Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cydweithio gyda PayByPhone, yr arweinydd byd-eang mewn taliadau parcio symudol, i gynnig symlrwydd parcio di-arian parod i yrwyr mewn 2,383 o ofodau parcio yn ei 18 maes parcio oddi ar y stryd. Caiff y system newydd ei lansio ddydd Llun 1 Tachwedd ac ni chodir ffi trafodion ar gyfer ei defnyddio.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, Aelod Cabinet Sir Fynwy dros Seilwaith a Gwasanaethau Cymdogaeth: “Rydym yn falch iawn i gynnig yr opsiwn diogel, rhwydd a syml o barcio di-arian parod i breswylwyr ac ymwelwyr i’n sir hardd. Lansiodd nifer o gynghorau Cymru PayByPhone yn ddiweddar, a gwelsom pa mor llwyddiannus y gweithredwyd y gwasanaeth ar gyfer y cynghorau a’r defnyddwyr eu hunain. Mae PayByPhone yn cynnig llawer o hyblygrwydd i yrwyr, gan eu galluogi i ddechrau ac ymestyn eu sesiynau parcio mewn mater o eiliadau o’r ap PayByPhone. Mae hyn yn golygu nad oes risg trin arian a dim angen poeni am ruthro’n ôl i geir i ymestyn sesiynau parcio os ydynt eisiau aros yn hirach nag a fwriadent.”

I wneud parcio hyd yn oed yn rhwyddach i’w ddefnyddio, cyflwynodd PayByPhone fersiwn Gymraeg o’i ap yn 2019 a diwygiodd ei holl arwyddion ar draws Cymru i gynnwys opsiynau dwyieithog. Mae ap PayByPhone hefyd yn cynnwys eitem Mapiau sy’n galluogi gyrwyr i wybod ble mae ardaloedd parcio cyn gadael ar gyfer y gyrchfan. Gall gyrwyr roi lleoliad eu cerbyd ar y map unwaith y maent wedi parcio. Mae eitem Parcio Cyfagos yn rhoi rhif lleoliad parcio agosaf PayByPhone i yrwyr unwaith y byddant wedi parcio.

Dywedodd Adam Dolphin, Cyfarwyddwr Gwerthiant PayByPhone UK: “Rydym yn hapus iawn bod PayByPhone yn helpu i wneud y profiad parcio mor ddidrafferth ag sydd modd ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr i’r rhan hardd hon o Gymru. Mae gan bobl fywydau prysur ac mae ein ap yn symleiddio pethau fel y gallant ddal ati gyda’r pethau sydd bwysicaf iddynt, heb orfod poeni am barcio. Byddwn yn annog gyrwyr i lawrlwytho’r ap cyn gynted ag sydd modd – mae’n cymryd llai na 30 eiliad i gofrestru – fel y gallant ddefnyddio’r gwasanaeth newydd ar unwaith.”

Wrth ddefnyddio ffonau i dalu drwy system di-gyswllt neu ap, mae’n bwysig glanhau’r ddyfais gyda weips seiliedig ar alcohol. Gall ffonau godi germau o arwynebau y cânt eu rhoi arnynt, gan o bosibl wedyn eu trosglwyddo i ddwylo neu wynebau.

Gellir lawrlwytho ap PayByPhone o’r App Store neu Google Play Store ac mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.paybyphone.co.uk.