Skip to Main Content

Mae adar, gwenyn, planhigion, blodau a choed i gyd wedi cael hwb diolch i fis ‘Mai Dim Torri Gwair’ llwyddiannus ac ymgyrch Natur Wyllt. Dros y ddau fis diwethaf, mae ymylon ffyrdd a mannau gwyrdd wedi’u gadael i dyfu, gan ganiatáu i flodau a glaswelltau gwyllt ddatblygu i gefnogi pryfed peillio. Daw llwyddiant yr ymgyrch wrth i Gyngor Sir Fynwy baratoi ar gyfer misoedd yr haf ac mae’n atgoffa trigolion o’i bolisi torri gwair dethol.

O dan y polisi, bydd caeau chwaraeon, ymylon llwybrau a chyffyrdd ffyrdd yn cael eu torri ac mewn ardaloedd eraill, bydd y glaswellt hirach yn cael ei dorri’n raddol, felly bydd preswylwyr yn sylwi na fydd lawntiau gwyrdd byr yn dychwelyd ar unwaith.  Bydd gan rai mannau gwyrdd mwy lwybrau wedi’u torri drwyddynt, a chylchoedd i ddarparu mannau i bobl eistedd neu blant i chwarae. Bydd hyn yn creu gwyrddwedd mwy amrywiol, gan ddarparu ystod ehangach o gyfleoedd hamdden a chymdeithasol yn ogystal â bod o fudd i fwy o rywogaethau, a gwneud amgylchedd naturiol mwy diddorol.  Bydd y newidiadau hyn yn parhau wrth i’r tymhorau fynd rhagddynt, ac ni chaiff rhywfaint o laswellt ei dorri tan ddiwedd yr haf. Nid oes bwriad i ddychwelyd i laswellt gwastad, wedi’i dorri’n agos drwy fannau gwyrdd y sir, gan nad yw hyn o fudd i’r amgylchedd.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros gynnal a chadw tiroedd a newid yn yr hinsawdd: “Mae wedi bod yn wych clywed yr ymateb hynod gadarnhaol a chefnogol i Mai Dim Torri Gwair gan drigolion, sydd wedi dweud eu bod wedi mwynhau ymddangosiad glaswelltau hirach yn symud yn yr awel, mwy o flodau gwyllt, a chlywed sŵn pryfed yn bwydo. Mae amrywiaeth eang o flodau gwahanol wedi ymddangos mewn parciau ac ymylon llwybrau troed, yn amrywio o lygad y dydd a dant y llew i orthyfail, blodau’r menyn, heboglys a meillion.  Bu rai prin yn ymddangos hefyd, fel y tegeirianau gwenynog egsotig a welwyd yng Nghas-gwent, Trefynwy a Chaerwent.

“Nawr rydym yn symud i’r cam nesaf – mae torri gwair dethol yn ailddechrau. Wrth i’r timau torri gwair weithio’u ffordd o amgylch y sir, byddant yn dal i arsylwi egwyddorion allweddol Natur Wyllt, sy’n bartneru ag ethos Mai Dim Torri Gwair yn berffaith,” meddai’r Cynghorydd Pratt.

Ychwanegodd y Cynghorydd Jane Pratt:  “Mae’r newidiadau yn rhan allweddol o’n hymateb i’r dirywiad trychinebus mewn bioamrywiaeth, yn enwedig yn nifer y pryfed peillio.  Bydd ein polisi torri gwair yn cynyddu cynefinoedd, lloches, ffynonellau bwyd a safleoedd cysgu ar eu cyfer yn uniongyrchol.  Mae angen mwy na blodau ar bryfed peillio i oroesi a ffynnu, mae gan wyfynod a gloÿnnod byw, er enghraifft, cyfnod fel lindys, sydd angen glaswelltau a phlanhigion gwyllt fel danadl poethion fel ffynhonnell fwyd bwytadwy, a rhywle diogel i’w ddatblygu pan fyddant yn eu cyfnod chwiler. Mae blodau gwyllt a phlanhigion yn hanfodol i’r ecosystem, sy’n cefnogi popeth, gan gynnwys pob un ohonom ni. Mae gan ein mannau gwyrdd a’n gerddi, boed mewn trefi neu yng nghefn gwlad, ran hanfodol i’w chwarae, ac mae gan y cyngor ddyletswydd i reoli’r amgylchedd sydd o dan ei reolaeth mewn ffordd gynaliadwy.  Mae ein hegwyddorion Natur Wyllt wedi’u cynllunio gyda hyn mewn golwg. Bydd y newidiadau y maent yn eu cwmpasu yn helpu i wneud ein trefi a’n mannau gwyrdd yn fwy gwydn i newid yn yr hinsawdd ac yn ein helpu ni i gyd wrth i ni wynebu’r heriau sydd o’n blaenau.”

I gael rhagor o wybodaeth am Nature Isn’t Neat ewch i monmouthshire.gov.uk/cy/natur-wyllt/