Skip to Main Content

Derbyniodd ymdrechion grŵp gweithredu lleol, sy’n gweithio i greu Gorsaf Rodfa ar gyfer Magwyr a Gwndy, gydnabyddiaeth haeddiannol mewn seremoni wobrwyo genedlaethol a gynhaliwyd yn ystod misoedd yr haf gan Railfuture, prif sefydliad annibynnol y DU sy’n ymgyrchu am well gwasanaethau rheilffordd.

Dyfarnwyd Cymeradwyaeth i grŵp MAGOR (Magor Action Group on Rail) yng nghategori’r Ymgyrch Orau yng Ngwobrau RUG (Grŵp Defnyddwyr Rheilffyrdd – Rail User Group) Railfuture, yn ogystal â Chanmoliaeth yn y categori Gwefan Gorau.

Sefydlwyd MAGOR ychydig dros ddeng mlynedd yn ôl gan grŵp o drigolion llawn ysbryd cyhoeddus o gymuned Magwyr a Gwndy, gyda phawb â’r un amcan: agor gorsaf reilffordd i wasanaethu Magwyr a Gwndy. Cafodd y grŵp ei sefydlu gan beirianwyr, staff rheilffordd sydd wedi ymddeol, rheolwr prosiect a Chynghorwyr, ac unigolion medrus eraill. 

Mae’r safle sy’n cael ei ffafrio ar gyfer yr orsaf gerllaw’r B4245, sy’n cysylltu â’r gwasanaethau bysiau ar hyd y ffordd honno. Hon hefyd fydd yr orsaf rodfa bwrpasol gyntaf ar y brif reilffordd i agor ers dros ganrif. Mae’r pentref cyfan o fewn taith gerdded 15 munud byr, neu daith feicio, o’r orsaf.

Bydd mynediad i’r orsaf ar droed, beic neu drafnidiaeth gyhoeddus, gydag ambell le parcio anabl. 

Amcangyfrifir bod tua 40,000 o deithiau trên y flwyddyn wedi eu gwneud o Gyffordd Twnnel Hafren gan bobl o Fagwyr a Gwndy cyn y pandemig, gan arwain at tua 80,000 o deithiau car, yno ac yn ôl.  Y pellter rhwng y ddau leoliad yw tua 2.5 milltir, felly mae hyn yn cyfateb i 200,000 o filltiroedd ar y ffordd yn cael eu teithio bob blwyddyn. 

Bydd y cynlluniau ar gyfer Gorsaf Rodfa Magwyr a Gwndy yn annog ac yn cefnogi Teithio Llesol, yn helpu’r newid moddol o’r ffordd i’r rheilffyrdd ac yn arwain at leihau allyriadau carbon a llygredd aer yn yr ardal.

Fe wnaeth y Cynghorydd Sirol Catrin Maby, Aelod Cabinet Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd Cyngor Sir Fynwy, longyfarch pawb oedd yn rhan o’r prosiect: “Dyma gydnabyddiaeth haeddiannol i’r grŵp eithriadol hwn, sydd wedi gweithio mor galed, ac mor hir, i ddatblygu eu gweledigaeth i fod yn gynllun pendant. Rwy’n llwyr gefnogi MAGOR ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn y dyfodol.  Mae’n gyfnod cyffrous i gymuned Magwyr.” 

Yn gynharach eleni, cafodd MAGOR ei enwebu ar gyfer dwy o wobrau cenedlaethol a mawreddog Grŵp Defnyddwyr Rheilffyrdd Railfuture. Yn dilyn ymweliad archwilio ym mis Mehefin, derbyniwyd y gwobrau fel rhai oedd â theilyngdod i fynd ymlaen i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Railfuture. Y canlyniad oedd i grŵp MAGOR dderbyn cymeradwyaethau yn y categorïau Ymgyrch Rheilffordd Orau a Gwefan Rheilffordd Gorau.

Mae manylion llawn Grŵp Defnyddwyr Rheilffyrdd Railfuture i’w gweld ar–lein yma: www.railfuture.org.uk/RUG-Awards.