Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn cynllunio llwybr Teithio Llesol – dolen gyfeillgar i seiclwyr a cherddwyr – yn cysylltu Stryd Mynwy yn Nhrefynwy gydag ardal Overmonnow. Bydd hyn yn rhoi gwell mynediad i seiclwyr a cherddwyr i brif stryd siopa y dref yn ogystal â thramwyfa i ysgolion lleol a’r ganolfan hamdden.

Bydd y llwybr arfaethedig yn rhedeg ar hyd Stryd Mynwy o Sgwâr Agincourt ac yn defnyddio’r bont gaerog hynafol dros yr afon. Bydd yn cysylltu gyda llwybr teithio llesol presennol sy’n dechrau yn Lôn Cae Williams ger Heol Wonastow yn Overmonnow.

Bydd cyllid gan Lywodraeth Cymru yn galluogi’r cyngor i gynnal astudiaeth dichonolrwydd i benderfynu ar y ffordd orau i fynd o gwmpas y cynllun. Bydd yr astudiaeth yn cynnwys cyfrif traffig, astudiaethau defnydd, asesiadau diogelwch ac arolygon topograffig ac i ddechrau bydd y cyngor yn casglu data ar batrymau ceir, cerddwyr a seiclo drwy osod synwyryddion a chamerâu ar hyd y llwybr arfaethedig. Bydd hyn yn cofnodi nifer a chyflymder cerbydau, faint o draffig cerddwyr a beiciau sydd, croesiadau stryd, damweiniau agos a gwrthdaro posibl rhwng cerddwyr, beiciau a cherbydau.

Bydd goleuadau stryd cyfagos yn rhoi’r ffynhonnell pŵer ar gyfer y synwyryddion, ond mae amserwyr arnynt ar hyn o bryd yn barod ar gyfer goleuadau Nadolig y dref. Nid yw swyddogion wedi llwyddo i ganfod cyflenwad pŵer arall felly’r unig ddewis fydd newid yr amserwyr i gyflenwad 24-awr er mwyn hwyluso’r astudiaeth. Bydd hyn yn golygu y bydd y goleuadau Nadolig, sydd hefyd wedi cysylltu gyda’r un ffynhonnell, yn gweithredu’n barhaol drwy gydol cyfnod y Nadolig. Yn y cyfamser, disgwylir y bydd y cyfnod monitro llawn yn rhedeg tan fis Medi 2022.

Dywedodd y Cynghorydd Lisa Dymock, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am Deithio Llesol: “Bydd y llwybr Teithio Llesol arfaethedig o fudd i nifer fawr o bobl ac yn rhoi ffordd fwy diogell a gwell o gerdded neu seiclo o Overmonnow i ganol Trefynwy.”

Mae mwy o wybodaeth ar deithio llesol ar gael yn: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/monmouthshire-active-travel-2/

https://www.monmouthshire.gov.uk/monmouthshire-active-travel/