Skip to Main Content

Yn dilyn proses recriwtio allanol lwyddiannus, mae Cyngor Sir Fynwy wedi croesawu’r prentisiaid cyntaf i’w dîm Tiroedd a Glanhau.  Bydd y tri phrentis lleol yn cyfuno astudio ar Gampws Pencoed Coleg Pen-y-bont ar Ogwr gyda dysgu yn y gweithle dros y ddwy flynedd nesaf. 

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros yr Economi: “Mae’r cyfle i helpu’r prentisiaid hyn i ddilyn eu huchelgeisiau yn un y mae’r cyngor wedi’i groesawu’n fawr.  Mae gennym gymaint o bobl fedrus sy’n gweithio o fewn y cyngor mewn sefyllfa dda i rannu eu gwybodaeth â’r rhai sy’n dechrau ar eu gyrfa.  Bydd y prentisiaid, Sharnie O’Shea, Morgan Haines ac Abigail Bowditch, yn cael eu cefnogi ar eu taith ddysgu gan fentoriaid sydd â blynyddoedd lawer o brofiad. Mae eisoes yn glir bod gan Abigail, Sharnie a Morgan lawer iawn i’w gynnig ac maent wedi ymrwymo i’w rôl newydd.”

Mae Morgan Haines, 20, wedi bod ar y cynllun ers pedair wythnos gan ddweud:  “Doeddwn i ddim am gael swydd mewn swyddfa, dw’i wastad wedi bod yn berson awyr agored. Dw’i eisoes wrth fy modd gyda’r swydd, rwy’n mwynhau pob agwedd arni a’r ffaith ein bod hefyd yn astudio ar gyfer cymhwyster Garddwriaeth Lefel 2 yn y gwaith. Gallwn fynd ymlaen i weithio tuag at gymwysterau pellach hefyd.”

Ddeufis i mewn i’w phrentisiaeth, dywedodd Abigail Bowditch, sy’n 22 oed:  “Doedd gen i ddim llawer o brofiad cyn dechrau’r brentisiaeth, ond rwyf eisoes yn gweld sut rwy’n symud ymlaen ac yn ei fwynhau’n fawr.  Mae’r cyfle i ddysgu pethau tra bod gennych swydd yn bwysig iawn, mae’n rhoi ymdeimlad o ddiogelwch.”

Gan weithio fel Uwch Weithredydd Cynnal a Chadw Tiroedd ar gyfer Cyngor Sir Fynwy, mae gan Nigel Reece dros 26 mlynedd o brofiad i rannu:  “Mae’r cynllun yn cynnig cyfle prin i ddysgu ystod eang o sgiliau sy’n cwmpasu gwaith tymhorol, felly nid oes dau ddiwrnod yr un fath byth.  Rwyf wedi bod yn yr awyr agored ar hyd fy oes ac mae helpu i arwain ein prentisiaid drwy eu hyfforddiant, fel mentor, yn rhoi boddhad mawr.”

Prentisiaid Abigail Bowditch, Morgan Haines, Uwch Weithredwr Cynnal a Chadw Tiroedd Nigel Reece

Mae’r prentisiaid a gweddill y tîm Tiroedd a Glanhau allan ar hyn o bryd yn tocio gwrychoedd a thorri glaswellt ar draws y sir i baratoi ar gyfer dyfodiad yr hydref, pan fydd eu gwaith yn symud ymlaen i dasgau tymhorol eraill.

I gael gwybodaeth am gyfleoedd gwaith yng Nghyngor Sir Fynwy, ewch i: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/swyddi-chyflogaeth/