Skip to Main Content

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn agor ei wasanaeth llyfrgell i’r cyhoedd o ddydd Llun 29 Mawrth, ond bydd rhai cyfyngiadau’n parhau am o leiaf bythefnos.  Bydd yr ardaloedd llyfrgell ym mhob un o chwe hyb cymunedol y cyngor i ddechrau yn agor ar eu diwrnodau Cais a Chasglu cyfredol:

  • Y Fenni – dydd Mawrth a dydd Iau (10am i 1pm a 2pm i 4pm)
  • Cil-y-coed – dydd Iau a dydd Gwener (9am i 10am a 3pm i 4pm)
  • Cas-gwent – dydd Llun a dydd Mawrth (10am i 4pm)
  • Gilwern – dydd Llun (10am i 12.30pm)
  • Trefynwy – dydd Mawrth (10.30am i 12.30pm a 2.30pm i 6.00pm), dydd Gwener (10.30am i 12.30pm a 2pm i 3.30pm) a dydd Sadwrn (9am i 12.30pm)
  • Brynbuga – dydd Mercher (9am i 5pm) a dydd Sadwrn (9.30am i 12.30pm)

Ni fydd cyfrifiaduron mynediad cyhoeddus ar gael yn ystod y cyfnod hwn ac efallai y bydd angen ciwio ar adegau prysur er mwyn cadw pellter cymdeithasol y tu mewn i’r adeilad.

Bwriedir ailagor yn llawn o 12 Ebrill, ond bydd rhai amrywiadau bach yn parhau o gymharu â’r amseroedd cyn y cyfyngiadau cloi . Er enghraifft, bydd hybiau Cas-gwent a Chil-y-coed yn aros ar gau drwy’r dydd ar ddydd Mercher; bydd Trefynwy a’r Fenni yn parhau i fod ar gau rhwng 1pm a 2pm. Ni fydd agor yn hwyr yn y nos yn ailddechrau yn y Fenni yn ystod wythnosau agor cychwynnol. Bydd amseroedd agor yn parhau i gael eu hadolygu.

Wrth i ailagor y gwasanaeth llyfrgelloedd rhoi cyfle i breswylwyr bori’n gorfforol drwy lyfrau, mae’r cyfleuster Cais a Chasglu wedi bod yn boblogaidd a bydd yn parhau i fod ar gael drwy’r ap Fy Ngwasanaethau Cyngor. Bydd slotiau archebu ar gyfer cyfrifiaduron mynediad cyhoeddus hefyd ar gael cyn 12 Ebrill.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor:  “Wrth i nifer y brechiadau godi a bod cyfyngiadau’n cael eu lleddfu, rydym yn falch iawn o allu croesawu pobl yn ôl y tu mewn i’n hybiau cymunedol i ddefnyddio’r gwasanaeth llyfrgell.  Fodd bynnag, nid yw’r cam hwn heb ei heriau, mae angen llawer o waith paratoi er mwyn i ni fod yn barod ac felly bydd y gwasanaeth yn gweithredu ar lai o oriau am y pythefnos cyntaf. Yn ogystal, byddwn yn mynnu o hyd bod staff, cwsmeriaid a dysgwyr yn defnyddio mygydau wyneb a diheintydd dwylo yn ogystal â chadw at ymbellhau cymdeithasol.”

https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/hybiau-cymunedol-sir-fynwy/

Freepik.com