Skip to Main Content

Fel rhan o gynlluniau i wella ‘seilwaith gwyrdd’ – y term a ddefnyddir i ddisgrifio creu rhwydwaith o nodweddion naturiol a lled-naturiol, mannau gwyrdd, afonydd a llynnoedd sy’n croesi ac yn cysylltu pentrefi a threfi – ar draws y sir, mae Cyngor Sir Fynwy wedi bod yn gweithio ar gynlluniau i greu coridorau gwyrdd drwy’r Fenni. Bydd gwaith yn cychwyn yn gynnar ym mis Ebrill ar welliannau ym maes parcio Stryd y Castell, lle bydd coed brodorol a rhywogaethau blodau gwyllt ychwanegol yn cael eu plannu. Cynlluniwyd y prosiect i gefnogi cysylltedd â mannau gwyrdd eraill yng nghanol y dref.

Disgwylir i’r gwaith gymryd tuag wythnos i’w gwblhau, yn dibynnu ar amodau’r safle. Bydd rhannau bach o’r maes parcio o amgylch y llain  plannu ar gau dros dro, ond bydd maes parcio Stryd y Castell yn parhau i fod ar agor i’r holl ddefnyddwyr. Mae Cyngor Sir Fynwy yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra posibl yn ystod y gwaith, a’r gobaith yw y bydd pawb yn mwynhau’r plannu gorffenedig pan fyddant yn defnyddio’r maes parcio nesaf.

Bydd y plannu yn cynnwys criafol a masarnen y maes mewn planwyr pren, a thyweirch blodau gwyllt brodorol ar laswelltir yr amwynder presennol. Bydd blodau gwyllt fel peradyl yr hydref, cribau San Ffraid, pys ceirw eiddilaidd, gludlys y bledren, clust y gath, y bengaled, suran y cŵn, ffacbys cyffredin, llin y llyffant, rhonwellt cribog a glaswelltau peiswellt y defaid, yn tyfu yn yr ardaloedd blodau gwyllt hyn. Bydd y blodau gwyllt a’r coed brodorol ychwanegol hyn yn darparu mwy o fwyd a chynefinoedd i adar a thrychfilod, ac o fudd i’n peillwyr fel cacwn, gwenyn mêl ac ieir bach yr haf, sydd eisoes yn cael eu cefnogi gan waith y Cyngor yn rheoli glaswelltir sy’n gyfeillgar i beillwyr.

Bydd y coed a’r dolydd blodau gwyllt newydd hefyd yn lleihau allyriadau carbon drwy storio carbon, ac felly’n helpu i fynd i’r afael â materion newid yn yr hinsawdd. Bydd y plannu hefyd yn cefnogi gwytnwch ecosystemau, yn gwella ansawdd dŵr, ac yn cefnogi lles cyffredinol y dref i drigolion ac ymwelwyr.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, roedd yr holl ymatebwyr yn cefnogi’r dyhead i wella coridorau gwyrdd ar draws Y Fenni. Mae’r syniadau a gynigir wedi’u hymgorffori lle bo’n ymarferol yn y cynigion presennol ar gyfer Stryd y Castell a chânt eu hystyried ar gyfer prosiectau yn y dyfodol.

Os hoffech wybod mwy am Seilwaith Gwyrdd yng Nghyngor Sir Fynwy, ewch i

 www.monlife.co.uk/outdoor/green-infrastructure