Skip to Main Content

Bydd yna ddathlu bod Ei Mawrhydi’r Frenhines wedi bod yn teyrnasu am 70 mlynedd yn digwydd ar draws y DU rhwng  2ail a’r 5ed Mehefin 2022, ac mae disgwyl y bydd cymunedau yn dathlu’r achlysur hanesyddol hwn drwy gynnal digwyddiadau fel partïon stryd. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cyhoeddi canllaw hanfodol ar gyfer cynnal y fath ddigwyddiadau, er enghraifft gan esbonio a oes angen trwydded arnoch ai peidio a chyngor defnyddiol am ddiogelwch bwyd, alcohol, cynnal asesiadau risg a chau’r ffyrdd o bosib.  

Dywedodd y Cynghorydd Lisa Dymock, Aelod Cabinet ar gyfer Llesiant Cymunedol yng Nghyngor Sir Fynwy:  “Bydd dathliadau’r Jiwbilî Platinwm yr haf yma yn rhai cofiadwy iawn, gan nad oes Brenin neu Frenhines erioed wedi cyrraedd y garreg filltir hon o 70 mlynedd ar yr orsedd. Rydym yn edrych ymlaen at ymuno yn y dathlu ac yn cydnabod y bydd partïon stryd yn rhai o’r digwyddiadau lleol mwyaf poblogaidd a thraddodiadol.  

“Ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol o’r ffaith nad ydych angen trwydded ar gyfer y rhan fwyaf o bartïon stryd ond efallai y bydd angen i chi sicrhau trwydded briodol a chaniatâd os ydych yn bwriadu gwerthu  alcohol, chwarae cerddoriaeth sydd wedi ei recordio, cynnal digwyddiad ar y briffordd sydd yn golygu bod angen cau un ffordd neu fwy. Mae cyngor pellach ar drefnu partïon stryd ar gael ar wefan  The Big Jubilee Lunch sydd yn llawn o syniadau gwych. Mae ein Swyddogion Cyngor, er enghraifft, yn ein timau trwyddedu a phriffyrdd, ar gael i gynnig cyngor er mwyn sicrhau bod digwyddiadau yn ddiogel i bawb sydd am fynychu.”

Os ydych am werthu alcohol mewn unrhyw ddigwyddiad, bydd angen Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro arnoch a dylech wneud cais am hyn o leiaf deg diwrnod cyn y digwyddiad. Mae angen hyn os ydych yn bwriadu chwarae cerddoriaeth wedi ei recordio yn fyw at ddibenion adloniant, cynnal perfformiadau byw, dangos ffilmiau neu ddawnsio, gwerthu alcohol, gwerthu bwyd cynnes a diodydd rhwng  11pm a 5am, ac felly, mae’n bwysig cynllunio.

Am fwy o wybodaeth am gynllunio digwyddiad cymunedol, ewch os gwelwch yn dda i www.monmouthshire.gov.uk/cy/licensing/jiwbili-platinwm/ neu ewch ati  i gysylltu gyda’r Tîm Trwyddedu ar 01873 735420 neu e-bostiwch licensing@monnmouthshire.gov.uk.  Mae mwy na £22 miliwn o gyllid gan y Loteri Genedlaethol ar gael er mwyn helpu cymunedau ar draws y wlad i ddod ynghyd i ddathlu’r Jiwbilî Platinwm, ac mae gwybodaeth bellach am y Jiwbilî ar gael ar wefan y Llywodraeth (www.gov.uk/government/news/extra-bank-holiday-to-mark-the-queens-platinum-jubilee-in-2022).

Am wybodaeth bellach am y cyllid Loteri Genedlaethol Mwy na £22 miliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol ar gael i helpu cymunedau ar draws y wlad i ddathlu Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi’r Frenhines | Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (tnlcommunityfund.org.uk)