Skip to Main Content

Mae gwasanaeth Prydau Bwyd Sir Fynwy Cyngor Sir Fynwy ac un o’i aelodau hiraf o staff wedi ennill dwy wobr yn y seremoni genedlaethol a gynhaliwyd ar 6 Hydref. Dathlodd Gwobrau NACC (Cymdeithas Genedlaethol Arlwyo Gofal) 2022 yn dathlu llwyddiannau eithriadol yn y sector pwysig hawn hwn – arlwyo o fewn y gymuned mewn gosodiadau gofal.

Enillwyd Gwobr Pryd ar Glyd gan Prydau Bwyd Sir Fynwy. Canmolodd y beirniaid y gwasanaeth hwn a gaiff ei redeg gan y cyngor am ddarparu mwy na dim ond pryd o fwyd, am fynd yr ail filltir drwy roi amser ar gyfer pob person sy’n derbyn y gwasanaeth pwysig hwn.

Aeth Sir Fynwy â mwy nag un wobr adre o’r seremoni, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gynadledda‘r East Midlands yn Nottingham. Aeth Gwobr Pam Rhodes i Pauline Batty, Rheolwr Arlwyo Corfforaethol, Cyngor Sir Fynwy. Bu Pauline yn ymwneud â NACC ers 1990 ac mae wedi rhoi ei hamser a’i harbenigedd fel cadeirydd rhanbarth Cymru ar dri achlysur. Mae ei hymrwymiad i’r sefydliad a’i gwasanaeth i’r sector gofal yn rhagorol, ac yn neilltuol y gwasanaeth Pryd ar Glyd, yn nodweddu Gwobr Pam Rhodes, gan ei gwneud yn enillydd haeddiannol iawn.

Dywedodd y Cyng. Tudor Thomas, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch’ “Rwy’n hynod falch i weld ymroddiad ein cydweithwyr arlwyo yn cael ei gydnabod yn genedlaethol yng ngwobrau NACC. Bu tîm Prydau Bwyd Sir Fynwy yn cadw rhai o’n dinasyddion mwyaf bregus yn ddiogel yn eu cartrefi drwy gyflwyno cyfeillgarwch a gofal gyda phob pryd bwyd. Roedd yn cynhesu’r galon i weld arbenigedd Pauline Batty, y mae ei hymrwymiad a gwybodaeth wedi ennill parch ac edmygedd cydweithwyr (a’r diwydiant ehangach), yn cael ei ddathlu. Rydym yn wirioneddol falch o Pauline a thîm Prydau Bwyd Sir Fynwy.”