Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi ailddatgan bod Teithio Llesol yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol yn ei ymateb i newid yn yr hinsawdd wrth i’w swyddogion roi’r wybodaeth ddiweddaraf yr wythnos diwethaf ar gynnydd y cynlluniau arfaethedig.  Mae hyn hefyd yn unol â hierarchaeth Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru o gerdded a beicio fel y dewis cyntaf a ffefrir, yna trafnidiaeth gyhoeddus, yna cerbydau allyriadau/trydan isel iawn, yna cerbydau eraill.

Diben Teithio Llesol yw darparu rhwydwaith o lwybrau, gan ganolbwyntio i ddechrau ar y saith ardal ddynodedig – Y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent, Gilwern, Magwyr/Gwndy, Trefynwy a Brynbuga – i ddarparu cyfleoedd i gyfnewid teithiau car pwrpasol byrrach ar gyfer dulliau mwy gweithredol o deithio, megis cerdded, beicio ac olwynion. Nid yw’r ffocws ar gerdded a beicio ar gyfer hamdden, ond bydd llwybrau gwell yn helpu hyn hefyd.

Dywedodd aelod cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Deithio Llesol, y Cynghorydd Lisa Dymock:  “Yn dilyn ein Hymgynghoriad diweddar ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol, nodwyd mai croesfan Teithio Llesol ddynodedig dros Afon Gwy rhwng Trefynwy a Wyesham oedd un o’r gwelliannau â’r flaenoriaeth uchaf i drigolion ledled Sir Fynwy.  Byddai creu llwybr mwy diogel i gerddwyr a beicwyr ar wahân i Bont Gwy o fudd i gynifer o drigolion a chymudwyr.  Mae gwaith yn parhau ar y prosiect hwn, gan gynnwys sefydlu’r cysylltedd i’r bont ac oddi arni, a fydd yn rhan bwysig o’i llwyddiant yn y tymor hwy. 

“Gofynnwyd am gyllid ar gyfer camau nesaf y datblygiad, gan gynnwys caniatâd cynllunio a dyluniad manwl, a bydd Cyngor Sir Fynwy yn darganfod yn fuan a yw hyn wedi bod yn llwyddiannus.  Bydd y cynllun hwn yn creu cyswllt oddi ar y ffordd â chyfleusterau allweddol ar y naill ochr a’r llall i’r bont, megis cyrchfannau addysgol, iechyd a manwerthu a bydd yn cysylltu cymuned Wyesham yn ddiogel â thref Trefynwy.”

Fel rhan o’r Cyllid Teithio Llesol eleni, mae’r ail dri cham o lwybr cyswllt Teithio Llesol Williamsfield Lane i Kingswood Gate yn Overmonnow yn cael ei adeiladu, sy’n cynnwys parc chwarae newydd yn King’s Fee fel rhan o’r ddarpariaeth. Mae’r llwybr Teithio Llesol hwn yn llwybr diogel allweddol i Ysgol Gynradd Overmonnow, gan wahanu’r rhai sy’n cerdded, beicio ac olwyna oddi wrth draffig cerbydau. Mae’r contractwyr ar y safle ar hyn o bryd a bydd y cam hwn yn cael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol.   Fel rhan o’r prosiect mae Teithio Llesol hefyd wedi ariannu mwy o seilwaith yn Ysgol Gynradd Overmonnow, i’w ddefnyddio gan ddisgyblion sydd am gael mynediad i fynedfa gefn yr ysgol a storio eu beic / sgwter yn ddiogel drwy gydol y diwrnod ysgol.  Disgwylir i’r cam olaf gael ei gwblhau y flwyddyn nesaf, yn amodol ar geisiadau llwyddiannus am gyllid.

Yn y cyfamser, mae swyddogion y cyngor yn gweithio’n agos gydag ysgolion i hyrwyddo’r gwaith o gynhyrchu Cynlluniau Teithio i’r Ysgol. Mae cynigion cyllideb y cyngor ar gyfer 22/23 yn cynnwys creu swydd ychwanegol i adolygu llwybrau cerdded a beicio ysgolion a gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau diogelwch lle bo angen. Bydd rhagor o fanylion am gynnydd y cynlluniau Teithio Llesol yn cael eu hychwanegu at wefan y cyngor www.monmouthshire.gov.uk/cy/monmouthshire-active-travel-2/ wrth iddynt gael eu cyhoeddi.