Skip to Main Content

Wrth i’r gwiriwr cymhwyster ar gyfer y cylch nesaf o gyllid Llywodraeth Cymru fynd yn fyw, caiff busnesau yn y sectorau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth Sir Fynwy y mae cyfyngiadau COVID-19 yn dal i effeithio’n ddifrifol arnynt eu hannog i gofrestru.

Gallai’r busnesau cymwys yn y sectorau yr effeithir arnynt (a’u cadwyni cyflenwi) dderbyn taliad o rhwng £1,000 a £25,000, yn dibynnu ar eu maint, strwythur ac amgylchiadau dan gylch diweddaraf y Gronfa Cadernid Economaidd ddiweddaraf. Bydd y pecyn cymorth argyfwng ar gyfer costau gweithredu Gorffennaf ac Awst 2021 busnesau sy’n gorfod aros ar gau ac sy’n parhau i fod wedi effeithio’n ddifrifol arnynt fel canlyniad i barhad y cyfyngiadau.

“Bu busnesau Sir Fynwy yn gweithio’n anhygoel o galed i geisio cael adferiad o effaith y 15 mis diwethaf,” meddai’r Cynghorydd Sara Jones, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, a fu’n ymweld â busnesau ledled Sir Fynwy i glywed eu profiadau drosi ei hun. “Wrth i ni agosáu at dymor gwyliau’r haf, mae’n rhaid i ni beidio anghofio fod llawer sy’n dibynnu ar dwristiaid ac ymwelwyr yn dal i gael trafferthion. Byddwn yn parhau i hyrwyddo’r holl gymorth sydd ar gael ac mae ein Fforwm Cydnerthedd Busnes yn gyfle rheolaidd a pharchus i ni glywed yn uniongyrchol gan fusnesau am yr heriau sy’n eu hwynebu a pha help maent ei angen.

“Cynlluniwyd y cylch diweddaraf hwn o gyllid i gynnig cymorth sydd ei fawr angen ar gyfer busnesau yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a hamdden,” meddai’r Cyng. Jones. “Gallai hyn gynnwys asiantau teithio, atyniadau y bu’n rhaid iddynt gyfyngu niferoedd er mwyn galluogi ymbellhau cymdeithasol a safleoedd a fyddai fel arfer yn derbyn ymweliadau ysgol, er enghraifft. Byddwn yn gofyn i unrhyw fusnes sy’n meddwl y gallent fod yn gymwys i ddefnyddio’r gwiriwr cymhwyster cyn gynted ag sydd modd, rydym eisiau i bawb sy’n gymwys fedru cael mynediad i’r cymorth hwn.”

I fod yn gymwys am gymorth, mae’n rhaid i fusnesau ddangos fod eu trosiant wedi gostwng gan fwy na 60% o gymharu gyda’r cyfnod cyfatebol yn 2019 neu gyfwerth. Bydd yn dal i fod angen i unrhyw fusnesau sydd wedi derbyn taliad grant coronafeirws yn flaenorol i ailymgeisio gan na wneir taliadau yn awtomatig.

Y cam cyntaf i wneud cais yw llenwi’r gwiriwr cymhwyster ar wefan Busnes Cymru. Mae hyn yn galluogi busnesau i wirio eu cymhwyster a faint o gymorth y gallant wneud cais amdano, fydd yn eu helpu i ddechrau paratoi eu ceisiadau.

Mae ceisiadau gan fusnesau cymwys gyda throsiant dros £85,000 ar agor yn defnyddio’r gwiriwr cymhwyster o ddydd Mawrth 13 Gorffennaf 2021 gyda Llywodraeth Cymru yng ngofal y taliadau. Yn y cyfamser, gall busnesau cymwys gyda throsiant o lai na £85,000 wneud cais yn defnyddio’r gwiriwr cymhwyster o ddydd Llun 26 Gorffennaf a chaiff y taliadau hyn eu prosesu gan Gyngor Sir Fynwy.

“Yn y cyfamser, rydym yn parhau i ymestyn ein hymgyrch Siopa Lleol. Mae’n rhoi sylw i rai o’r nifer fawr o fusnesau annibynnol ac yn cynnig ymdeimlad o pam y dylai pawb ymweld,” ychwanegodd y Cyng Jones. “Mae gan bob perchennog busnes neges rymus am pam ei bod yn bwysig lle’r ydym yn gwario ein harian a maent yn angerddol am eu tref neu bentref. Busnesau Sir Fynwy yw bywoliaeth pobl leol, a’u teuluoedd, ac maent yn darparu swyddi lleol. Gofynnwn i chi siopa’n lleol lle bynnag sy’n bosibl.”

Mae mwy o wybodaeth am y Fforwm Cydnerthedd Busnes a dolen i’r gwiriwr cymhwyster ar gael yn https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/cyngor-i-fusnesau/