Skip to Main Content

Mae’r cyfan amdanoch CHI! Ydi, mae’r gofod llesiant cymunedol newydd yng Nghil-y-coed yn dod i siâp a byddai Cyngor Sir Fynwy wrth eu bodd yn cael eich help i ddylunio arwydd gwych ar gyfer y gofod Gyda’n Gilydd/TogetherWorks! Pobl leol benderfynodd ar ei enw (drwy bleidlais ar-lein a ddenodd dros 600 ymateb), felly mae’n ymddangos yn addas y dylai aelodau o’r gymuned helpu i greu dyluniad i’w ddangos yn llawn balchder ar flaen y gofod o’r math diweddaraf ar gyfer cydweithio cymunedol yn ymwneud ag ailgylchu, gwneud celf a llesiant.

Diddordeb? Os felly darllenwch bopeth am agweddau gwych Gyda’n Gilydd/TogetherWorks i ysbrydoli eich dyluniad. Edrychwch hefyd ar y lluniau o’r gofod a atodir gyda hyn, a rhai o’r prosiectau gwych a ddaw yno:

Llyfrgell Pethau: Bydd hyn yn galluogi preswylwyr i fenthyca pethau nad oes angen iddynt fod yn berchen arnynt, cyfrannu pethau y maent yn berchen arnynt ond nad ydynt eu hangen a chwrdd â phobl i rannu gwybodaeth a sgiliau gyda’r gymuned.

Caffe Atgyweirio: Bydd hwn yn lle i’r gymuned leol ddod ag eitemau wedi torri o’u cartref i gael eu hatgyweirio am ddim gan wirfoddolwyr.

Oergell Gymunedol: Nod y prosiect yma yw lleihau faint o fwyd gaiff ei wastraffu gan roi bwyd am ddim gan farchnadoedd a safleoedd bwyd arall sydd wedi pasio ei ddyddiad gwerthu erbyn ond sy’n dal yn ffres ac o fewn ei ddyddiad defnyddio erbyn.

Gofod Gwneuthurwyr: Mewn cynhwysydd llong pren, mae’r Gofod Gwneuthurwyr yn fan lle gall pobl ddod at ei gilydd i wneud amrywiaeth o gynnyrch newydd o bren, plastig wedi’i ailgylchu ac amrywiaeth o ddeunyddiau eraill. Bydd y gofod yn cynnwys gweithdy saer gydag offer llawn a hefyd dorrwr laser a pheiriannau ailgylchu blastig o’r math diweddaraf.

Tripiau ar Feic Trishaw: Gall preswylwyr hŷn a rhai gydag anawsterau symud hefyd fwynhau tripiau beic trishaw yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ffordd wych i fynd allan o’r tŷ ac ymchwilio’r ardal.

Gall y dyluniadau ar gyfer arwydd Gyda’n Gilydd/TogetherWorks fod mor greadigol a lliwgar ag y dymunwch! Fodd bynnag, hoffem i chi ystyried rhai pethau:

·         Dylai’r arwydd fod yn syml i’w ddarllen

·         Dylai’r arwydd fod yn ddeniadol 

·         Byddai arwydd sy’n hyrwyddo cynhwysiant Gyda’n Gilydd/TogetherWorks yn wych

 Os hoffech gymryd rhan, anfonwch eich dyluniad at Bethan Warrington (bethan.warrington@gavo.org.uk; 07376 023 546).  


Dylid anfon pob cynnig ar gyfer y gystadleuaeth erbyn y dyddiad cau – 4pm ddydd Gwener 24 Gorffennaf.