Skip to Main Content

Mae Cynghorau Sir Fynwy a Swydd Gaerloyw wedi cytuno i ddatblygu cynlluniau ar gyfer ffordd newydd i osgoi Cas-gwent i roi terfyn ar dagfeydd yng nghanol y dref ac wrth gylchfan Highbeech.

Yn ddiweddar, cyfarfu’r ddau arweinydd cyngor, y Cynghorydd Richard John o Gyngor Sir Fynwy a’r Cynghorydd Mark Hawthorne o Gyngor Swydd Gaerloyw, ag uwch swyddogion y cyngor, aelodau cabinet ac ASau lleol David TC Davies, AS Sir Fynwy a’r Gwir Anrhydeddus Mark Harper, AS Fforest y Ddena, i drafod atebion i dagfeydd traffig Cas-gwent.

Roedd y cyfarfod, a gynhaliwyd yn Tidenham, yn gyfle i wleidyddion Sir Fynwy a Swydd Gaerloyw drafod y tagfeydd cronig yng Nghas-gwent a’r cyffiniau a’r llygredd aer a ddeilliodd o hynny.  Roedd hefyd yn gyfle i gytuno bod angen i drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol chwarae rhannau llawn wrth leddfu’r materion hirsefydlog hyn.  Heb fuddsoddiad difrifol, bydd lles amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol cymunedau ar ddwy ochr y ffin yn parhau i gael ei ddifrodi.

Llun:Ch-Dd:Y Gwir Anrhydeddus Mark Harper AS (Fforest y Ddena), y Cynghorydd Richard John (Arweinydd Cyngor Sir Fynwy), y Cynghorydd Mark Hawthorne (Arweinydd Cyngor Swydd Gaerloyw), David Davies AS

Sicrhawyd cyllid ar gyfer y cam nesaf o waith ymchwilio i gyflwyno’r achos dros gyswllt ffordd trawsffiniol newydd, ynghyd â mwy o drafnidiaeth gyhoeddus a chyfleoedd teithio llesol.

Yr wythnos diwethaf, cytunodd Cabinet Sir Fynwy y byddai datrys y materion seilwaith trafnidiaeth trawsffiniol hyn yn sail i gais codi’r gwastad i Lywodraeth y DU.

Dywedodd y Cynghorydd Richard John:  “Rwy’n falch iawn bod y trafodaethau adeiladol hyn rhwng gwleidyddion Sir Fynwy a Swydd Gaerloyw wedi dod i’r casgliad bod buddsoddi mewn seilwaith newydd rhwng Cas-gwent a Sedbury yn gwbl hanfodol er mwyn rhoi terfyn ar y tagfeydd cronig sy’n plagio’r dref a’r ardaloedd cyfagos.

“Yn amlwg, byddai ffordd gyswllt newydd sy’n osgoi Cas-gwent yn lleihau tagfeydd ac yn gwella ansawdd aer, gan wneud Cas-gwent yn lle mwy deniadol i dwristiaid dreulio amser. Mae angen y ffordd newydd hefyd oherwydd lefel yr adeiladu tai a ragwelir yn ne Swydd Gaerloyw dros y pum mlynedd nesaf.”

Dywedodd y Cynghorydd Mark Hawthorne, arweinydd Cyngor Sir Swydd Gaerloyw:  “Roeddwn yn falch o gymryd rhan yn y trafodaethau hyn i drafod ffyrdd o leddfu tagfeydd traffig rhwng ffin Swydd Gaerloyw a Sir Fynwy.  Yr wyf yn fodlon bod pob parti wedi cytuno bod angen i ni gynyddu trafnidiaeth gyhoeddus a dewisiadau teithio llesol yn ogystal ag edrych ar gynlluniau ar gyfer seilwaith newydd i fynd i’r afael â thagfeydd Cas-gwent.

“Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cymorth i’r cymunedau hyn sy’n cael eu difetha gan dagfeydd traffig a pharhau â’n gwaith partneriaeth i wireddu’r cynigion hyn.  Bydd hyn o fudd i drigolion sy’n byw ar hyd y ffin yn ogystal â gwella cysylltedd ar draws Porth y Gorllewin.”