Skip to Main Content

Canmolwyd byddin ryfeddol wirfoddolwyr Sir Fynwy unwaith eto am eu gwaith yn cefnogi cymunedau ar draws y sir. Daw wrth i ‘Wythnos Gwirfoddolwyr 2021’ dynnu at ei therfyn. Bu gwirfoddolwyr yn hanfodol wrth helpu rhai o’r preswylwyr mwyaf bregus yn ystod y pandemig ac mae eu gwaith wedi parhau wrth i gyfyngiadau ddechrau llacio.

Mae’r digwyddiad blynyddol wythnos o hyd, sy’n dathlu pobl garedig a gofalgar, wedi tynnu sylw at beth o’r gwaith ardderchog sy’n mynd rhagddo  ar draws y sir. Bob dydd, mae miloedd o bobl yn rhoi eu hamser, arbenigedd, gwybodaeth ac ymrwymiad i’r gymuned leol, gan wneud eu rhan i wella ansawdd bywyd i bawb a chefnogi a gwasanaethu eraill. Mae’r rhestr o gyfleoedd posibl i wirfoddoli yn wirioneddol ddiderfyn.

Bu Tîm Gwastraff ac Ailgylchu Sir Fynwy yn diolch i wirfoddolwyr yn siopau ailddefnyddio Llan-ffwyst a Five Lanes, sy’n helpu i gefnogi argyfwng hinsawdd y cyngor drwy annog pobl i ailddefnyddio ac ailgylchu eitemau nad ydynt eu hangen mwyach.

Bu plant hefyd yn cymryd rhan mewn cadw’r sir yn lân drwy hel sbwriel a chefnogi systemau eco drwy ddarparu gofodau byw ar gyfer planhigion ac anifeiliaid.

Wrth siarad am eu gwirfoddolwyr, dywedodd disgyblion o Ysgol Gynradd Thornwell yng Nghas-gwent:

“Cefais fy synnu faint o blastig y gwnaethom ei gasglu, roedd y rhan fwyaf mewn un lle a gwnaeth i ni deimlo’n wirioneddol hapus fod gweddill y goedwig yn eithaf taclus.

“Roedd yn wirioneddol dda i’r amgylchedd i gasglu sbwriel hefyd rydym eisiau i’n hardal leol fod yn braf. Os nad ydym yn helpu yna caiff llawer o’r plastig ei chwythu lawr i’r afon a bydd yn bennu lan yn y môr. Mae hynny’n newyddion drwg iawn i’r bywyd gwyllt sy’n byw yno.

“Roeddem yn teimlo’n wirioneddol falch fod ein hysgol yn gwneud rhywbeth i helpu. Roedd yn llawer o hwyl ac fe fyddwn wir yn ei hoffi ei wneud eto.”

Bu gwirfoddolwyr Addysg Diogelwch Ffordd yn dathlu’r wythnos hon ar ôl derbyn tystsygrifau am gwblhau cwrs Ymwybyddiaeth Diogelu Lefel 2. Mae eu rôl yn hanfodol wrth helpu i gyflwyno addysg diogelwch ffordd ar draws Sir Fynwy,

Mae aelodau’r Cabinet hefyd wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau fel casglu sbwriel a gweithgareddau hyfforddi ar gyfer pobl ifanc.

Dywedodd y Cyng Lisa Dymock, Aelod Cabinet Llesiant Cymunedol a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Mae gwneud eith pwt dros y gymuned yn cael effaith enfawr. Hoffwn ddiolch i bawb ohonoch am eich amser, ymdrech ac ymrwymiad i’n cymunedau ac rwy’n gwybod yn union faint  pa mor werthfawr yw hyn. Rwyf wedi gwir fwynhau mynd allan a gwirfoddoli gan sicrhau y caiff ein sir hardd ei chadw’n lân ac yn rhydd o sbwriel. Mae gwaith gwirfoddolwyr ar draws y sir yn rhyfeddol – a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cynrychioli Sir Fynwy.”

Ychwanegodd y Cyng Sara Jones, Dirprwy Arweinydd y Cyngor sydd hefyd yn gwirfoddoli fel hyfforddydd sgio: “Mae gwirfoddoli mor bwysig nid yn unig am y gwahaniaeth y mae’n ei wneud i eraill ond hefyd y gwahaniaeth y gall ei gael ar y rhai sy’n gwirfoddoli. Rwyf wrth fy modd yn gwirfoddoli oherwydd ei fod yn golygu mod i’n cael treulio amser gyda phlant a phobl ifanc wych bob blwyddyn, gan eu gweld yn cael hwyl, gwneud ffrindiau a datblygu yn nhermau eu taith sgi-rasio. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r holl wirfoddolwyr am bopeth a wnewch i’n cymunedau.”

Wrth i’r digwyddiad blynyddol dynnu at ei derfyn, mae Cyngor Sir Fynwy yn galw ar eraill i ystyried gwirfoddoli, Caiff pobl sydd eisiau rhoi eu hamser i gefnogi eu cymunedau eu hannog i gofrestru ar wefan Fy Sir Fynwy, ourmonmouthshire.org, sydd â manylion y llu o ffyrdd gwahanol y gall pobl helpu heb ymrwymiad hirdymor. Mae hefyd yn rhoi cyfle i bobl fancio amser yr holl oriau a roddant i gefnogi eraill.