Skip to Main Content

Mae busnesau Trefynwy wedi mynychu’r digwyddiad rhwydweithio wyneb yn wyneb cyntaf yn y dref ers y pandemig.  Trefnwyd y digwyddiad, a gynhaliwyd ddydd Mawrth 3ydd Awst ym Mhafiliwn Hitchcock Ysgolion Trefynwy Haberdashers, gan Siambr Fasnach Trefynwy a rhoddodd gyfle i berchnogion busnesau lleol gyfarfod ag aelodau’r siambr, a gyda chynghorwyr a swyddogion o Gyngor Sir Fynwy.

Ymunodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Sara Jones ag Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Richard John, ynghyd â swyddogion o’r timau Sgiliau a Chyflogaeth, Busnes ac Adfywio.  Roedd tîm Datblygu Rhanbarthol y cyngor hefyd wrth law i ateb cwestiynau am gynlluniau arfaethedig ar gyfer Trefynwy yn y dyfodol.  Croesawodd y Siambr Fasnach, a oedd yn cynnwys Sherren McCabe-Finlayson, Cerys Watts, David Evans a Mark Lindley, berchnogion busnes lleol yn yr hyn y gobeithir fydd y cyntaf o lawer o ddigwyddiadau cymorth busnes o’r fath.

Yn y digwyddiad gyda’r nos, dywedodd y Cynghorydd Richard John:  “Mae’r 18 mis diwethaf wedi bod yn gyfnod hynod heriol i fusnesau Sir Fynwy, ac er ein bod wedi gallu parhau i ddarparu cymorth a gwybodaeth drwy gyfarfodydd ‘rhithwir’ a chyfryngau cymdeithasol yn ystod y cyfnod hwn, mae gallu cwrdd â phobl wyneb yn wyneb eto yn wych.  Rydym wedi bod yn ymweld â busnesau ar draws y sir dros yr wythnosau diwethaf, ac rydym wedi bod yn clywed am y dulliau dyfeisgar ac arloesol y mae busnesau wedi bod yn eu cymryd i geisio mynd i’r afael â’r materion ariannol dwys a achoswyd gan y pandemig.  Mae digwyddiadau fel hyn wir yn ein helpu i gael deialog uniongyrchol gyda chymuned fusnes Sir Fynwy, dysgu o’u profiadau a helpu i weithio i ddiwallu eu hanghenion parhaus.”

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Mae gennym barch a diolchgarwch aruthrol am waith caled Siambr Fasnach Trefynwy a holl fusnesau’r dref drwy gydol y pandemig.  Maent oll wedi gweithio’n ddiflino i adeiladu dyfodol cynaliadwy a chadarnhaol i Drefynwy, ac i’r sir. Rydym yn falch o allu cefnogi a chynorthwyo hyn ac edrychwn ymlaen at gyfarfodydd tebyg gyda busnesau ar draws Sir Fynwy yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf.”

Dywedodd Sherren McCabe-Finlayson, Cadeirydd Siambr Fasnach Trefynwy:  “Roedd yn hyfryd gallu croesawu cynrychiolwyr Cyngor Sir Fynwy a busnesau tref i ymuno â ni ar gyfer ein digwyddiad rhwydweithio wyneb yn wyneb cyntaf ers y cyfyngiadau Covid. Rydym yn ddiolchgar i bawb a helpodd i wneud y noson yn llwyddiant ac yn enwedig i Ysgolion Trefynwy Haberdashers am eu lletygarwch a’u defnydd o’r Pafiliwn Hitchcock gwych.  Rydym yn edrych ymlaen at gynnal cyfarfodydd rheolaidd a digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.”

I gael gwybodaeth am ymuno â Siambr Fasnach Trefynwy ewch i www.monmouthchamber.co.uk Am y wybodaeth ddiweddaraf am gymorth busnes ewch i monmouthshire.gov.uk/cy/cyngor-i-fusnesau/