Skip to Main Content

Caiff trigolion Sir Fynwy eu gwahodd i helpu llunio’r dyfodol gorau posibl i’r sir drwy gyflwyno eu barn mewn arolwg.

Yn rhan o fenter ledled Gwent, mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent – cydweithrediad o wasanaethau’r sector cyhoeddus a gwirfoddol – yn gofyn am adborth i ofyn beth sy’n gweithio’n dda, a beth allai fod yn well yng nghymunedau’r ardal. Bydd yr ymatebion yn sicrhau bod cynlluniau a phrosiectau’n targedu pethau sydd bwysicaf i drigolion.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn deillio o amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill gynllunio o leiaf 10 ac yn ddelfrydol hyd at 25 mlynedd i ddod. Bydd gan benderfyniadau a wneir yn awr oblygiadau gwirioneddol i gymdeithas yfory, felly mae’n rhaid i sefydliadau cyhoeddus baratoi ar gyfer y dyfodol yn ogystal â’r presennol.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy a chynrychiolydd y cyngor ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent, y Cynghorydd Richard John, “Rydym am i gynifer o drigolion â phosibl gymryd rhan yn yr arolwg fel y gallwn lunio dyfodol y sir yn y ffordd orau bosibl. Mae Sir Fynwy yn wynebu rhai heriau mawr. Mae cyllidebau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn gostwng tra bod disgwyliadau’n codi. Mae gennym newidiadau i batrymau tywydd a phoblogaeth sy’n heneiddio yn ogystal â phrisiau eiddo cynyddol gyda chyflogau cymharol isel, sy’n ei gwneud yn anoddach i deuluoedd ifanc fyw a gweithio’n lleol – ond bydd eich cyfranogiad yn ein helpu i gynllunio’r dyfodol gyda rhywfaint o hyder.”

I gael gwybodaeth a mynediad i’r arolwg yn y dyfodol, mewngofnodwch i: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/ein-sir-fynwy/ – y dyddiad cau ar gyfer cwblhau’r arolwg yw dydd Iau, 30ain Medi.