Skip to Main Content

Yn dilyn y newyddion diweddar am ailagor trefi’n raddol, gyda disgwyl i fanwerthu nad yw’n hanfodol ailagor o 12fed Ebrill, mae Cyngor Sir Fynwy wedi ailddatgan ei ymrwymiad i gefnogi busnesau yn y sir a’i fwriad i barhau i ofyn i Lywodraeth Cymru i edrych ar ffyrdd o helpu’r busnesau hynny sydd wedi disgyn drwy’r bylchau yn y cynlluniau ariannu.

Yng nghyfarfod y Fforwm Cadernid Busnes, a gynhaliwyd ar 17eg Mawrth, a fynychwyd gan gynrychiolwyr busnesau a grwpiau busnes ar draws y sir, y Cynghorydd Bob Greenland, a swyddogion o fewn tîm cymorth busnes y cyngor ac Ymwelwch â Sir Fynwy, y cais oedd am fwy o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Mynegodd busnesau yn y cyfarfod rwystredigaeth a phryder bod y meini prawf presennol ar gyfer y grantiau presennol yn eithrio gormod y mae angen help arnynt yn daer.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy ac Aelod Cabinet dros Fenter: “Rydym yn ddiolchgar am yr arian sydd wedi dod oddi wrth San Steffan a Llywodraeth Cymru i helpu busnesau – swm digynsail – sydd wedi helpu llawer o fusnesau. Yn Sir Fynwy, rydym wedi trosglwyddo £40 miliwn mewn cymorth busnes ers dechrau’r pandemig.

“Fodd bynnag, yn anffodus, mae’r cynlluniau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cyflwyno wedi methu â chefnogi miloedd o fusnesau cyfreithlon ledled Cymru sydd wedi syrthio drwy’r bylchau, oherwydd rheolau y maent wedi’u cyflwyno ar gyfer y cynlluniau hyn.  Mae’r ddau Gynghorydd Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, a fi wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth Cymru dros y mater hwn dro ar ôl tro.  Er hynny, teimlwn nad ydym wedi cael gwrandawiad”.

“Nid yw’r cynnig presennol o grantiau yn helpu’r rhai sydd wedi methu meini prawf penodol – fel yr angen i fod wedi bod wrthi’n masnachu hyd at 4ydd Rhagfyr 2020, neu, yn achos llety hunanarlwyo, i fod wedi bod yn masnachu am ddwy flynedd. Mae llawer o sefydliadau newydd wedi’u heithrio rhag cymorth y mae mawr ei angen, fel y mae llawer o bobl hunangyflogedig.  Mae anghenion y busnesau hyn – sy’n cyfrannu cymaint at economi, enw da ac apêl y sir – yn haeddu cael eu diwallu a dylid eu diwallu.

“Rwy’n credu bod angen cynllun arnom sy’n cael ei weinyddu gan y cyngor, oherwydd gallwn ni weld ble mae’r bylchau yn y cynlluniau hyn, gallwn ni weld y busnesau sy’n mynd i’r wal oherwydd eu bod wedi syrthio drwy’r bylchau. Rwy’n teimlo bod yn rhaid i ni siarad ar ran y busnesau hynny sydd wedi cael eu hanghofio,” meddai’r Cynghorydd.  Greenland.

“Yn ogystal, rydym wedi clywed gan fusnesau sydd angen mwy o wybodaeth a rhybudd o flaen llaw, er mwyn paratoi ar gyfer ailagor. Nid yw dau ddiwrnod o rybudd, i lawer, yn ddigon.  Hoffem weld manwerthu nad yw’n hanfodol yn cael agor pan all archfarchnadoedd werthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol.  Rydym yn clywed am yr angen am gysondeb neges ac am integreiddio negeseuon yn well rhwng Cymru a Lloegr.  Mewn sir yng Nghymru fel Sir Fynwy, sydd ar y ffin â Lloegr, mae’r gwahaniaeth yn achosi dryswch ac mewn llawer o achosion fel ailagor lletygarwch, rhoi busnesau Cymru dan anfantais.”

Yn y cyfarfod diweddar, cadarnhaodd y cyngor y byddai hefyd yn parhau i hyrwyddo busnesau wrth iddynt baratoi i ailagor drwy ymgyrch newydd Siopa Lleol y Gwanwyn. Trafodwyd hefyd y gwaith y mae Ymwelwch â Sir Fynwy wedi bod yn ei wneud i gadw Sir Fynwy ar flaen meddyliau pobl ymhellach i ffwrdd – gan arddangos y lleoliadau gwych, busnesau arloesol, a chynnyrch o safon yn ei hymgyrch Bwydlun Sir Fynwy yn ddiweddar.

Wrth i obeithion gael eu codi ar gyfer codi’r cyfyngiadau Aros yn Lleol ac aros dros nos mewn llety hunangynhwysol i ymwelwyr ar gyfer trigolion Cymru o 27ain Mawrth, mae www.visitmonmouthshire.com/cymraeg/ yn hyrwyddo twristiaeth ddiogel a chyfrifol ac ystod eang o brofiadau awyr agored, gan gynnwys teithiau cerdded. Mae cyfres o ymweliadau â’r wasg a dylanwadwyr hefyd yn cael eu trefnu ar gyfer hwyrach yn y flwyddyn i godi proffil Sir Fynwy fel Prifddinas Bwyd Cymru a’r ystod eang o brofiadau bwyd a diod o ansawdd uchel sydd ar gael.

Mae manylion y cymorth busnes, y cyngor a’r canllawiau diweddaraf cyfredol i’w gweld ar wefan y cyngor: www.monmouthshire.gov.uk/cy/cyngor-i-fusnesau/ sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd.