Skip to Main Content
(Llun: Andy Karran)

Mae adroddiad newydd sy’n ysgogi’r meddwl, a gyhoeddwyd ddydd Mercher 21ain Gorffennaf wedi edrych ar ehangder y bywyd gwyllt yng Ngwent, gan gofnodi’r llwyddiannau ecolegol a nodi’r rhywogaethau hynny sydd fwyaf mewn perygl. Bwriad adroddiad Cyflwr Natur Gwent Fwyaf yw llywio’r Cynlluniau Gweithredu Adfer Natura gwaith cadwraeth arall.  Y gobaith yw y bydd y wybodaeth yn yr adroddiad yn cael ei defnyddio i gyfeirio gwaith cofnodi a monitro pellach, yn ogystal â gweithredu cadwraeth yn y dyfodol. 

Mae’r adroddiad, a ariennir gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru, wedi cynnwys pum Awdurdod Lleol Gwent Fwyaf; edrychodd Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen ar y rhywogaethau a geir yn y rhanbarth. Ei nod yw gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth a chynyddu gwydnwch natur drwy weithio mewn partneriaeth.

Dewisodd partneriaeth Gwent Gydnerth a Phartneriaethau Natur Lleol Gwent 100 rhywogaeth i gynrychioli ehangder y bywyd gwyllt a geir yn y rhanbarth, y mae ei straeon yn ysbrydoli, yn codi pryder, a hyd yn oed yn ein gwneud yn chwilfrydig. Drwy astudio poblogaethau a thueddiadau rhywogaethau, datgelir newidiadau a bygythiadau yn yr ecosystemau ehangach sy’n eu cefnogi. 

(Llun: Andy Karran)

Dywedodd y Cynghorydd Lisa Dymock, aelod cabinet Cyngor Sir Fynwy ar gyfer Llesiant Cymunedol a Chyfiawnder Cymdeithasol:   “Mae’r adroddiad hwn yn darparu gwybodaeth amhrisiadwy a fydd yn ein helpu i dargedu’r rhywogaethau hynny sydd fwyaf mewn perygl.  Mae’n amlwg bod rhai llwyddiannau gwych hefyd.  Mae adar y bwn yn ôl yn bridio ar Wastadeddau Gwent am y tro cyntaf ers 200 mlynedd, er enghraifft, ac mae nythod ystlumod trwyn pedol yn ffynnu. Mae’n destun pryder bod tystiolaeth yn dangos ein bod yn prysur golli cornchwiglod o’r ardal. Pryder mwy fyth yw data sy’n awgrymu y bydd gwiberod yn cael eu colli’n gyfan gwbl o fewn dim ond 30 mlynedd os na fydd dim yn newid.

“I lawer o’r 100 rhywogaeth a gynhwyswyd, dyma’r tro cyntaf i dueddiadau rhanbarthol gael eu cofnodi.  Mae monitro a chasglu data bywyd gwyllt yn eithriadol o bwysig a bydd yn helpu i’n hysbysu wrth symud ymlaen.  Mae’n allweddol i ddiogelu dyfodol ecolegol y rhanbarth.” 

I gael rhagor o wybodaeth am yr adroddiad Cyflwr Natur: https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/cefn-gwlad/resilient-greater-gwent/