Skip to Main Content

Arweiniodd y Cynghorydd Mat Feakins, Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy, wasanaeth Dydd y Cofio am 11am ddydd Iau 11 Tachwedd i goffau’r rhai a syrthiodd yn amddiffyn Prydain yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd, a’r aelodau o’r lluoedd arfog a gafodd eu lladd neu eu hanafu yn rhinwedd eu swyddi rhwng 1945 a’r dydd heddiw. Cynhaliwyd y seremoni yn Neuadd y Sir ym Mrynbuga,  gyda’r Cyng. Feakins yng nghwmni’r Parch Gyng. Bob Greenland yn gweithredu fel Caplan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Richard John a nifer o staff, cynghorwyr a chyn aelodau’r lluoedd arfog a nododd ddau funud o dawelwch.

Dywedodd y Cynghorydd Feakins: “Mae’n bwysig bob amser ein bod yn parhau i gofio aberth y rhai a aeth o’n blaenau, nid yn unig y rhai a gaiff eu coffau yma, ond pawb a wasanaethodd eu gwlad, yn ein diogelu rhag perygl a chadw’r heddwch ym mhedwar ban byd. Mae’n rhaid trysori’r cof amdanynt fel arall bydd eu haberth bersonol wedi bod yn ofer. Efallai nad ydym yn eu hadnabod, ond rhaid iddynt beidio bod yn angof.

“Mae’n rhaid i ni hefyd gofio gwaith anhygoel y Lleng Brydeinig Frenhinol. Mae heddiw yn ddiwrnod i’w gofio ond mae gwaith y Lleng Brydeinig Frenhinol yn parhau drwy gydol y flwyddyn, gan ofalu am les aelodau’r lluoedd arfog a’u dibynyddion, llawer ohonynt gydag anafiadau corfforol a seicolegol. Mae’n ddyletswydd arnom i ofalu amdanynt yn union fel yr oedd yn ddyletswydd arnynt hwythau i’n diogelu ninnau.”

Darllenodd y Parch Gyng. Bob Greenland The Oration to the Fallen wrth i’r unfed awr ar ddeg agosau. Yn dilyn y ddau funud o dawelwch, darllenwyd The Kohima Epitaph gan Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Richard John cyn i’r seremoni ddod i ben.


Llun: Y Cynghorydd, Parch Bob Greenland, Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy y Cyng. Mat Feakins, Arweinydd y Cyngor y Cyng. Richard John a’r Cyng Lisa Dymock,l Hyrwyddwyr Lluoedd Arfog Cyngor Sir Fynwy