Skip to Main Content

Ch-Dd: Cyngh. Catherine Fookes, aelod cabinet ar gyfer Cydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a Julie Morgan AS a Jackie Strong o Stitched Together gyda’r Cwilt Cymunedol yn TogetherWorks

Fel rhan o’r Wythnos Ymwybyddiaeth o Unigrwydd daeth Julie Morgan AoS, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, i Gyda’n Gilydd yng Nghil-y-coed heddiw (dydd Iau 16 Mehefin) i ddysgu am yr effaith a gafodd un prosiect neilltuol ar fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd.

Gwnaeth grŵp Stitched Together, sy’n cwrdd yn Gyda’n Gilydd, gais llwyddiannus am gyllid gan Lywodraeth Cymru dan gynllun Penderfynwch Chi. Dyrannwyd cyllid i Gyngor Sir Fynwy a phartneriaid gan Lywodraeth Cymru i weithredu rhaglen gyfranogol tair-blynedd Penderfynwch Chi Sir Fynwy. Ei nod oedd atal unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol gan ddatblygu cymunedau cryf a chadarn ledled Sir Fynwy. Gwahoddwyd grwpiau cymunedol i wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau a fyddai’n helpu i adeiladu cymunedau cynhwysol, llewyrchus gyda ffocws ar drin unigrwydd ac ynysigrwydd.

Cwilt Cymuned Cil-y-coed sydd yn adlewyrchu profiad cymunedau o’r cyfnod clo  

Cafodd Stitched Together ei arwain gan Jackie Strong ac mae wedi dod â phreswylwyr talentog a brwdfrydig at ei gilydd (yn cynnwys pobl nad oedd erioed wedi gwnïo o’r blaen a hefyd bwythwyr profiadol) a atebodd y galw i helpu cyfleu profiadau y cyfnodau clo mewn cwilt a ddaw yn rhan bwysig o hanes cymdeithasol, yn gelfwaith. Mae pob clwt ar y cwilt yn dweud stori rymus am brofiadau yn ystod y pandemig ac yn darlunio’r digwyddiadau pwysicaf iddynt. Er enghraifft, mae delwedd o ddau o bobl gyda ffenestr yn eu gwahanu yn cyfleu gwahanu oddi wrth anwyliaid mewn cartrefi gofal yn ystod y cyfnodau clo, mae un arall yn dweud am wirfoddolwyr yn torri hen ddillad gwely yn sgrybs ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, cyflwyno brechlyn a llawer mwy.

Dywedodd y Cyng. Catherine Fookes, Aelod Cabinet Cydraddoldeb ac Ymgysylltu Cyngor Sir Fynwy: “Mae symboliaeth y cwilt a wnaed gan Stitched Together yn rymus – mae’n dangos y gall dod â phobl ynghyd arwain at lai o ynysigrwydd. Cafodd y cyllid Penderfynwch Chi a dderbyniodd prosiectau Sir Fynwy effaith cadarnhaol go iawn. Rwy’n llongyfarch sgiliau pawb a gyfrannodd at y cwilt, mae’n dystiolaeth deimladwy o brofiadau cynifer o bobl.

“Byddwn yn annog grwpiau cymunedol i gymryd rhan yng nghynllun Penderfynwch Chi Sir Fynwy 2022-2023. Byddem wrth ein bodd yn derbyn syniadau gan grwpiau cymunedol sy’n edrych am gyllid ar gyfer prosiectau cynhwysol sy’n anelu i ddod â phobl ynghyd. Mae ar agor ar gyfer ceisiadau i bob rhan o Sir Fynwy. Mae’r grwpiau cymunedol hyn yn cynnig cymaint i’n sir. Mae’r hyn y gellir ei gyflawni pan ddaw pobl ynghyd fel hyn yn sylweddol.”

Dywedodd Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: “Roedd yn wych cwrdd â grŵp gwnïo a chwiltio Stitched Together a gweld drosof fy hun sut mae ein Cronfa Unigrwydd yn helpu i gefnogi cymunedau i ddod ynghyd ar ôl dwy flynedd anodd iawn.

“Gall unrhyw un fod yn unig, a bydd y teimlad hwnnw yn taro tant gyda chynifer ohonom. Mae’n bwysig fod grwpiau fel hyn yn cael eu cefnogi fel y gallant barhau i ostwng ynysigrwydd mewn cymunedau ac annog pobl i siarad am eu profiadau o unigrwydd. Edrychaf ymlaen at weld y cwiltiau os cânt eu harddangos yn y Senedd.”

Dywedodd Jackie Strong o grŵp Stitched Together: “Rwy’n falch iawn i fod wedi bod yn rhan o greu cwilt atgofion Covid Cil-y-coed. Fe ddaethom ynghyd yn ystod y cyfnod clo a meddwl sut i sicrhau na fyddai ein profiadau yn ystod Covid yn mynd yn angof. Mae pob un o’r blociau yn cynrychioli ein profiadau unigol yn ystod y cyfnodau clo. Mae bod yn rhan o grŵp Stitched Together wedi bod yn fuddiol mewn gwahanol ffyrdd – rydym wedi rhannu arbenigedd a gwybodaeth, ond yn gymaint mwy na hynny rydym i gyd wedi manteisio o’r gefnogaeth y gallasom ei chynnig i’n gilydd. Gobeithiwn ddefnyddio cyllid Penderfynwch Chi i brynu mwy o beiriannau gwnïo fel y gallwn barhau i gefnogi pobl eraill.”

Aelodau o’r Grŵp Stitched Together gyda’r Cyngh. Catherine Fookes, Julie Morgan AS, ac Isla Arendell o TogetherWorks.

I wneud cais am gylch nesaf cyllid Penderfynwch Chi Sir Fynwy, dylai grwpiau cymunedol sydd â syniadau am brosiectau am fynd i’r afael ag ynysigrwydd anfon e-bost at  FredWeston@monmouthshire.gov.uk neu RyanColeman@monmouthshire.gov.uk yn y lle cyntaf.

Jackie Strong o Stitched Togethe yn esbonio sut y mae’r prosiect wedi helpu mynd i’r afael ag arwahanrwydd ac unigrwydd i’r Cyngh. Catherine Fookes a’r Dirprwy Weinidog Julie Morgan AS