Skip to Main Content
people in Library of Things

Llyfrgell Pethau gyntaf Sir Fynwy yn agor ei drysau yn Nhrefynwy ar 1af Ebrill. Mae’n caniatáu i bobl fenthyg pethau sydd eu hangen arnynt ond nad ydynt yn berchen arnynt, gan arbed arian a lle yn eu cartrefi.  Mae hyn yn cynnwys offer ar gyfer adloniant, eitemau cartref neu offer gardd.  Mae hefyd yn caniatáu i breswylwyr roi pethau nad oes eu hangen arnynt mwyach, gan helpu i leihau gwastraff, i gyd wrth gyfarfod a rhannu gwybodaeth a sgiliau ag eraill. 

Enw Llyfrgell Pethau Trefynwy yw Benthyg Trefynwy. Mae Benthyg Cymru a grwpiau cymunedol lleol wedi hyfforddi tîm o wirfoddolwyr lleol a fydd yn rhedeg y prosiect, a fydd wedi’i leoli yng Nghanolfan Bridges Trefynwy.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio ar y prosiect hwn fel rhan o’i waith Argyfwng Hinsawdd.  Dywedodd Hazel Clatworthy, Swyddog Polisi Cynaliadwyedd y cyngor:  “Mae’r Llyfrgell Pethau yn rhoi ffordd hawdd i bobl fenthyg eitemau fel offer garddio, eitemau cartref, offer ar gyfer partïon neu adloniant ac yn y blaen am ychydig iawn o gost. Ar yr adeg hon lle’r ydym i gyd am arbed arian, gobeithiwn y bydd Benthyg Trefynwy yn helpu pobl i arbed arian drwy beidio â gorfod prynu eitemau sydd eu hangen arnynt, tra hefyd yn lleihau gwastraff, drwy roi eitemau nas defnyddiwyd, neu eitemau diangen sy’n cuddio yn atigau neu siediau pobl, i ddefnydd da.”

Meddai Bryan Miller, cydlynydd prosiect gwirfoddol ar gyfer Benthyg Trefynwy: “Rydym yn gyffrous iawn i fod yn lansio Benthyg cyntaf Sir Fynwy. Bydd unigolion a grwpiau cymunedol yn gallu arbed arian drwy allu benthyca yn hytrach na phrynu offer sydd ei angen arnynt, a bydd yn ffordd wych o helpu pobl i leihau eu hôl troed carbon.”

Ychwanegodd Ella Smillie, cyd-sylfaenydd Benthyg Cymru:  “Bydd y prosiect hwn yn arddangos ymrwymiad Cymru i’r economi gylchol, ac rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Chyngor Sir Fynwy i wneud benthyca’n well na phrynu ar gyfer trigolion lleol.”

Bydd tri Benthyg arall hefyd yn lansio’r gwanwyn hwn, yn y Fenni, Cil-y-coed a Chas-gwent.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i fenthyca, pori a rhoi eitemau, ewch i: https://monmouthshire.benthyg.cymru/.  Mae opsiwn i gadw’r hyn y mae angen i chi ei fenthyca, lle gallwch gasglu eich eitem o Ganolfan Bridges am hyd at wythnos.