Skip to Main Content
Cynrychiolwyr o Gyngor Sir Fynwy, Lovell, Melin Homes a Candleston yn dod at ei gilydd ar gyfer y seremoni torri tir newydd ar safle Crick Road
Cynrychiolwyr o Gyngor Sir Fynwy, Lovell, Melin Homes a Candleston yn dod at ei gilydd ar gyfer y seremoni torri tir newydd ar safle Crick Road

Cyrhaeddwyd carreg filltir bwysig heddiw (dydd Mercher 6ed Gorffennaf) wrth ddatblygu safle Crick Road ym Mhorth Sgiwed. Daeth cynrychiolwyr o Gyngor Sir Fynwy, Lovell, Candleston, Melin Homes, Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gwent, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) ynghyd i nodi’n swyddogol y digwyddiad arloesol ar safle Parc Elderwood ar gyrion Cil-y-coed.

Mae’r prosiect £45 miliwn hwn yn gweld ffordd newydd o weithio mewn partneriaeth, gan ddod â Chyngor Sir Fynwy, Candleston a Melin Homes at ei gilydd, gyda Lovell fel eu partner, i ddatblygu’r safle pwysig hwn o gymuned newydd.  Ar ôl ei gwblhau, bydd Parc Elderwood yn cynnig 201 o gartrefi marchnad agored sydd ar gael i’w gwerthu drwy Candleston a 68 o gartrefi fforddiadwy sydd ar gael drwy Melin Homes, gan gynnwys amrywiaeth o fflatiau un ystafell wely a dwy ystafell wely a thai dwy, tair a phedair ystafell wely.

Wrth wraidd y gymuned hon bydd Severn View Park, cartref gofal 32 ystafell wely arloesol a chynhwysol, a gynlluniwyd i gymryd lle cartref Severn View yng Nghas-gwent. Mae Severn View Park yn cael ei adeiladu gan Lovell a bydd yn cefnogi pobl hŷn sydd â dementia, fel safle preswyl ac ar ffurf cymorth seibiant a thymor byrrach, ill dau. Ariennir y gwaith o’i adeiladu mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Fynwy, a fydd yn rheoli’r cartref, BIPAB a Llywodraeth Cymru.

Bydd Severn View Park yn sefydlu ffordd newydd o ddarparu gofal, gan greu aelwydydd unigol wedi’u cynllunio o amgylch gardd gymunedol, iard, a bydd yn sicrhau bod trigolion y cartref a’r ardal leol yn dod at ei gilydd fel un gymuned. Bydd preswylwyr a theuluoedd yn cymryd rhan ym mhob cam o reoli’r symudiad i’r safle newydd gyda chynlluniau eisoes ar y gweill i helpu i bontio’n ddidrafferth i’r cartref newydd unwaith y bydd wedi’i gwblhau, fel y rhagwelwyd, ddiwedd haf 2023.

Peter Davies (Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol Cyngor Sir Fynwy), Arweinydd y Cyngor Y Cynghorydd Sirol Mary Ann Brocklesby; Paula Kennedy, Prif Swyddog Gweithredol Melin Homes, a James Duffett, rheolwr gyfarwyddwr Lovell.
Peter Davies (Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol Cyngor Sir Fynwy), Arweinydd y Cyngor Y Cynghorydd Sirol Mary Ann Brocklesby; Paula Kennedy, Prif Swyddog Gweithredol Melin Homes, a James Duffett, rheolwr gyfarwyddwr Lovell.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby:  “Mae’r prosiect hwn yn gam cyffrous ymlaen, o ran darparu tai y mae mawr eu hangen ochr yn ochr ag anghenion rhai o drigolion mwyaf agored i niwed y sir.  Drwy weithio mewn partneriaeth â’r sefydliadau blaenllaw hyn, bydd y datblygiad hwn yn cael ei gyflawni gan ystyried yr amgylchedd lleol a’r gymuned leol, a bydd yn darparu lle cynaliadwy i bobl fyw, gweithio a galw adref.”

Ch-Dd: Cynrychiolwyr Cyngor Sir Fynwy ar safle cartref gofal newydd Severn View Park: Nicholas Keyse, Rheolwr Datblygu, Ystadau; Colin Richings, Rheolwr Gwasanaethau Integredig; Y Cynghorydd Sirol Rachel Garrick, Yr Aelod Cabinet dros Adnoddau; Y Cynghorydd Sirol Mary Ann Brocklesby, Arweinydd y Cyngor; Y Cynghorydd Sirol Tudor Thomas, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd Hygyrch; Peter Davies, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol Cyngor Sir Fynwy.
Ch-Dd: Cynrychiolwyr Cyngor Sir Fynwy ar safle cartref gofal newydd Severn View Park: Nicholas Keyse, Rheolwr Datblygu, Ystadau; Colin Richings, Rheolwr Gwasanaethau Integredig; Y Cynghorydd Sirol Rachel Garrick, Yr Aelod Cabinet dros Adnoddau; Y Cynghorydd Sirol Mary Ann Brocklesby, Arweinydd y Cyngor; Y Cynghorydd Sirol Tudor Thomas, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd Hygyrch; Peter Davies, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol Cyngor Sir Fynwy.

Dywedodd James Duffett, rheolwr gyfarwyddwr rhanbarthol Lovell:  “Rydym wrth ein bodd bod y gwaith bellach wedi dechrau’n swyddogol ar Barc Elderwood ym Mhorth Sgiwed. Bydd y datblygiad yn darparu cartrefi newydd y mae mawr eu hangen ar gyfer y gymuned leol, yn ogystal â lle gwych iddynt fyw a gweithio ynddo. Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Melin Homes, Candleston a Chyngor Sir Fynwy i gyflawni’r datblygiad hwn, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau â’n partneriaeth lwyddiannus.”  

Dywedodd Paula Kennedy, Prif Weithredwr Melin Homes:  “Rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y datblygiad yn ystyried y gymuned leol, gan ategu’r cefn gwlad hardd, gydag amrywiaeth o opsiynau ar gyfer teithio llesol sy’n annog pobl i gerdded a beicio yn ogystal â phwyntiau gwefru ceir trydan. Mae wedi bod yn wych ymweld â’r safle heddiw, a gweld yn uniongyrchol sut y gallwn, drwy weithio mewn partneriaeth, fod o fudd i gymunedau a’r economi leol. 

“Mae Melin eisoes wedi gweithio’n helaeth gydag ysgolion lleol ac yn edrych ymlaen at weld sut mae’r partneriaethau hyn yn ffynnu dros y blynyddoedd nesaf.  Drwy waith partneriaeth pellach, edrychwn ymlaen at rannu mwy o straeon newyddion da am gyflogaeth a phrentisiaethau lleol.  Mae pethau gwych yn digwydd pan fyddwch chi’n gweithio mewn partneriaeth”

Dywedodd Phil Robson, Is-gadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent:  “Mae’r gwaith o ddatblygu prosiect Dementia Crick Road wedi’i gefnogi gan y gronfa Gofal Integredig a bydd yn helpu i ddiwallu angen a nodwyd ac sy’n dod i’r amlwg yn Sir Fynwy. Bydd y dyluniad arloesol yn helpu i ddarparu cartrefi sy’n cynnig gwell ansawdd bywyd i breswylwyr, yn ogystal â staff gofal cymdeithasol. Mae’r cynllun hwn yn dangos sut y gall ac y bydd gweithio mewn partneriaeth yn arwain at well arloesedd a darparu gwasanaethau mewn ffordd gydgysylltiedig.”