Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi lansio arolwg heddiw – dydd Mercher, 16eg Chwefror –  yn gofyn am farn trigolion, busnesau ac ymwelwyr sydd yn defnyddio Stryd Fawr Cas-gwent a’r ardal siopa gyfagos a sut y maent am ddefnyddio’r mannau yma yn y dyfodol.  Mae Stryd Fawr Cas-gwent wedi bod ar gau i gerbydau ers Mawrth 2020 ac eithrio mynediad at y mannau parcio i’r anabl ar Stryd y Banc ac unrhyw gyflenwadau sydd yn cael eu danfon yno rhwng 4pm a 10am.  Gwnaed y newid yma er mwyn caniatáu siopwyr i gadw pellter cymdeithasol, i gefnogi masnachu yn yr awyr agored a chefnogi seiclo a cherdded.  Mae sawl barn wahanol wedi ei mynegi am y newidiadau yma ac mae’r Cyngor nawr yn ystyried opsiynau mwy hirdymor fel rhan o gynigion Cynllun Creu Lleoedd a Theithio Llesol Cas-gwent. Hoffai’r Cyngor nawr gasglu barn cynifer o bobl ag sydd yn bosib er mwyn llywio cynlluniau’r dyfodol.

Dywedodd aelod cabinet Cyngor Sir Fynwy ar gyfer Seilwaith, y Cyngh. Jane Pratt: “Mae’n bwysig bod pobl yn rhoi gwybod i ni am eu barn drwy gyfrwng yr arolwg yma.  Nid oes penderfyniad wedi ei wneud eto ar ddyfodol y Stryd Fawr. Mae yna sawl opsiwn posib gan gynnwys ail-agor y Stryd Fawr yn llwyr i draffig dwy ffordd ddydd a nos, caniatáu traffig dwy ffordd ar adegau penodol, traffig un ffordd, mynediad cyfyngedig neu sicrhau mai ond cerddwyr sydd yn medru defnyddio’r mannau yma. Mae manteision ac anfanteision yn perthyn i bob opsiwn a rhaid eu hystyried yn llawn. Bydd  angen modelu effaith yr opsiynau yma ar y traffig er mwyn deall unrhyw sgil-effaith  ar y rhwydwaith priffyrdd ehangach, ac felly, rydym am sicrhau ein bod wedi ystyried pob opsiwn. Rydym yn gwerthfawrogi barn pawb – nid oes penderfyniad hirdymor wedi ei wneud eto, ac felly, dewch i gael ‘dweud eich dweud’ ar ddyfodol Stryd Fawr Cas-gwent.   

Mae modd cwblhau’r arolwg ar-lein monmouthshire.gov.uk/cy/siopa-yn-lleol-siopa-yn-sir-fynwy/cas-gwent/   neu mae modd casglu copi papur a’i ddychwelyd i swyddfeydd Cyngor Tref Cas-gwent, Hyb Cas-gwent a Chanolfan Groeso Cas-gwent. Mae’r arolwg yn cau am 12pm ar 15fed Mawrth.