Skip to Main Content

Dechreuodd disgyblion a staff Ysgol Gilwern ar daith oes gyda heic rhithwir a fydd yn eu gweld yn amgylchynu’r byd. Bydd y prosiect, sy’n debygol o bara dwy flynedd, yn codi arian ar gyfer elusen yn ogystal â bod o fudd i ddealltwriaeth disgyblion o wahanol wledydd a diwylliannau.

Bydd “Ysgol Gilwern – Ledled y Byd mewn Cwricwlwm Newydd” yn gweld staff a disgyblion yn cwmpasu’r pellter o 50,000 cilometr, o fewn safle’r ysgol a’r tu allan iddi. 

Ar gyfer pob rhan 10,000 cilometr o’r ymdaith bydd elusen wahanol yn elwa drwy nawdd, gyda’r nod o godi punt drwy’r gymuned ehangach ar gyfer pob cilomedr a deithiwyd. Elusen Alzheimer fydd y ffocws ar gyfer y 10,000 cilometr cyntaf.

Bydd dosbarthiadau ac unigolion yn cofnodi cyfanswm y pellter a gwmpesir yn wythnosol, a gan ddefnyddio technoleg helaeth bydd yr ysgol yn plotio’r daith wrth iddi ddatblygu. Ar ôl cwblhau pob 2,000 cilometr, bydd cwricwlwm yr ysgol yn cael ei ddiwygio i gynnwys astudiaeth fanwl o’r lleoliad a gyrhaeddwyd.  Y cyrchfan dynodedig cyntaf yw Copenhagen gyda chynnydd yn ymddangos pob cam o’r daith ar gyfrif Twitter yr ysgol: @gilwern_school.

Mae’r prosiect heriol yn cyd-fynd â chwricwlwm ysgol newydd a chyffrous Cymru, gyda phob grŵp blwyddyn yn canolbwyntio ar ddeg agwedd wahanol wrth i’r disgyblion a’r staff gyrraedd y lleoliadau arfaethedig. Bydd y meysydd yr ymchwilir iddynt yn cynnwys yr amgylchedd, bwyd, dawns, cerddoriaeth, celf, arian, amaethyddiaeth a’r hinsawdd.

Dywedodd y Pennaeth Roger Guy:  “Mae’r prosiect hwn yn aml-haenog, gan ganolbwyntio ar lesiant i ddechrau, a chael pwrpas cyffredin gyda’n gilydd wrth i ni redeg yn rhithwir o amgylch y byd. Gyda’n gilydd rydym yn gweithio fel y gwna Gwyddau, maent yn hedfan mewn trefn ac yn rhannu arweinyddiaeth, sy’n adlewyrchu’n drwm ar ein harddull arwain yma yng Ngilwern.”

Cafodd y digwyddiad gefnogaeth gan gyn-chwaraewr Undeb Rygbi Cymru a’r sylwebydd chwaraeon Eddie Butler, a ychwanegodd 5 cilometr gyda’r disgyblion.  Ychwanegodd “Roedd yn hwyl fawr, ac roedd ar gyfer achos gwych, uchelgeisiol.  I gychwyn ar rywbeth ac nid dim ond gwneud un diwrnod o weithgarwch, ond ei gynnal. Mae’n wers o ran cadw i fynd, dyfalbarhad a gwytnwch, a chredaf bod y rheiny’n werthoedd gwych i’w dysgu i bobl ifanc”

Dywedodd Will McLean, Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc:  “Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb yn Gilwern, mae’r athrawon wedi bod yn anghredadwy o frwdfrydig ac mor gadarnhaol ac wedi dod â chymaint o egni i’r diwrnod ac mae’n wych gweld yr ysgol yn dechrau ar y cwricwlwm newydd gyda’u taith o amgylch y byd.” 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Pavia, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Addysg:  “Mae hwn yn brosiect mor wych a fydd yn ysbrydoli disgyblion ysgol gynradd Gilwern, a gobeithio y bydd yn annog ysgolion eraill i ddilyn ôl troed achos mor uchelgeisiol.  Mae’r brwdfrydedd y mae’r athrawon wedi’i roi i’r plant yn heintus.  Pob lwc i bawb sy’n cymryd rhan.”