Skip to Main Content

Roedd Cyngor Sir Fynwy wedi lansio cynigion y gyllideb ddrafft  ar gyfer  2022-2023 ar ddydd Mercher 19eg Ionawr. Mae’r cyngor yn wynebu £10.41m o bwysau ar wasanaethau nad oes modd ei osgoi a  £4.96m o bwysau ar gyflogau sydd yn mynd i bwyso’n drwm ar gyllid y cyngor.   

Dywedodd y Cynghorydd Richard John, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Yn y gyllideb hon, rydym yn benderfynol ein bod yn gwneud pob dim posib er mwyn cefnogi ein cymunedau i wella o’r pandemig ac amddiffyn ac ategu at y gwasanaethau yr ydym yn gwybod y mae ein trigolion yn dibynnu arnynt.   

“Er gwaethaf effaith a chanlyniadau’r pandemig, mae’r gyllideb arfaethedig hon yn barhad o’n parodrwydd i amddiffyn ac ategu at y gwasanaethau yr ydym yn gwybod y mae ein trigolion yn dibynnu arnynt.  Mae hon yn gyllideb sydd yn gweithredu ar ein blaenoriaethau craidd. Yn cynnig y cyfle gorau posib i blant mewn bywyd gyda mwy o arian i ysgolion. Yn helpu’n trigolion hŷn i adfer eu hannibyniaeth, gyda chyflog gwell i weithwyr gofal. Yn amddiffyn ein canolfannau hamdden, gan gydnabod eu rôl bwysig o ran lles meddwl a chorfforol pobl.  Yn gweithio tuag at Sir Fynwy carbon isel a gyda mwy o fuddsoddiad mewn heolydd, llwybrau seiclo a llwybrau cerdded a band eang gwell, rydym am sicrhau sir sydd wedi ei chysylltu’n well. Drwy amddiffyn llwybrau bysiau a pharhau i gyflwyno parthau 20mya yn ein trefi a phentrefi. Mae hefyd yn gyllideb sydd yn edrych i’r dyfodol ac yn sicrhau bod y cyngor yn barod i fynd i’r afael gyda rhai o’r heriau mwyaf sydd yn wynebu ein sir a chymdeithas yn fwy cyffredinol.”

•        Byddwn yn parhau i fod ar flaen y gad wrth symud i garbon sero net ond mae angen i ni fuddsoddi, yn union fel sydd angen o ran ein hymrwymiad i roi diwedd ar ddigartrefedd yn ein sir.   

•        Byddwn yn ffocysu ar leihau’r anghydraddoldebau  iechyd sydd wedi dod yn fwyfwy amlwg yn ystod y pandemig.

•        Rydym wedi ymrwymo i ddiwygio gofal cymdeithasol. Mae darpariaeth ar draws Cymru a’r DU wedi ei hollti. Nid yw gofal yn derbyn y parch proffesiynol y mae’n haeddu ac mae angen rhoi tipyn mwy o werth ar faes gofal fel gyrfa. 

•        Byddwn yn sicrhau bod ysgolion yn derbyn yr adnoddau sydd angen arnynt er mwyn helpu disgyblion sydd â’u haddysg wedi ei aflonyddu yn  sgil y pandemig, a hynny fel eu bod yn medru  dal fyny ar ôl colli gymaint o amser, gyda mwy o fuddsoddiad mewn cymorth iechyd meddwl a lles a byddwn yn parhau gyda’n rhaglen fuddsoddi  sydd werth miliynau o bunnoedd 

•        Byddwn yn cynyddu ffocws ein gwaith er mwyn helpu pobl i amddiffyn a rheoli eu hiechyd meddwl a’u llesiant.   

Dywedodd y Cynghorydd Phil Murphy, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau: “Rydym yn bles fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr heriau a wynebir gan awdurdodau lleol yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynol. Fodd bynnag,  er bod y cyngor wedi derbyn setliad refeniw a oedd yn uwch na’r cyfartaledd – 11.2%, yn erbyn cynnydd ar gyfartaledd o 9.4% ar draws Cymru, mae Sir Fynwy dal yn derbyn y cyllid isaf y pen   (£1,176), £435 y pen yn is na’r cyfartaledd ar draws Cymru, sydd yn golygu bod Sir Fynwy yn parhau i fod yn fwy dibynnol ar incwm y dreth gyngor er mwyn diwallu anghenion ein cymunedau. Mae’n destun dristwch ein bod yn gorfod ystyried, fel rhan o’r cynigion drafft yma, y cynnig i gynyddu’r dreth gyngor o  3.95%. Mae’r cynllun  lleihau’r dreth gyngor, sydd yn cynnig help i’r sawl ar incwm isel a’r rhai sydd yn derbyn budd-daliadau, dal ar gael. Mae aelwydydd un person hefyd yn gymwys i dderbyn gostyngiad o 25% oddi ar y dreth gyngor. Rydym wedi cyfyngu unrhyw gynnydd i ffioedd a phrisiau lle bo’n bosib ond mae’r cynnydd mewn chwyddiant ar gyfer gwasanaethau cartref a phreswyl hefyd yn amodol ar  brawf modd ac mae yna uchafswm hefyd er mwyn lliniaru’r effaith ar y sawl sydd ar yr incwm isaf.   

“Mae’r cyngor yn parhau i arwain drwy esiampl drwy ymrwymo i dalu’r staff sydd ar y cyflogau isel yn unol gyda’r Cyflog  Byw Gwirioneddol sydd wedi ei osod gan y  ‘Living Wage Foundation’ ac mae’n ymestyn hyn yn 2022/23 i’n holl leoliadau lle y mae’r gofal wedi ei gomisiynu a’r hawl sydd gan weithwyr gofal i dderbyn cyflog cydradd,” dywedodd y Cynghorydd Murphy. 

Mae trigolion yn cael eu gwahodd i gofrestru am ddigwyddiad ffrydio byw arbennig er mwyn trafod y gyllideb  a fydd yn cael ei gynnal am6.30pm ar ddydd Lau 27ain Ionawr. Yn sgil y pandemig COVID-19, ni fyddai’n briodol cynnal y sesiynau wyneb i wyneb traddodiadol, ac felly, mae’r broses yn cael ei symud ar-lein unwaith eto. Mae modd i chi gofrestru i gymryd rhan ar wefan y cyngor a  byddwch yn derbyn e-bost gyda dolen i’r digwyddiad, lle y bydd cyfle i gyflwyno eich cwestiynau o flaen llaw. I’r sawl sydd yn methu ymuno gyda’r digwyddiad ffrydio byw, bydd y sesiwn yn cael ei lanlwytho i’r wefan fel bod modd gwylio’r sesiwn ar ôl y digwyddiad.   

Fel rhan o’r broses ymgynghori, sydd ar agor tan 12pm ar 16eg Chwefror 2021, rydym hefyd yn gofyn i drigolion i rannu eu barn drwy gyfrwng arolwg ar y cynigion sydd yn y gyllideb ac mae’r arolwg ar gael ger yr holl gynigion  www.monmouthshire.gov.uk/cy/cyllideb-2022-2023.  

“Mae’r rhain yn gynigion drafft ac rydym am wybod eich barn chi. Felly, ewch i’n gwefan a rhowch wybod i ni beth yw eich barn,” ychwanegodd y Cyngh. John.