Skip to Main Content

‘Swyddi ar gyfer pobl ofalgar’ – dyna’r galwad brys gan Gyngor Sir Fynwy wrth iddo fynd ati i recriwtio pobl o bob cefndir ac ardal i gefnogi rhai o breswylwyr mwyaf bregus y sir.

Mae nifer o gyfleoedd ar gael o fewn y tîm Gofal Iechyd – byddin o bobl anhygoel sy’n gweithio i gefnogi preswylwyr sydd angen gofal ychwanegol a helpu i’w cadw yn eu cartrefi eu hunain. Daw’r galwad wrth i’r pwysau cynyddol yn sgil y pandemig a’r pwysau a ddisgwylir yn ystod y gaeaf olygu fod angen adnoddau fel mater o frys. Mae cyfleoedd i drafod patrymau gwaith a fedrai weddu eich anghenion chi a’ch teulu tebyg i oriau rhan-amser.

I gyd-daro gyda’r ymgyrch recriwtio, mae Cyngor Sir Fynwy hefyd wedi lansio ymgyrch yn dangos pa mor werth chweil yw swydd fel gofalwr cartref, yn ogystal â’r cymhellion ar gyfer gweithio gyda Sir Fynwy. Mae hyn yn cynnwys cyfraddau tâl da, tâl ychwanegol am am weithio yn y nos, hyfforddiant â chymorth, gwyliau blynyddol yn ogystal â chyfle i ddatblygu eich gyrfa. Yn bwysicaf oll, gall gofalwyr cartref wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl yn y sir, sydd ag unigrwydd ac arwahanrwydd yn effeithio arnynt.

Ymunodd Christina Harris â thîm Gofal Cartref Sir Fynwy yn ddiweddar. Mae Christina yn annog pobl a allai fod eisiau rhoi cynnig ar lwybr gyrfa gwahanol i gysylltu. Dywedodd: “Fe welais hysbyseb i weithio mewn Gofal Cartref a meddwl y byddwn yn rhoi cynnig arni, ac mae’n rhaid dweud fy mod wrth fy modd. Mae’n un o’r swyddi hynny lle’r ydych yn gweithio ar ben eich hun beth o’r amser ond rydych chi hefyd yn cwrdd â chydweithwyr. Mae gennych chi gefnogaeth lawn ac mae’r bobl hyn yn arbennig iawn. Mae pawb yno i’ch helpu a rydych chi’n rhan o dîm gwych. Rwy’n flin na wnes roi cynnig arni ddeng mlynedd yn ôl. Rydych yn cadw pobl yn eu cartrefi eu hunain, yn cael cyfle i gwrdd â phobl a defnyddio’r sgiliau y byddwn yn eu defnyddio yn fy swyddi blaenorol, tebyg i sgwrsio a sgiliau pobl.”

Dywedodd y Cynghorydd Penny Jones, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: “Mae’r pandemig wedi golygu fod llawer o bobl wedi ailwerthuso eu rhagolygon gyrfa neu’n teimlo eu bod yn dymuno helpu pobl eraill. Bydd y cyfleoedd hyn gyda Gofal Cartref yn gwneud yn union hynny a rydym wir angen i bobl ofalgar gysylltu â ni i gyflwyno’r gwasanaeth hollbwysig yma. Mae’n fwy na dim ond swydd. Mae’n gyfle i gwrdd â phobl newydd, gweithio gyda chydweithwyr gwych sydd i gyd yr un mor angerddol am fod eisiau helpu eraill, a chael eu talu am wneud hynny. Rydym yn croesawu ymholiadau gan bobl o bob math o gefndir, pa bynnag brofiad sydd gennych. Cyhyd â bod gennych yr awydd i ofalu am eraill a gweithio’n galed, gallwn eich cefnogi gyda’r gweddill. Rydym yn awyddus iawn i glywed gan bobl sy’n byw tu allan i Sir Fynwy a fyddai’n hapus i deithio o amgylch ein sir hardd i gyrraedd ein preswylwyr. Cysylltwch heddiw os oes gennych ddiddordeb neu os oes gennych unrhyw gwestiynau.”

Mae’r disgrifiad swydd, ynghyd â manylion cyflog a chymhellion ar gael yn www.monmouthshire.gov.uk/socialcarejobs