Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy am atgoffa pobl i wneud cais am y Taliad Cymorth i Ofalwyr Di-dâl o £500 wrth i’r dyddiad cau agosáu, sef dydd Gwener, 2ail Medi. Mae hwn yn daliad un-tro sydd ar gael i’r holl ofalwyr di-dâl yng Nghymru sydd yn derbyn Lwfans Gofalwyr ar 31ain Mawrth 2022.

Mae’r taliadau yn cael eu gwneud er mwyn cydnabod y pwysau ariannol cynyddol y mae nifer o  ofalwyr di-dâl wedi profi yn ystod y pandemig, ac er mwyn helpu gydag unrhyw gostau ychwanegol.  

Dywedodd Aelod Cabinet ar gyfer Gofal Cymdeithasol yn Sir Fynwy, y Cyngh. Tudor Thomas: “Rydym yn ceisio cysylltu gyda chynifer o ofalwyr di-dâl ag sydd yn bosib gyda’r taliad hwn. Mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yn prysur ddynesu  ac rydym yn annog pobl i gysylltu cyn gynted ag sydd yn bosib ac nid ydym am weld neb yn methu’r cyfle hwn. Mae’r taliadau o £500, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu targedu at unigolion sydd yn gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos ac ar incwm isel. Byddem yn gofyn i rywun sydd yn adnabod unigolyn arall sydd yn gofalu am rywun yn ddi-dâl, i rannu’r wybodaeth hon gyda hwy.”

Os ydych yn credu eich bod yn gymwys i dderbyn y cymorth hwn, dylech gofrestru ar wefan y Cyngor  www.monmouthshire.gov.uk/cy/taliad-gofalwyr-di-dal/ cyn 5pm ar ddydd Gwener, 2ail Medi 2022. Noder os gwelwch yn dda y dylech wneud cais i’r Cyngor lle’r ydych yn byw, nid i’r Cyngor  lle y mae’r unigolyn sydd yn derbyn y gofal yn byw, os yw’n wahanol.  

Os ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer y taliad hwn, nid oes rhaid i chi wneud cais eto. Mae manylion llawn am y taliad a’r meini prawf o ran cymhwysedd ar gael drwy gyfrwng y ddolen uchod.