Skip to Main Content

Mae gwaith wedi dechrau i greu Gofodau Natur Cymunedol yn Stad Rockfield yn Nhrefynwy. Mae Gofodau Natur Cymunedol yn cynnig llawer mwy na dim ond parciau chwarae traddodiadol, maent yn cynnwys darpariaeth chwarae gwyllt, plannu peillwyr, perthi, plannu coed yn cynnwys coed ffrwythau a pherllannau a gwelyau tyfu bwyd cymunedol fydd ar gael i bawb yn y gymuned.

Derbyniodd Cyngor Sir Fynwy gyllid ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ Llywodraeth Cymru drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i gynnal y prosiect.  Prif nod creu gofodau ar gyfer natur a phobl ar Stad Rockfield yw cynnwys pobl leol yn y broses. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi gweithio gyda’r ymgynghorwyr Pegasus Group i ddatblygu’r cynllun a chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus yng ngwanwyn 2021. Mae’r ymgynghoriad wedi arwain at nifer fach o newidiadau i’r cynlluniau ar gyfer y safleoedd i roi’r gofodau i ystyried anghenion y preswylwyr.

Dywedodd y Cyng. Lisa Dymock, Aelod Cabinet dros Lesiant Cymdeithasol a Chyfiawnder Cymdeithasol Cyngor Sir Fynwy: “Un o wersi pandemig COVID-19 a’r cyfnodau clo yw pwysigrwydd cael amrywiaeth o ofodau awyr agored ansawdd da sy’n gyfleus i deuluoedd ac unigolion fel y gallant dreulio amser yn yr awyr agored yn profi’r hyn sydd gan natur i’w gynnig ar garreg y drws.”

Yn ogystal â Rockfield, caiff yr ardaloedd chwarae yn Hendre Close, Goldwire Lane a King’s Fee i gyd eu gwella ar gyfer chwarae, mwynhad a bywyd gwyllt. Mae safle King’s Fee yn rhan o’r cynllun Teithio Llesol i gysylltu preswylwyr Kingswood Gate yn well gyda chanol tref Trefynwy.

Ychwanegodd y Cyng Jane Pratt, Aelod Cabinet Seilwaith a Gwasanaethau Cymdogaeth: “Mae’r cynigion hyn yn rhan arall o reolaeth gynaliadwy ein gofodau agored, sy’n helpu i ddiwallu amcanion ein cynllun Argyfwng Hinsawdd.”

Mae Cyngor Sir Fynwy yn dal i edrych am fwy o breswylwyr a grwpiau sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect neu mewn agweddau penodol o’r prosiect tebyg i dyfu bwyd cymunedol. Dylai preswylwyr a hoffai ganfod mwy anfon e-bost at y Bartneriaeth Natur Leol LocalNature@monmouthshire.gov.uk i gofrestru eu diddordeb.