Skip to Main Content
Map yn dangos safle morglawdd a rhwystrau

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi ymateb i drafodaeth gyhoeddus am fynediad i’r llwybr troed sy’n rhedeg ochr yn ochr â Maes Saethu Glannau Hafren ac mae wedi lansio ymgynghoriad i gasglu gwybodaeth am unrhyw lwybrau heb eu cofnodi ar y safle a’r ardal gyfagos.

Yn gynnar yn haf 2020, cododd meddianwyr Maes Saethu Glannau Hafren, Cil-y-coed, rwystrau ar draws crib y wal amddiffyn rhag llifogydd. Mae llwybr troed cyhoeddus yn rhedeg drwy’r Maes Saethu, yn agos at y wal amddiffyn rhag llifogydd ond mae’n anhramwyadwy ac o bosibl yn beryglus oherwydd gwaith peirianneg hanesyddol.   O’r herwydd, mae’r llwybr wedi’i gau tan 23 Rhagfyr 2021 drwy Orchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro.

Mae Cyngor Sir Fynwy wrthi’n ceisio ymestyn y Gorchymyn hwn gydag awdurdodiad Llywodraeth Cymru. Mae manylion cau’r ffordd ar gau i’w gweld yn:  https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/cefn-gwlad/mynediad-cefn-gwlad/cau-llwybrau-dros-dro/

O dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, mae dyletswydd ar y cyngor i gadw’r Map a’r Datganiad Diffiniol – y ddogfen gyfreithiol sy’n cofnodi llwybrau cyhoeddus – wedi’u hadolygu’n barhaus. Felly, mae ymateb y cyhoedd i godi’r rhwystrau yn ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Sir Fynwy ymchwilio os oes unrhyw lwybrau heb eu cofnodi ar y safle.

Mae’r cyngor bellach yn gwahodd trigolion lleol a phartïon eraill sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth sy’n ymwneud ag unrhyw lwybrau honedig ar y safle sydd heb eu cofnodi.  Bydd y data a’r dystiolaeth a gesglir yn sail i ymchwiliad gan y cyngor, a allai arwain at ddiweddaru’r Map a’r Datganiad Diffiniol drwy wneud a chadarnhau Gorchymyn Addasu Map Diffiniol.

Unwaith y bydd y cyfnod ymgynghori wedi dod i ben ac os na dderbyniwyd gwrthwynebiad i unrhyw orchmynion posibl, bydd y penderfyniad i wneud gorchymyn yn cael ei wneud ar lefel swyddogion o dan bwerau dirprwyedig.  Os derbynnir gwrthwynebiadau, bydd yr holl dystiolaeth sydd ar gael yn cael ei chyflwyno i Bwyllgor Ymgynghorol Hawliau Tramwy Cyhoeddus y cyngor er mwyn iddo wneud penderfyniad.  Os yw’r dystiolaeth yn dangos yn rhesymol bod llwybr ‘honedig yn bodoli’ yna bydd dyletswydd ar y cyngor i wneud gorchymyn llwybr.   Os darperir tystiolaeth i wrthbrofi’r prawf bod llwybr ‘honedig yn bodoli’, ni wneir gorchymyn.

Rhoddir cyhoeddusrwydd i ragor o wybodaeth unwaith y bydd yr ymgynghoriad wedi cau ac mae’r ymatebion wedi’u harchwilio.  I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ewch i: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/cefn-gwlad/mynediad-cefn-gwlad/ymgynghoriadau-cyhoeddus-yn-cynnwys-gorchmynion-llwybr-cyhoeddus/ cyn iddo gau ar 31ain Ionawr.

Os oes unrhyw un, sydd â thystiolaeth ychwanegol ynghylch statws y llwybrau, yn dymuno iddo gael ei asesu a’i gynnwys yn yr adroddiad terfynol, anfonwch hynny at swyddog Map Diffiniol Cyngor Sir Fynwy, Mandy Mussell dros e-bost: MandyMussell@monmouthshire.gov.uk cyn 31 Ionawr 2022.

Delwedd o rwystr ym mhen dwyreiniol y safle