Skip to Main Content

Mae llawer yn y newyddion ar hyn o bryd am gynhadledd Newid Hinsawdd COP26 a pha mor hanfodol yw hi i wledydd gydweithio i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Os ydych yn meddwl “beth fedraf i wneud i wneud gwahaniaeth?” mae cwrs hyfforddiant cyffrous newydd am ddim Llythrennedd Carbon yn dod yn fuan i breswylwyr Sir Fynwy.

Mae’r Prosiect Llythrennedd Carbon yn rhaglen hyfforddiant a gydnabyddir yn rhyngwladol sy’n hyrwyddo dealltwriaeth o newid yn yr hinsawdd ac yn helpu unigolion a sefydliadau i wneud newidiadau i leihau allyriadau carbon. Ar gyfartaledd, mae unigolion sy’n cymryd rhan yn yr hyfforddiant yn lleihau eu hallyriadau gan 5-15%.

Anelir yr hyfforddiant at gynghorau tref a chymuned, a hefyd breswylwyr a grwpiau cymunedol drwy raglenni Addysg Oedolion Sir Fynwy. Bydd hefyd sesiynau “Hyfforddi’r Hyfforddwr” ar gyfer staff y cyngor a nifer fach o hyrwyddwyr cymunedol, fel y gellir ymestyn hyfforddiant Llythrennedd Carbon i’r gymuned ehangach. Caiff yr hyfforddiant hwn ei gyllido drwy Raglen Cymunedau Gwledig – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, a gefnogir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. 

Mae’r hyfforddiant yn dilyn llwyddiant darparu hyfforddiant Llythrennedd Carbon i dros 200 o gynrychiolwyr o staff y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus o bob rhan o Went yn gynharach yn 2021.   Roedd yr hyfforddiant hwn, a ariannwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru, yn cynnwys staff ac aelodau etholedig o gynghorau lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Heddlu Gwent, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac eraill.  O ganlyniad i’r hyfforddiant hwn, mae Cyngor Sir Fynwy bellach wedi’i achredu fel Sefydliad Llythrennog Carbon Efydd, ac mae bellach yn gweithio tuag at lefel Arian.

Dangosodd adborth gan gyfranogwyr fod y rhai a gymerodd ran yn ei chael yn ddefnyddiol iawn deall camau ymarferol y gallant eu cymryd i leihau eu hallyriadau carbon.   Dywedodd un cyfranogwr, “Gorffennais fy nghwrs llythrennedd carbon yr wythnos hon, roedd yn syniadau gwych iawn ar gyfer y cartref a’r gwaith, cyfle gwych i rwydweithio”.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am y Newid yn yr Hinsawdd yng Nghyngor Sir Fynwy: “Yn ystod cynhadledd COP26, mae’n bwysig iawn bod pobl yn sylweddoli, yn ogystal ag arweinwyr y byd yn chwarae rhan hollbwysig, fod gweithredoedd unigol hefyd yn gwneud gwahaniaeth mawr.   Rydym yn falch iawn ein bod wedi cael y cyllid i allu cynnig hyfforddiant rhagorol, a gydnabyddir yn rhyngwladol, sy’n ysgogi’r meddwl i drigolion lleol.   Yn ogystal â helpu i ddeall gwyddoniaeth a graddfa’r broblem, mae’r hyfforddiant Llythrennedd Carbon yn canolbwyntio ar y camau y gall unigolion eu cymryd gartref, yn eu cymunedau ac yn eu gweithle i leihau carbon.”

Mae darparu hyfforddiant Llythrennedd Carbon yn Sir Fynwy yn rhan bwysig o Gynllun Gweithredu Argyfwng Hinsawdd y cyngor a gymeradwywyd yr wythnos diwethaf.   Bydd staff o Gyngor Sir Fynwy yn siarad am eu gwaith Llythrennedd Carbon mewn arddangosfa awdurdodau lleol sy’n cael ei threfnu gan y Prosiect Llythrennedd Carbon ar 11eg Tachwedd, i gyd-fynd â Thema COP Dinasoedd, Rhanbarthau a’r Amgylchedd Adeiledig ar gyfer y diwrnod hwnnw.

Bydd manylion dyddiadau’r hyfforddiant yn cael eu cyhoeddi’n fuan.  Os hoffech gael eich hysbysu’n uniongyrchol am yr hyfforddiant, anfonwch e-bost at rdpinfo@monmouthshire.gov.uk