Skip to Main Content

Cafodd Canolfan Ailgylchu Five Lanes Cyngor Sir Fynwy yng Nghaerwent ei hagor yn swyddogol gyda bargeinion a thrysorau yn aros i gael eu darganfod. Agorwyd y Siop Ailddefnyddio yn swyddogol gan y Cynghorydd Jane Pratt ddydd Iau 8 Gorffennaf.

Mae Siop Ailddefnyddio Five Lanes y gyntaf yn ne Sir Fynwy ac mae’n dilyn yn ôl-troed siop Llan-ffwyst yn y Ganolfan Gwastraff ac Ailgylchu Cartrefi ger y Fenni, a agorodd yn 2019 ac sy’n gwasanaethu gogledd y sir.

Mae’r Siopau Ailddefnyddio yn agos at y Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu Cartrefi ac maent yn cynnig eitemau ail-law am brisiau rhad. Daw’r stoc y ddwy siop o eitemau gan y timau ymroddedig sy’n gweithio yn y ganolfan, gan achub eitemau diogel a defnyddiol wrth iddynt adael cist ceir a chyn eu taflu yn y sgipiau.

Mae holl elw’r siopau Ailddefnyddio’n mynd yn uniongyrchol i raglen plannu coed Sir Fynwy. Mae hyn yn helpu yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd ac yn gostwng costau gwaredu gwastraff y cyngor. Yn yr haf eleni mae siop Ailddefnyddio Five Lanes hefyd yn gwerthu compost/gwellhawr pridd ar £1 y bag. Gwneir y compost o’r gwastraff gardd a ddaw preswylwyr i’r canolfannau ailgylchu a chaiff ei gyflenwi gan Abergavenny Green Waste.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, aelod cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd ar Gyngor Sir Fynwy, a arweiniodd y seremoni agoriadol: “Rwy’n falch i ddatgan yn swyddogol fod y Siop Ailddefnyddio hon ar agor. Hoffwn ddiolch i’n holl dimau Ailgylchu a Gwastraff a’r gwirfoddolwyr sy’n gweithio yn y safleoedd am eu gwaith caled a’u hymroddiad. Drwy greu’r siop newydd yma, gallwn obeithio dyblu’r cyfle i ostwng faint o ddeunydd aiff i domen lanw a phlannu hyd yn oed mwy o goed yn y sir. Hoffwn hefyd ddiolch i’r holl breswylwyr hynny sydd wedi cefnogi’r siopau hyd yma, mae pob ceiniog a wariant yn gwneud gwahaniaeth i’n hymdrechon i  wneud Sir Fynwy yn wyrddach.”

Mae Siop Ailddefnyddio Five Lanes yn dibynnu ar gefnogaeth gan y gymuned leol. Mae staff ymroddedig a thîm o wirfoddolwyr brwdfrydig yn gweithio i stocio’r siop a  chyflwyno’r eitemau gorau ar werth. O offer gardd, yn cynnwys potiau ac offer, pethau cegin, hen bethau, eitemau bach o gelfi, gwydrau, llestri, lluniau, teganau, llyfrau, beiciau ar gyfer pob oed, a phethau i’w casglu, mae’r detholiad yn tyfu’n gyson wrth i fwy o eitemau gael eu hachub gan y tîm ar y safle.

“Mae llawer o eitemau yn y siop bron fel newydd tra byddai eraill yn gwneud prosiectau difyr i’w hadnewyddu,” meddai’r Cyng Pratt. “Mae eitemau fel byrddau coffi yn berffaith ar gyfer ychydig o langylchu gydag ychydig o baent neu gwyr, tra gallai’r cadeiriau fod yn brosiect ailglustogi am ychydig iawn o gost. Byddwn yn annog preswylwyr i ddod ac edrych drostynt eu hunain. Mae faint o stoc a ddangosir yn dangos faint y gallai fod wedi ei wastraffu oni bai am ymdrechon y tîm. Pan brynwch yr eitemau ail-law hyn, rydych yn helpu i blannu mwy o goed yn Sir Fynwy, gostwng faint o ddeunydd aiff i domen lanw a chael bargen i gyd ar yr un pryd. Beth fedrai fod yn well?”

Ers agor Siop Ailddefnyddio Llan-ffwyst ym mis Mehefin 2019, amcangyfrifir y cafodd mwy na 11,000 eitem eu hachub o’r sgipiau ac mae elw wedi helpu i dalu am blannu mwy na 8,100 o goed ar draws Sir Fynwy. Mae’r cyngor yn gobeithio plannu 5,000 o lasbrennau bach a choed ifanc (coed ifanc 6-8 troedfedd o uchder, sy’n gyffredin mewn parciau a gofod agored).

Mae Siop Ailddefnyddio Llan-ffwyst ar agor bob dydd Mercher rhwng 10am-3pm, ac mae Siop Ailddefnyddio newydd Five Lanes ar agor rhwng 10am-3pm bob dydd Iau. I gael mwy o wybodaeth ewch i:  https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/ailgylchu-a-gwastraff/y-siop/