Gwahoddiad i fusnesau i gofrestru ar gyfer gweminar fyw am y grantiau diweddaraf

Hoffai Cyngor Sir Fynwy glywed gan fusnesau a allai fod yn ansicr pa gyllid y gallent fod yn gymwys i dderbyn, a pha grantiau sydd ar gael i’w sector. Anogir perchnogion busnes i gofrestru ar gyfer digwyddiad Fforwm Busnes awr o hyd am ddim ar ddydd Iau 28ain Ionawr. Mae dwy sesiwn ar gael i ddewis ohonynt, ar naill ben y diwrnod busnes: 8.30am a 5.30pm.

Yn dilyn y cyfyngiadau a roddwyd ar fusnesau o ganlyniad i’r pandemig, lansiwyd grantiau amrywiol gan Lywodraeth Cymru i geisio helpu’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio’n ddifrifol gan y cyfnodau cau a cholli derbyniadau incwm o ganlyniad i’r rheiny. Mae’r sesiynau holi ac ateb ar-lein sy’n cael eu cynnal gan y cyngor wedi’u cynllunio i egluro’r cynlluniau ac i ateb cwestiynau a godir gan berchnogion busnes ar draws y sir.

Er mwyn ymuno, bydd angen i fusnesau gofrestru eu diddordeb drwy ffurflen fer. https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=eQBNLCzFs0uzytjq8ba31VHPtFUcPjFJsdm8gcXsEl9UMzhBSFlXUEMyUTdKRkNaVEJKUFdJOUdNUC4u

Bydd dolen i ymuno â’r cyfarfod drwy Microsoft Teams yn cael ei e-bostio at fusnesau sy’n ymateb.

Cronfa Busnesau Dan Gyfyngiadau

Nod cynllun cymorth busnes diweddaraf Llywodraeth Cymru yw cefnogi busnesau (yn bennaf yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth, hamdden neu eu cadwyn cyflenwi, a manwerthu nad yw’n hanfodol) yr effeithiwyd arnynt gan y cyfyngiadau ychwanegol a ddechreuodd ar y 4ydd a’r 20fed Rhagfyr 2020.

Lle y gallwn, rydym wedi gwneud taliadau awtomatig i fusnesau cymwys. Os cawsoch daliad o dan gynllun Grant Ardrethi Annomestig Cyfyngiadau Cloi’r Cyfnod Atal Byr, yn gweithredu yn y sectorau a nodwyd uchod ac fe’ch gorfodwyd i gau, byddwch eisoes wedi derbyn taliad awtomatig ychwanegol o naill ai £3,000 neu £5,000 ar gyfer y grant Ardrethi Annomestig Busnesau Dan Gyfyngiadau newydd hwn.

Os nad ydych wedi derbyn y taliad awtomatig hwn neu ni wnaethoch gais o’r blaen am Grant Ardrethi Annomestig Cyfyngiadau Cloi’r Cyfnod Atal Byr, yna gallwch wneud cais am y grant Ardrethi Annomestig Busnesau Dan Gyfyngiadau newydd drwy gwblhau cais byr.

Nodwch, nid yw busnesau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth yr effeithiwyd arnynt i ddechrau gan y cyfyngiadau a gyflwynwyd ar 4ydd Rhagfyr 2020 yn gymwys i gael grant ychwanegol yn dilyn y newid i gyfyngiadau cloi llawn ar 20fed Rhagfyr 2020.

Mae’r grant Ardrethi Annomestig Busnesau Dan Gyfyngiadau hefyd wedi’i ehangu i gynnwys busnesau sydd â gwerth ardrethol o rhwng £51,000 a £150,000 sy’n gweithredu yn y sectorau hyn. Os bydd eich busnes yn perthyn i’r categori hwn bydd angen i chi gwblhau cais byr.

Nodwch mai dim ond os ydych yn bodloni’r meini prawf a restrir isod a bod eich busnes yn cael ei raddio ar gyfer Ardrethi Busnes y byddwch yn gymwys i gael grant Ardrethi Annomestig Busnesau Dan Gyfyngiadau yn Sir Fynwy.

Gallwch wneud cais am grant Ardrethi Annomestig Busnesau Dan Gyfyngiadau yma – Ffurflen gais y Gronfa Ardrethi Annomestig Busnesau Dan Gyfyngiadau

Grant Dewisol Cronfa Busnesau dan Gyfyngiadau

Os nad yw eich busnes ar y system ardrethi busnes gallech fod yn gymwys am Grant Dewisol Busnesau dan Gyfyngiadau o £2,000. Darllenwch y canllawiau i weld os ydych yn gymwys am y grant hwn 

Os credwch eich bod yn gymwys bydd angen i chi lenwi ffurflen gais fer yn defnyddio’r ddolen yma: Ffurflen Gais Grant Dewisol Cronfa Busnesau dan Gyfyngiadau

Gofynnir i chi nodi fod hyn yn barhad o’r Cynllun Grant Dewisol blaenorol. Os gwnaethoch grant ym mis Rhagfyr 2020 yna peidiwch ailymgeisio os gwelwch yn dda.

Os nad yw eich busnes ar y system ardrethi busnes, efallai y byddwch yn gymwys i gael Grant Dewisol Cyfyngiadau Cloi.  Bydd manylion y cynllun hwn a sut i wneud cais yn dilyn cyn bo hir.    

Crynodeb o fanylion y Cynllun:   

Cyfyngiadau Ardrethi Annomestig Busnesau Dan Gyfyngiadau. 

Bydd swm y grant a dderbynnir yn un o’r canlynol:  

Grant A: Taliad grant arian parod o £3,000 ar gyfer busnesau lletygarwch / sefydliadau dielw lletygarwch a busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol gydag hereditamentau cymwys Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach gyda gwerth ardrethol o £12,000 neu lai. 

Grant B: 

Taliad grant arian parod o £5,000 ar gyfer busnesau lletygarwch / sefydliadau dielw lletygarwch a busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol gydag hereditamentau sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000.  

Grant C:  

Taliad grant arian parod o £5,000 ar gyfer busnesau lletygarwch / sefydliadau dielw lletygarwch a busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol gydag hereditamentau sydd â gwerth ardrethol rhwng £51,001 a £150,000. 

Bydd y grantiau hyn ar gael i’r canlynol:  

  • busnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden   
  • sefydliadau lletygarwch, twristiaeth a hamdden dielw a’u cadwyni cyflenwi   
  • busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol   

Mae busnesau’n gymwys i gael y grant os ydynt naill ai wedi cael eu gorfodi i gau o ganlyniad i’r cyfyngiadau cenedlaethol neu nad yw wedi bod yn ofynnol iddynt gau ond maent wedi gweld gostyngiad mewn trosiant.   

Ar gyfer busnes nas gorfodwyd i gau, gofynnir i chi hunan-ddatgan a ydych wedi profi gostyngiad o 40% mewn trosiant ar gyfer mis Rhagfyr 2020 o’i gymharu â mis Rhagfyr 2019.  Os nad oedd y busnes yn masnachu ym mis Rhagfyr 2019, dylai’r gymhariaeth mewn trosiant fod ar gyfer y trosiant misol ar gyfer Rhagfyr 2020 o gymharu â mis Medi 2020.  Rhaid i’r gostyngiad mewn trosiant fod fel canlyniad uniongyrchol i’r cyfyngiadau newydd a gyflwynwyd ar, ac ers, 4ydd Rhagfyr.  

Nid oes angen i fusnesau lletygarwch cymwys a busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol a sefydliadau dielw wneud unrhyw fath o hunan-ddatganiad mewn perthynas â’u trosiant.  

Mae’n rhaid bod hereditament yr ymgeisydd wedi bod ar y rhestr Ardrethi Annomestig o’r 1af Medi 2020 ac mae angen i’r trethdalwr fod wedi bod yn meddiannu’r eiddo o’r 30ain Tachwedd 2020. 

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canllawiau Canllawiau Ardrethi Annomestig Busnesau Dan Gyfyngiadau 

Cronfa Cymorth Penodol i’r Sector Cronfa Cadernid Economaidd

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi lansiad pecyn Cymorth Benodol i’r Sector y Gronfa Cadernid Economaidd. Agorodd ceisiadau am y cynllun hwn am hanner dydd ar 13 Ionawr 2021 a byddant yn aros ar agor am bythefnos, neu hyd nes y bydd yr arian wedi’i ymrwymo’n llawn.

Mae’r ffrwd ariannu ddiweddaraf hon wedi’i hanelu’n benodol at fusnesau yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a hamdden, gan gynnwys busnesau sy’n cyflenwi’r sectorau hynny, sydd wedi profi gostyngiad o 60% neu fwy o’u trosiant o ganlyniad i’r cyfyngiadau a gyflwynwyd ar y 4ydd Rhagfyr 2020 hyd yr 22ain Ionawr 2021.

Mae’r gronfa Cymorth Benodol i’r Sector y Gronfa Cadernid Economaidd yn ategu mesurau ymateb COVID-19 eraill i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru – gan gynnwys y grantiau Ardrethi Annomestig sydd hefyd ar gael.

Gall busnesau sy’n gymwys i gael grant Ardrethi Annomestig y Gronfa Busnesau Dan Gyfyngiadau (ac eithrio’r grant Dewisol) hefyd wneud cais am grant Cymorth Benodol i’r Sector y Gronfa Cadernid Economaidd. Mae rhagor o wybodaeth am

grant Cymorth Benodol i’r Sector y Gronfa Cadernid Economaidd COVID-19 a’i gwiriwr cymhwysedd ar gael yn: https://fundchecker.businesswales.gov.wales/sectorspecificgrant/cy

Mae’r cynllun, yn wahanol i lawer o’r grantiau eraill, yn cael ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru. Argymhellir y dylai busnesau sy’n gwneud cais am y grant diweddaraf hwn hefyd ystyried y Cynllun Cadw Swyddi (a elwir hefyd yn Gynllun Ffyrlo) sydd bellach yn cynnwys mwy o weithwyr ac sydd wedi’i ymestyn i fis Ebrill 2021.

DIWEDDARIAD:

Cyflwyniad

Mae’r canllawiau hyn yn nodi pa fusnesau a mangreoedd y bydd yn rhaid iddynt gau ar Lefel Rhybudd 4. Maent hefyd yn nodi at ba ddibenion cyfyngedig y gellir cael mynediad at rai busnesau a mangreoedd sydd wedi cau.

Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i’r rhai sy’n gyfrifol am fangreoedd sy’n parhau i fod ar agor i’r cyhoedd, neu am unrhyw fangre sy’n weithle, gymryd pob cam rhesymol i leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws a rhoi sylw i ganllawiau Llywodraeth Cymru ar yr hyn y mae hynny’n ei olygu.

Rydym yn cydnabod yr ymdrechion enfawr y mae busnesau wedi’u gwneud i sicrhau bod eu safleoedd yn ddiogel. Nid yw’r gofyniad hwn i gau ar Lefel 4 yn adlewyrchiad ar yr ymdrechion hynny ac rydym yn sylweddoli mai dim ond risg isel neu gymedrol o drosglwyddo’r feirws sydd mewn llawer o safleoedd busnes. Ond ar Lefel 4, mae lleihau unrhyw gyfraniad at ledaeniad y feirws yn bwysig, a dyna pam mae gofyn i rai busnesau gau dros dro.

Cwmpas y canllawiau hyn

Mae’r canllawiau hyn, a’r cyfyngiadau yn y rheoliadau sy’n ymwneud â chyfnod atal byr y coronafeirws, wedi’u cyfeirio’n bennaf at fangroedd sydd ar agor i’r cyhoedd. Gall y mangreoedd hynny fod o dan do neu yn yr awyr agored. Prif ddiben cau mangreoedd yw lleihau nifer y cynulliadau o bobl a lleihau nifer y siwrneiau y mae pobl yn eu gwneud, yn unol â’r rheol gyffredinol y dylai pobl aros gartref gymaint â phosibl.

Mae rhai mathau o fusnesau’n gallu cynnal eu gweithgareddau mewn amrywiaeth o leoliadau gwahanol, gan gynnwys yng nghartrefi pobl. Pan fo busnesau’n cael eu gwahardd rhag gweithredu mewn un math o fangre, byddant hefyd (yn ddarostyngedig i’r eithriadau a nodir yn y canllawiau hyn) yn cael eu gwahardd rhag gweithredu mewn mangreoedd eraill. Felly, er enghraifft, oherwydd bod gwaharddiad ar siopau trin gwallt rhag agor gan fod hyn yn cael ei ystyried yn weithgaredd nad yw’n hanfodol, ni chaniateir i drinwyr gwallt symudol ddarparu eu gwasanaethau yng nghartrefi cleientiaid na’u cartrefi eu hunain. Mae hyn er mwyn osgoi sefyllfa lle mae pobl yn ymgynnull ar ôl cael eu symud o un lleoliad i’r llall, a lleihau cystadleuaeth annheg rhwng busnesau tebyg.

Golyga hyn nad yw busnesau nad ydynt yn gweithredu o fangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd wedi’u cynnwys yn y rhestrau ar y dudalen hon, a chaniateir iddynt barhau i weithredu. Felly, er enghraifft, nid yw gwaith adeiladu neu gynnal a chadw mewn eiddo preifat, gwaith ffatri a gwasanaethau glanhau wedi’u rhestru yn y canllawiau hyn, ond maent yn gallu parhau ar yr un sail â chyn y cyfnod atal.  

I’r busnesau hynny sy’n parhau i weithredu, rhaid i’r sawl sy’n gyfrifol am y gwaith gymryd pob cam rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws ar y safle, a lleihau’r risg y bydd y rhai sydd wedi bod ar y safle yn lledaenu’r feirws.  Mae canllawiau statudol wedi’u cyhoeddi i helpu pobl i ddeall beth yw ystyr “mesurau rhesymol”, y mae’n rhaid i’r rhai sy’n gyfrifol am fangre agored roi sylw iddynt. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i helpu cyflogwyr, cyflogeion a’r rhai sy’n hunangyflogedig i weithio’n ddiogel yn ystod y pandemig.

Siopau: y rheol gyffredinol

Y sefyllfa ddiofyn o ran siopau (“unrhyw fusnes sy’n gwerthu nwyddau neu wasanaethau i’w gwerthu neu eu llogi ar safle manwerthu”) ar Lefel Rhybudd 4 yw y dylid eu cau i gyd, oni bai eu bod yn gategori o siop sy’n darparu nwyddau neu wasanaethau a ganiateir yn benodol.

A siarad yn gyffredinol, dylai busnesau sy’n gweithredu o siopau dybio y bydd yn ofynnol iddynt gau’r siopau hynny a rhoi’r gorau i’w gweithgareddau, oni bai eu bod wedi’u heithrio am fod y nwyddau neu’r gwasanaethau y maent yn eu darparu yn cael eu hystyried yn “hanfodol”.

Mae hyn yn gyson â’r gofyniad cyffredinol a orfodir ar bobl Cymru i aros gartref ar Lefel Rhybudd 4. Y sefyllfa ddiofyn yw bod yn rhaid i bobl aros gartref oni bai bod ganddynt esgus rhesymol i adael. Rhestrir esgusodion rhesymol, ond maent yn berthnasol dim ond os yw’n angenrheidiol gadael y cartref. Felly, ni chaniateir gadael y cartref am unrhyw reswm nad yw’n hanfodol.

Mae hyn yn golygu bod dau fater y dylech eu hystyried wrth feddwl a yw mynd i siop yn “hanfodol”.

Cyfrifoldeb ar yr unigolyn yw’r cyntaf.  Dylai pobl ofyn iddyn nhw eu hunain a oes angen iddyn nhw adael eu cartref.  Wrth gwrs, mae digonedd o resymau dilys pam y bydd pobl am adael eu cartref, a’r mwyaf o’r rheini yw mynd allan i brynu bwyd.  Ond dylai pobl wneud popeth yn eu gallu i adael eu cartref i siopa mor anaml â phosibl a threulio cyn lleied ag y medrant o amser o’u cartref. Dylen nhw ystyried hefyd a oes posibiladau eraill fel archebu i’r tŷ.  Hefyd, os nad oes angen prynu cynnyrch arbennig, ni ddylen nhw adael y cartref i wneud hynny.

Yr ail ystyriaeth yw a yw’r cynnyrch y mae pobl am eu prynu ar gael.  Er mwyn osgoi gadael cartref heb eisiau, rydym wedi gofyn i rai mathau o fusnesau manwerthu gau.  Mae’r rheswm dros ofyn iddyn nhw gau yn seiliedig unwaith eto a ellir ystyried bod angen gadael cartref i brynu nwyddau neu wasanaethau o’r siopau hyn. Y busnesau sy’n gyfrifol am hyn – a bydd gofyn i rai ohonynt gau, yn unol â’r gyfraith.

Mae Pennod 2 Rhan 4, Atodlen 4 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn nodi’r sefyllfa ddiofyn bod yn rhaid i bob siop gau, ond mae Pennod 3 yn darparu ar gyfer eithriadau mewn rhai amgylchiadau. Mae Pennod 4 yn rhestru’r safleoedd sy’n gorfod cau ynghyd â’r eithriadau. Ceir hefyd esgus rhesymol cyfatebol dros adael y cartref sy’n darparu y gall pobl fynd i siopau o’r fath os yw’n angenrheidiol.

  1. “”(1) Ni chaiff unrhyw berson ymadael â’r man lle y mae’n byw neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw heb esgus rhesymol.
  2. (2)At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—
    1. (a) os yw’r person yn ymadael â’r man lle y mae’n byw, neu’n aros i ffwrdd o’r man hwnnw, at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu
    2. (b) os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (4) yn gymwys.

Siopau sy’n gwerthu sawl math o gynnyrch

Mae rhai siopau – fel archfarchnadoedd – yn gwerthu sawl math o gynnyrch gan gynnwys y cynnyrch a werthir gan siopau rydym wedi gofyn iddyn nhw gau ar Lefel 4.  

At ddiben y Rheoliadau, mae’r siopau hyn yn rhedeg mwy nag un math o fusnes ac mae gofyn iddynt gau’r rhannau hynny o’u busnesau sy’n gwerthu cynnyrch y mae gofyn i fath o fusnes a fyddai fel arfer yn eu gwerthu gau.

Ni ellir trosglwyddo i’r cwsmer y cyfrifoldeb am gau safle ac am beidio â gwerthu rhai cynnyrch. Cyfrifoldeb y siop yw hyn. Ni all y siop osgoi’r cyfrifoldeb hwn ac i osgoi unrhyw amheuaeth, os yw’r siop yn trefnu bod ei holl gynnyrch ar gael ond yn gofyn i’w chwsmeriaid (er enghraifft trwy arwyddion neu gyhoeddiadau) beidio â phrynu unrhyw beth y gallent gredu fod ganddynt reswm da i’w brynu, nid yw’n ysgwyddo’i chyfrifoldeb cyfreithiol.

Yr ardaloedd a gaiff fod ar agor mewn siopau sy’n gwerthu sawl math o gynnyrch yw’r ardaloedd sy’n gwerthu:

  • Bwyd a diod.
  • Cynnyrch sy’n gysylltiedig â bwyd a diod, gan gynnwys eitemau untro a ddefnyddir ar gyfer paratoi a storio bwyd (fel ffoil cegin, bagiau bwyd a clingfilm) ond hefyd y cynnyrch sylfaenol sydd eu hangen i baratoi a bwyta bwyd a diod, megis cynwysyddion bwyd, sosbenni, llestri, cyllyll a ffyrc ac eitemau tebyg eraill.
  • Cynnyrch ar gyfer golchi dillad ac ar gyfer glanhau a chynnal a chadw’r cartref gan gynnwys batrïau, bylbiau golau a thanwydd. Mae hyn hefyd yn cynnwys unrhyw gynnyrch sydd eu hangen i ofalu am anifeiliaid.
  • Cynnyrch y stafell ymolchi, gofal personol a nwyddau harddu, fel papur tŷ bach a nwyddau misglwyf.
  • Cynnyrch fferyllol.
  • Cynnyrch ar gyfer babanod gan gynnwys offer, dillad a chewynau (clytiau).
  • Papurau newydd a chylchgronau.
  • Nwyddau papur a chardiau cyfarch.
  • Bwyd anifeiliaid anwes a chyflenwadau tebyg eraill.
  • Cynnyrch ar gyfer cynnal a chadw beiciau a cheir.
  • Gwasanaethau atgyweirio a chynnal a chadw dyfeisiau telathrebu neu TG.
  • Yn ogystal, caiff archfarchnad werthu unrhyw eitem a werthir fel arfer mewn siop fach, siop gornel a siop ddiodydd drwyddedig.

Mae’r cyfyngiadau hyn yn golygu y bydd yn rhaid i rai siopau gau rhannau o’u safleoedd i gwsmeriaid. Bydd rhai rhannau o siopau mawr yn arddangos y nwyddau “hanfodol” hynny y ceir parhau i’w gwerthu tra bo rhannau eraill yn gwerthu nwyddau “dianghenraid” eraill. Lle bo’n rhesymol ymarferol gwahanu’r rhain mewn ffordd glir, yna ni cheir gwerthu’r nwyddau dianghenraid hynny.

Mewn archfarchnadoedd mawr, bydd yn amlwg yn y rhan fwyaf o achosion bod yn rhaid rhwystro mynediad i rai rhannau o’r siop, neu eu gwagio, a’u cau i’r cyhoedd. Lle bo rhannau penodol o’r siop yn gwerthu (er enghraifft) nwyddau trydan, dillad, teganau, gemau, neu gynnyrch ar gyfer yr ardd, dylid cau’r rheini i’r cyhoedd – ac ni ddylai’r cynnyrch hyn gael eu gwerthu.

Lle nad oes rhannau penodol o’r siop wedi’u neilltuo ar gyfer nwyddau o’r fath, ond eu bod mewn eiliau penodol, dylid cau’r rhain neu rwystro mynediad iddynt os yw’n rhesymol ymarferol. Fodd bynnag, bydd angen i siopau wneud y trefniadau hyn mewn ffyrdd sy’n caniatáu i gwsmeriaid symud yn ddiogel o gwmpas y safle, ac felly mewn safleoedd llai yn arbennig rydym yn cydnabod na fydd bob amser yn bosibl cau eiliau cyfan.

Mewn eil gymysg sy’n cynnwys cyfuniad o’r eitemau a restrir uchod ac eitemau eraill, nid oes rhaid tynnu pob eitem nad yw wedi’i rhestru o’r silffoedd neu eu gorchuddio os nad yw’n rhesymol ymarferol.

Er mai’r maen prawf o ran p’un a yw’n rhesymol ymarferol rhannu siop fel hyn yw beth y byddai person rhesymol yn ei feddwl, bydd elfen o ddisgresiwn gan reolwr y siop gan mai ef neu hi fydd yn deall cynllun y siop orau. Fodd bynnag, ni ddylai archfarchnadoedd ad-drefnu eu siopau neu sut y gosodir eu nwyddau mewn ffordd sy’n ei gwneud yn anoddach gwahaniaethu rhwng nwyddau hanfodol a nwyddau dianghenraid.

Gwasanaethau clicio a chasglu

Yn wahanol i gyfnodau clo blaenorol, ar Lefel 4 caiff pob siop gynnig gwasanaethau clicio a chasglu neu wasanaethau tebyg, p’un a yw’n ofynnol iddynt gau eu safle ai peidio. Er mwyn lleihau nifer y teithiau y mae pobl yn eu gwneud, rhaid archebu pob eitem a gwasanaeth ymlaen llaw ar-lein, dros y ffôn neu drwy’r post. 

Rhaid rhoi pob mesur rhesymol ar waith i sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael ei gynnal rhwng pobl ar y safle, yn ogystal â phobl sy’n aros i gasglu nwyddau wrth fynedfa’r safle, neu fan casglu awyr agored dynodedig arall. Dylai siopau sicrhau hefyd, os yw’n bosibl, nad oes rhaid i gwsmeriaid ddod i mewn i’r safle manwerthu sydd wedi’i gau o gwbl i gasglu eu nwyddau, a bod mannau casglu yn cael eu trefnu mewn ffordd mor ddiogel â phosibl. Er enghraifft, dylai siopau:

  • sefydlu mannau codi a gadael nwyddau lle bo modd, yn hytrach na’u pasio â llaw
  • trefnu amserau casglu gwahanol i gwsmeriaid gasglu eitemau
  • cynllunio eu system clicio a chasglu i osgoi/lleihau cyswllt pobl ag arwynebau
  • parhau i lanhau’n aml arwynebau nad oes modd peidio â’u cyffwrdd a chynyddu’r defnydd o dechnoleg ddigyffwrdd i ddarparu eu gwasanaethau.

 Gweler y canllawiau ar fesurau rhesymol i gael rhagor o wybodaeth.

Gwasanaethau dosbarthu nwyddau

Mae gan yr holl wasanaethau ar y rhestr hon, p’un a yw’n ofynnol iddynt gau ar Lefel 4 ai peidio, hawl i barhau i ddefnyddio eu safle at ddibenion rheoli’r gwaith o werthu, llogi neu ddosbarthu nwyddau neu wasanaethau os caiff hyn ei reoli ar-lein, dros y ffôn neu drwy’r post.

Dychwelyd nwyddau

Os yw’n ofynnol i’ch busnes gau, ni ddylid caniatáu i gwsmeriaid ddod i mewn i’r siop i ddychwelyd nwyddau. Efallai y byddwch am gynnig dyddiadau hyblyg i ddychwelyd nwyddau.

Gwaith a wneir yng nghartrefi pobl

Gall gwaith a wneir yng nghartrefi pobl, er enghraifft gan fasnachwyr, barhau cyn belled â’i fod yn cael ei reoli mewn ffordd ddiogel a bod y gweithiwr ac aelodau’r aelwyd yn iach ac nad oes ganddynt unrhyw symptomau o’r coronafeirws. Fodd bynnag, rydym yn argymell bod pobl yn ystyried a ellir gohirio’r gwaith yn ddiogel hyd nes y bydd cyfnod Lefel 4 wedi dod i ben.

Fel busnesau eraill, rhaid i bobl sy’n gweithio yng nghartref rhywun arall gymryd pob cam rhesymol i leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws wrth weithio ar aelwydydd pobl eraill. Gweler y canllawiau ar fesurau rhesymol ac ar weithio yng nghartrefi pobl eraill am ragor o wybodaeth.

Argymhellir hefyd na ddylid gwneud unrhyw waith ar unrhyw aelwyd lle mae rhywun yn hunanynysu, oni bai ei fod waith i drwsio nam sy’n peri risg uniongyrchol i ddiogelwch pobl – er enghraifft plymio mewn argyfwng, neu i wneud addasiad er mwyn caniatáu i aelodau’r aelwyd aros yn eu heiddo. Os na ellir osgoi mynd i’r aelwyd (oherwydd sefyllfa frys neu argyfwng), dylid cymryd rhagofalon ychwanegol i gadw gweithwyr a deiliaid tai ar wahân yn llwyr. Yn yr achosion hyn, gall Iechyd Cyhoeddus Cymru roi cyngor i weithwyr ac aelwydydd. Ond ni ddylai gweithiwr sydd â symptomau’r coronafeirws wneud unrhyw waith o gwbl, ni waeth pa mor ysgafn yw’r symptomau.

Ni ddylai busnesau y mae’n ofynnol iddynt gau gynnal eu gwasanaethau yng nghartrefi pobl eraill.

Bwytai, caffis, bariau a thafarndai

Mae’n ofynnol i’r rhain gau ar Lefel 4, gyda’r eithriadau a nodir yn y tabl sydd ymhellach i lawr y dudalen hon. Fodd bynnag, gall gwasanaethau cludfwyd aros ar agor. Mae hyn yn golygu y gall pobl barhau i fynd i mewn i fangre i ddefnyddio gwasanaethau cludfwyd, gan gynnwys gyrwyr sy’n cludo’r bwys, ond rhaid i bob mesur rhesymol gael ei roi ar waith gan y rhai sy’n gyfrifol am barhau â’r busnes er mwyn lleihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws wrth weithio ar aelwydydd pobl eraill. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod 2 fetr o bellter yn cael ei gynnal rhwng personau ar y safle, yn ogystal â phobl sy’n aros i fynd i mewn i’r safle.

Anogir busnesau i gymryd archebion ymlaen llaw ar-lein neu dros y ffôn, ac ni ddylai busnesau ddarparu mannau eistedd dan do nac yn yr awyr agored er mwyn i gwsmeriaid fwyta bwyd neu yfed diod.

Gall bwytai, caffis a thafarndai nad ydynt fel rheol yn cynnig gwasanaethau cludfwyd poeth gynnig gwasanaethau o’r fath ar Lefel 4.

Rhaid i bobl beidio â bwyta bwyd nac yfed diodydd mewn bwytai, caffis na thafarndai wrth iddynt aros am gludfwyd.

Ni ddylai’r lleoliadau hynny sy’n cynnig gwasanaethau cludfwyd gynnwys diodydd alcoholig yn y rhestr hon os nad yw eu trwydded eisoes yn caniatáu hynny.

Cynnal a chadw mangreoedd

Gall perchnogion neu reolwyr y safle, neu bobl sydd wedi’u hawdurdodi ganddynt, gael mynediad at yr holl wasanaethau ar y rhestr hon at ddibenion cynnal a chadw, atgyweirio neu waith arall er mwyn sicrhau eu bod yn barod i ailagor pan ganiateir hyn.

Cydymffurfiaeth

Rhaid i bawb gydymffurfio â’r cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn y Rheoliadau. Bydd busnes sy’n gweithredu’n groes i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn cyflawni trosedd, a allai arwain at ddirwy nad yw wedi’i chyfyngu ar y graddfeydd statudol. 

Yn ogystal, mae busnesau neu safleoedd y gwelir nad ydynt yn cymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws yn ddarostyngedig i drefn orfodi ar wahân a all arwain yn y pen draw arwain at roi hysbysiad cau mangre.

https://llyw.cymru/cau-busnesau-lefel-rhybudd-4?_ga=2.182519398.150116871.1608403095-1006427786.1593779723

Y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau

Caiff busnesau y mae’r cyfyngiadau a roddwyd ar waith ar 4 Rhagfyr gan Lywodraeth Cymru i helpu rheoli lledaeniad COVID-19 wedi effeithio arnynt eu hannog i edrych ar y cynllun grant diweddaraf a gyhoeddwyd. Cynlluniwyd y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau a lansiwyd ddydd Mercher 16 Rhagfyr ac a weinyddir gan Gyngor Sir Fynwy i gefnogi busnesau drwy roi llif arian a’u helpu i oroesi’r cyfnod heriol hwn. Mae’r grant yn anelu i ategu cynlluniau eraill a gyhoeddwyd yn flaenorol i gefnogi busnesau, sefydliadau elusennol a mentrau cymdeithasol (busnesau sy’n ailfuddsoddi unrhyw elw ar gyfer diben cymdeithasol, megis budd cymuned leol).

Mae ffurflenni cais a gwybodaeth am y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau ar gael yn https://www.monmouthshire.gov.uk/restrictions-business-fund o 10am ddydd Mercherr 16 Rhagfyr 2020.


CYNLLUNIAU GRANT

Cronfa ERF Busnesau dan Gyfyngiadau

Mae Llywodraeth Cymru yn lansio’r Gronfa Busnes Cyfyngiadau i gefnogi busnesau sydd wedi cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y cyfyngiadau ychwanegol a roddwyd ar waith i reoli lledaeniad Covid-19 gan ddechrau ddydd Gwener 4ydd Rhagfyr. Pwrpas y grant yw darparu cymorth llif arian i fusnesau a’u helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfyngiadau a gyflwynir.

Darperir gwybodaeth bellach yma cyn gynted ag y bydd ar gael.

Grantiau Datblygu Busnes y Gronfa Cadernid Economaidd

Oherwydd galw mawr, mae Grant Datblygu Busnes ERF yn cael ei atal tra bod Llywodraeth Cymru yn prosesu’r ceisiadau a dderbynnir.

Cronfa Gweithwyr Llawrydd Cyngor Sir Fynwy

Mae ceisiadau i’r gronfa hon bellach wedi cau.

Grant yw hwn i roi cymorth ariannol i weithwyr llawrydd yn y sectorau diwylliannol a chreadigol sy’n wynebu heriau ariannol o ganlyniad i COVID-19.

Diben y grant yw cefnogi gweithwyr llawrydd yn y sectorau diwylliannol a chreadigol sy’n wynebu heriau ariannol yn y cyfnod rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021. Mae’r grant yn ceisio ategu mesurau eraill i gynorthwyo sefydliadau a busnesau yng Nghymru i ymateb i COVID yn rhan o’r Gronfa Adferiad Diwylliannol.

Dyma’r meini prawf ar gyfer y grant:

  • Yn wynebu heriau ariannol yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021;
  • Gweithwyr llawrydd proffesiynol y mae gan eu gwaith ganlyniadau creadigol/diwylliannol uniongyrchol, sy’n gweithio yn y pedwar is-sector allweddol;
  • Y Celfyddydau
  • Diwydiannau Creadigol
  • Digwyddiadau Celfyddydol a Threftadaeth
  • Diwylliant a Threftadaeth
  • Rhaid eich bod yn gweithredu yng Nghymru;
  • Rhaid i chi fod wedi’ch lleoli o fewn yr awdurdod lleol yr ydych yn gwneud cais iddo.

Nid ydych yn gymwys i gael y grant hwn os yw un o’r canlynol yn wir:

  • Rydych, yn ddiweddar, wedi cael arian gan y Grant Cychwyn Busnes a lansiwyd ym mis Mehefin 2020 i helpu busnesau newydd i oroesi canlyniadau economaidd y coronafeirws (Covid-19);
  • Rydych chi’n weithiwr llawrydd sy’n gweithio yn y sector chwaraeon.

Mae’r cyllid hwn yn benodol ar gyfer is-sectorau a swyddi creadigol/diwylliannol sydd wedi cael eu gorfodi i roi’r gorau i weithio a/neu ei chael hi’n anodd ail-ddechrau oherwydd effaith cyfyngiadau Covid-19. Ni ddylai’r rhai hynny sydd mewn swyddi sydd wedi gallu parhau ar lefelau blaenorol neu’n agos at weithgarwch blaenorol gyda neu heb gymorth (e.e. penseiri, dylunwyr graffig, dylunwyr gemau ac ati) wneud cais.

I gael rhagor o wybodaeth am y grant hwn darllenwch ganllawiau’r Gronfa Gweithwyr  Llawrydd yma a gwestiynau cyffredin yma.

Mae grant o £2,500 ar gael fesul unigolyn a bydd ceisiadau’n cael eu trin ar sail y cyntaf i’r felin. Gall hyn arwain at beidio â gwerthuso ceisiadau ar ôl iddynt gael eu cyflwyno os yw’r gronfa wedi’i hymrwymo’n llawn.

Cymorth i Fusnes gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Mae Llywodraeth y DU wedi lansio teclyn ‘cymorth darganfyddwr’ a fydd yn helpu busnesau a phobl hunangyflogedig ledled y DU i benderfynu pa gymorth ariannol sydd ar gael iddynt yn ystod y pandemig COVID-19.

Mae’r offeryn yn gofyn i berchnogion busnes lenwi holiadur ar-lein syml, a fydd yn eu cyfeirio at restr o’r cymorth ariannol y gallent fod yn gymwys ar ei gyfer.

Gellir dod o hyd i’r offeryn darganfyddwr cymorth busnes newydd yn https://www.gov.uk/business-coronavirus-support-finder.

Mae gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gael ar dudalen cyngor Coronoavirus Business Wales. Gellir cyrchu hwn yma: Busnes Cymru

Cronfa’r Dyfodol

Cyhoeddwyd gan y Canghellor ar 20 Ebrill, mae Cronfa’r Dyfodol yn cyhoeddi benthyciadau y gellir eu trosi i gwmnïau arloesol yn y DU sydd â photensial da, sydd fel rheol yn dibynnu ar fuddsoddiad ecwiti ac sydd ar hyn o bryd yn cael eu heffeithio gan Covid-19. Bydd y cynllun, yn helpu’r cwmnïau hyn trwy’r cyfnod presennol o aflonyddwch economaidd a’r adferiad, fel y gallant barhau â’u taflwybr twf a chyrraedd eu potensial economaidd llawn. Dyluniwyd y cynllun gan Lywodraeth y DU a’i ddarparu gan Fanc Busnes Prydain.

Mae mwy o wybodaeth am y cynllun ar gael yma

Mae’r cynllun ar agor ar gyfer ceisiadau tan 30ain mis Tachwedd 2020.

Benthyciadau Bownsio’n Ôl Llywodraeth y DU

Bydd busnesau bach yn elwa o gynllun benthyciadau llwybr cyflym newydd, a fydd yn lansio ddydd Llun 4 Mai.

Bydd y cynllun Benthyciadau Bowns Back Back yn galluogi busnesau i fenthyca rhwng £ 2,000 a £ 50,000 a chael gafael ar yr arian parod o fewn dyddiau.

Bydd benthyciadau yn ddi-log am y 12 mis cyntaf a gall busnesau wneud cais ar-lein trwy ffurflen fer a syml.

Mae mwy o wybodaeth am y cynllun ar gael yma

Mae ceisiadau ar agor tan 30 Tachwedd 2020 a gallwch wneud cais yma

Cymorth gan rwydweithiau busnes lleol

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio’n agos gyda chynrychiolwyr busnes lleol y sir, y byddent i gyd yn hapus iawn i helpu gydag unrhyw ymholiadau busnes unigol a all fod gennych. Islaw mae rhestr o’r cysylltiadau a’r ardaloedd a gynrychiolant: · Cymuned Busnes y Fenni – Lucy Hywel – lucy@thatslovelythat.com · Tîm Tref Cil-y-coed – Aaron Reekes – caldicottownteam@outlook.com · Siambr Fasnach Cas-gwent – Dr Sue Kingdom – secretary@chepstowchamber.com

· Siambr Fasnach Trefynwy – Sher McCabe-Finlaysonsecretary@monmouthchamber.co.uk

Llinell Gymorth Trethiant HMRC

Os ydych fel cyflogwr yn cael anawsterau gyda’ch treth busnes, dilynwch y ddolen islaw i gael canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.null

Cyngor HMRC ar Drethiant Cyflogwyr

Cymorth i fusnesau – cynlluniau newydd rhyddhad ardrethi

Ddydd Llun cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun estynedig o gymorth ar gyfer busnesau y mae’r argyfwng coronafeirws presennol yn effeithio arnynt. Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn derbyn rhyddhad ardrethi busnes 100% ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21.

Byddwn yn dyfarnu’r rhyddhad yn awtomatig. Bydd £100 miliwn ychwanegol ar gael ledled Cymru ar gyfer cynllun grant newydd ar gyfer busnesau bach nad ydynt yn gymwys am y cynllun rhyddhad manwerthu estynedig. Caiff manylion pellach y cynllun grant newydd hwn ei gadarnhau yn y dyfodol agos.

I gael mwy o gyngor cysylltwch â thîm y Dreth Gyngor ar 01633 644630 neu e-bost counciltax@monmouthshire.gov.uk

Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch

Bydd y cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yn darparu rhyddhad ardrethi 100% ar gyfer eiddo a ddefnyddir i drethdalwyr cymwys ar gyfer 2020-21. Bydd y cynllun yn gymwys i eiddo gyda gwerth trethiannol o £500,000 neu lai.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar ryddhad ardrethi ar gae YMA

Arallgyfeirio eich busnes i gynnwys prydau tecawe a dosbarthu?

Yn y cyfnod anodd hwn, rwy’n siŵr y byddwch yn dymuno cynnal parhad busnes a chefnogi eich cymuned ac y gallwch fod am ddechrau cyflenwi bwyd tecawe a dosbarthu bwyd. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Iechyd yr Amgylchedd yma.

I gael rhestr lawn o safleoedd sydd ar gau –
https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/875263/240320_Revised_Guidance.pdf