Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch o gyhoeddi bod mwy o atyniadau a mannau agored y sir wedi ennill Gwobrau mawreddog y Faner Werdd eleni. 

Mae’r gwobrau, a roddwyd gan yr elusen amgylcheddol flaenllaw Cadwch Gymru’n Daclus, yn rhoi cydnabyddiaeth i’r lleoliadau sy’n cynnig cyfleusterau rhagorol tra’n dangos ymrwymiad parhaus i ddarparu mannau gwyrdd o ansawdd uchel.  Eleni gwelir Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu wedi’i chynnwys am yr ail flwyddyn yn olynol, tra bod tri o leoliadau’r sir yn dathlu llwyddiant mynych: Hen Orsaf Tyndyrn (enillwyr gwobrau ers 2009), Parc Gwledig Castell Cil-y-coed (ers 2013) a Dolydd Castell y Fenni (ers 2014).

Mae Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn dderbynnydd haeddiannol o’i hail wobr eleni. Mae’n rhedeg drwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sy’n troelli o 35 milltir o Aberhonddu i Fasn Pont-y-moel yn Ne Cymru.  Mae’r ddyfrffordd dawel hon, gydag ychydig iawn o lociau, yn boblogaidd gyda dechreuwyr cychod ac mae’n cynnig golygfeydd anhygoel o’r mynyddoedd a rhai o’r awyr nos dywyllaf ym Mhrydain.

Mae parciau Sir Fynwy hefyd yn boblogaidd iawn gyda thrigolion ac ymwelwyr ac maent wedi denu nifer o wobrau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae Hen Orsaf Tyndyrn yn atyniad poblogaidd, wedi’i leoli mewn ardal goediog olygfaol wrth ymyl Afon Gwy, ac mae’n cael ei disgrifio fel gem gudd. Mae castell canoloesol godidog Cil-y-coed wedi’i leoli mewn pumdeg pump erw o barc gwledig hardd sy’n cynnig lleoliad delfrydol ar gyfer picnic a theithiau cerdded yn erbyn cefndir muriau’r castell, gyda byrddau picnic a barbeciw.

Mae Dolydd Castell tawel y Fenni ar lannau Afon Wysg yn darparu lleoliad heddychlon sydd ond taith gerdded fer o ganol y dref a dyma oedd lleoliad Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cylch 2016 llwyddiannus iawn.

Mae naw lleoliad arall ar draws y sir wedi derbyn cydnabyddiaeth arbennig gyda Gwobr Gymunedol:  Parc Maerdy, Parc y Beili, Coetir y Crug, Dôl y Crug, Gardd Gymunedol Goetre, Perllan Gymunedol Laurie Jones, The Cornfield ym Mhorth Sgiwed a Gardd Brynbuga Fwytadwy Faethlon Anhygoel, sy’n derbyn ei gwobr gyntaf eleni.

Gardd Brynbuga Fwytadwy Faethlon Anhygoel

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, Aelod Cabinet dros Seilwaith a Gwasanaethau Cymdogaeth:  “Mae mor wych gweld gwaith caled ac ymrwymiad y gwirfoddolwyr a’r grwpiau cymunedol niferus, sy’n gofalu am y mannau gwyrdd hardd hyn, yn derbyn y wobr wych hon. Ar ran fy nghydweithwyr a minnau, hoffwn ddiolch am yr holl waith caled y maent wedi’i wneud.”

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant Cymunedol a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Cynghorydd Sirol Lisa Dymock: “Rwyf mor falch bod llawer o leoliadau y tu mewn i’n sir brydferth wedi cael y gydnabyddiaeth y maent yn eu haeddu.  Yn y cyfnod anodd hwn dros y 18 mis diwethaf, mae mor bwysig i drigolion Sir Fynwy allu mwynhau’r awyr agored, ac rydym mor ffodus o gael lleoliadau hynod o wych ar garreg ein drws”

Cyflwynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru. Gwirfoddolodd arbenigwyr mannau gwyrdd annibynnol eu hamser yn gynnar yn yr hydref i farnu safleoedd ymgeisiol yn erbyn wyth maen prawf llym, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheoli amgylcheddol, a chynnwys y gymuned.

Mae rhestr lawn o enillwyr y gwobrau i’w gweld ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru/cy

I gael rhagor o wybodaeth am yr atyniadau a’r lleoedd niferus i ymweld â nhw yn Sir Fynwy, edrychwch i wefan: Ymwelwch â Sir Fynwy www.visitmonmouthshire.com/cymraeg/