roedd gwesteion wedi cael y cyfle i siarad gyda  Cyfannol, MHA, iConnect, Stitched together, Mind Sir Fynwy, GAVO,  Gardd Gymunedol Cil-y-coed, Ready steady go,  Bridges, a CAB – sydd oll yn fudiadau lleol sy’n cynnig cymorth sylweddol mewn nifer o ffyrdd.   

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cyngh. Mary Ann Brocklesby a oedd yn westai yn y digwyddiad: “Mae llefydd fel TogetherWORKS wrth galon ein cymuned, yn dwyn pobl ynghyd a’n cynnig cysur, mewn lle yr ydym yn teimlo croeso a’n cysylltu ag eraill. Roeddwn wrth fy modd i weld y grŵp  cwiltio i fenywod gyda’u cwilt  Covid wedi hawlio lle arbennig yng nghalon cymuned Cil-y-coed. O fewn blwyddyn, maent wedi cyflawni gymaint, ac rwyf yn gyffrous i weld yr hyn sydd yn digwydd yn y dyfodol wrth i’r lle dyfu a datblygu.”

Mae modd i chi ddilyn TogetherWORKS ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn dysgu am y digwyddiadau diweddaraf a’r grwpiau lleol sydd ar gael: https://bit.ly/3TCvuvW